Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru
Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Anfantais a gwahaniaethu

Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i weithwyr cymdeithasol ddefnyddio eu barn broffesiynol i ymyrryd ym mywydau pobl. Efallai mai un o'r rhesymau am hyn yw eu bod yn tybio bod unigolyn yn agored i niwed mewn rhyw ffordd ac efallai y bydd angen gwneud rhai penderfyniadau ar ei ran hyd yn oed. Mae'n bwysig nodi y caiff y syniad hwn o fod yn 'agored i niwed' ei herio'n aml gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'r grwpiau sy'n eu cynrychioli am nad yw'r term yn cydnabod cryfderau pobl a'i fod ond yn canolbwyntio ar un agwedd negyddol ar eu bywydau.

Ffigur 4

Gweithgaredd 6: Pobl sy'n agored i niwed

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y dasg hon

Meddyliwch am bwy mewn cymdeithas y byddech yn eu cynnwys yn y categori 'pobl sy'n agored i niwed' a pham. Efallai y gallwch ddefnyddio eich profiad gwaith eich hun neu'ch profiadau o gael gwasanaethau.

Gadael sylw

Mae'r bobl sy'n cael gwasanaethau gan weithwyr cymdeithasol yn cynnwys plant, pobl hŷn, pobl â namau corfforol, namau meddyliol neu namau dysgu, pobl sy'n sâl neu'n gofalu am ddibynyddion, pobl â phroblemau cyffuriau neu alcohol, a throseddwyr. Mae hon yn rhestr eithaf hir, ond a yw'r ffaith bod y bobl hyn yn cael gwasanaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol yn golygu eu bod yn 'agored i niwed'? Mae'n anodd ateb y cwestiwn hwn, yn rhannol oherwydd y ffyrdd gwahanol o ddehongli'r term 'agored i niwed'. Er enghraifft, a yw'n cynnwys pobl a fyddai'n wynebu risg o niwed corfforol neu emosiynol pe na fyddent yn cael gwasanaethau, er eu bod yn gallu deall eu hanghenion a gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain? Yn eich barn chi, i ba raddau mae bod yn 'agored i niwed' yn deillio o anfantais gymdeithasol neu ddiffyg cyfleoedd?

Byddwn i gyd yn defnyddio gwasanaethau iechyd a/neu ofal cymdeithasol rywbryd yn ystod ein bywydau - ac efallai y bydd newidiadau mewn polisi cymdeithasol yn ein gwneud yn fwy agored i niwed ar adegau penodol. Er enghraifft, efallai y gall rhywun â phroblemau iechyd meddwl hirdymor ymdopi'n dda â threfniant sy'n cynnwys mynd i weithgareddau yn ystod y dydd mewn coleg lleol. Os bydd y ddarpariaeth hon yn cau oherwydd toriadau ariannol, gall ei iechyd meddwl waethygu. Bydd gallu gweithwyr cymdeithasol i roi help i'r bobl sydd ei angen yn dibynnu ar benderfyniadau polisi cenedlaethol a lleol ynglŷn â phwy sy'n gymwys i gael cymorth. Ar hyn o bryd, caiff asesiadau ynglŷn â phwy sy'n gallu ac nad ydynt yn gallu cael gwasanaethau eu llunio drwy ystyried i ba raddau y mae anghenion yr unigolion yn bodloni meini prawf lleol ar gymhwysedd, y mae'n rhaid iddynt, yn eu tro, adlewyrchu deddfwriaeth gyfredol y wlad honno. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) a ddaeth i rym yn Ebrill 2016 wedi cyflwyno dull gwahanol o ddarparu gwaith cymdeithasol, lle mae gweithwyr cymdeithasol a'u cleientiaid yn gweithio'n llawer agosach â'i gilydd gan gydgynhyrchu er mwyn ceisio dod o hyd i atebion. Gwelir sut y gall cydnabod cryfderau a dewisiadau pobl, a sicrhau bod gweithwyr proffesiynol a dinasyddion yn cydweithio fel partneriaid cydradd ymhob agwedd ar y broses o ddatblygu a darparu gwasanaethau, arwain at ganlyniadau sydd o bwys i'r bobl sydd angen gofal a chymorth.