Ymarfer grymusol
Yng Ngweithgaredd 5 gwnaethoch edrych ar y Cod Moeseg Rhyngwladol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol, sy'n datgan bod angen i weithwyr cymdeithasol ystyried hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol fel egwyddorion canolog i'w hymarfer, yn ogystal â deall sut mae unigolion yn rhyngweithio â'u hamgylchedd. Mae'r cod yn dadlau y dylai gwaith cymdeithasol geisio grymuso a rhoi rhyddid i bobl ac mae'n siŵr bod yn hyn yn golygu meddwl yn ofalus am ddefnyddio termau fel 'agored i newid' i ddisgrifio pobl nad ydynt wedi dewis eu hamgylchiadau ac sydd â llawer o nodweddion ac adnoddau nad ydynt yn 'agored i niwed'. Mae Neil Thompson, awdur ar waith cymdeithasol, wedi cyhoeddi llawer o waith ar edrych y tu hwnt i labeli, stereoteipiau a thybiaethau er mwyn hyrwyddo ymarfer gwaith cymdeithasol grymusol. Yng Ngweithgaredd 8, byddwch yn darllen darn byr o The Social Work Companion (Thompson a Thompson, 2008). Mae hwn yn crynhoi ei safbwynt ynglŷn â sut y dylai gweithwyr cymdeithasol weithio mewn ffyrdd sy'n helpu i rymuso defnyddwyr gwasanaethau ac sy'n herio gwahaniaethu.
Gweithgaredd 7: Ymarfer gwrthwahaniaethol
Darllenwch y darn wedi'i olygu isod, a ddaw o The Social Work Companion. Gwnewch nodiadau byr ar y goblygiadau ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
Ymarfer gwrthwahaniaethol
Mae tuedd i wahaniaethu yn erbyn cleientiaid gwaith cymdeithasol, edrych i lawr arnynt, eu trin fel dinasyddion isradd ac, felly, eu trin yn annheg. Mae'n bwysig felly bod gweithwyr cymdeithasol yn ymwybodol o hyn a'i oblygiadau ar gyfer ymarfer.
Yn nyddiau cynnar ymarfer gwrthwahaniaethol, canolbwyntiwyd yn bennaf ar fynd i'r afael â hiliaeth. Ers hynny, er bod hiliaeth yn dal i fod yn fater pwysig ac yn rhan ganolog o ymarfer gwrthwahaniaethol, mae'r ffocws wedi ehangu i gynnwys gwahaniaethu ar sail rhyw, oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol a mathau eraill o anfantais. Ond mewn realiti, wrth gwrs, mae ymarfer gwrthwahaniaethol yn ehangach fyth na rhestr gyfyngedig fel hon, gan ei fod yn cynnwys arferion heriol ac annerbyniol yn erbyn unrhyw grŵp neu unigolyn sy'n cael eu targedu a'u trin yn annheg.
- Cydnabod arwyddocâd gwahaniaethu ym mywydau pobl - yn enwedig bywydau'r grwpiau difreintiedig hynny rydym yn dod ar eu traws yn aml mewn gwaith cymdeithasol - a pha mor ormesol y gall hyn fod. Yn aml iawn, bydd problemau sy'n ymddangos yn 'bersonol' yn deillio, yn rhannol o leiaf, o wahaniaethu cymdeithasol ehangach. Er enghraifft, gellir cysylltu llawer o'r anawsterau y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn dod ar eu traws â gwahaniaethu, fel anawsterau i gael tai a swyddi. Gall hyn gael effaith sylweddol oherwydd mae diffyg tai a swyddi yn ffactorau pwysig sy'n atal pobl â phroblemau iechyd meddwl rhag delio â'r pwysau sydd arnynt.
- Fel man cychwyn, dylem sicrhau nad yw ein hymarfer ein hunain yn atgyfnerthu gwahaniaethu o'r fath nac yn ychwanegu ato. Mater o ganlyniadau yw gwahaniaethu, nid bwriadau. Hynny yw, os oes unigolyn neu grŵp yn cael eu trin yn annheg am fod pobl yn meddwl eu bod yn wahanol, y canlyniad (eu bod yn cael eu trin yn annheg a thrwy hynny, eu rhoi dan anfantais) yw'r peth pwysig, waeth beth fo'r bwriadau. Mae llawer o wahaniaethu'n digwydd yn anfwriadol (er enghraifft, dibynnu'n ddiarwybod ar stereoteip), ond nid yw hynny'n newid y ffaith bod gwahaniaethu'n digwydd a'i fod yn annerbyniol. Felly, mae ymarfer gwrthwahaniaethol yn galw am rywfaint o hunanymwybyddiaeth ac yn galw arnom i nodi a oes unrhyw agweddau ar ein hymarfer yn atgyfnerthu gwahaniaethu yn ddiarwybod inni - dad-ddysgu tybiaethau neu batrymau ymddwyn sefydledig sy'n seiliedig ar annhegwch (er enghraifft, bod yn nawddoglyd at bobl anabl drwy fod yn rhy awyddus i 'ofalu' amdanynt, yn hytrach na'u helpu i fod yn fwy annibynnol).
- Ceisio mynd i'r afael â gwahaniaethu a'i effeithiau andwyol. Mae gwreiddiau gwahaniaethu yn ddwfn iawn ac yn deillio o ffurfiannau diwylliannol a chydberthnasau pŵer strwythurol yn ogystal â chredoau ac agweddau personol. Yn yr ystyr hwn, gall gwahaniaethu fod yn sefydliadol- hynny yw, yn rhan o systemau a phatrymau sefydliadol o ymddwyn neu dybiaethau. Felly, ni allwn ddisgwyl cael gwared ar wahaniaethu yn gyfan gwbl heb drawsnewid y dirwedd gymdeithasol sydd mor ffrwythlon iddo. Mae hwn yn brosiect hirdymor ac yn brosiect y gall gwaith cymdeithasol ond chwarae rhan ynddo dros y blynyddoedd. Felly, mae angen inni ganolbwyntio'n bennaf ar nodau mwy cymedrol, sef gwneud popeth sy'n rhesymol i atal, gwrthbwyso a dileu gwahaniaethu a'r gormes y mae'n arwain ato. Er enghraifft, wrth helpu teulu o bobl dduon i ddelio â'r hiliaeth y maent yn dod ar ei draws yn y system iechyd meddwl a'i herio, gall gweithiwr cymdeithasol chwarae rhan bwysig iawn i fynd i'r afael â hiliaeth ar gyfer y teulu hwnnw (a all fod o gymorth mawr iawn iddo), a gall hefyd wneud cyfraniad bach i herio hiliaeth mewn cymdeithas yn fwy cyffredinol.
Mae ymarfer gwrthwahaniaethol yn agwedd heriol ar waith cymdeithasol, ond gall methiant i wneud hynny arwain at lawer o broblemau. Nid yw ymarfer gwrthwahaniaethol yn ymarfer arbenigol sydd ond yn berthnasol dan rai amgylchiadau (er enghraifft, pan fo gweithiwr cymdeithasol gwyn yn gweithio gyda chleient du). Yn hytrach, mae'n un o gonglfeini arfer da. Mae angen defnyddio'r ymarfer hwn ymhob agwedd ac ni ddylid ei ystyried fel rhywbeth i'w ychwanegu yn ôl yr angen. Felly, mae'n her fawr. Mae'n rhaid inni felly ddangos rhywfaint o wyleidd-dra yn hyn o beth a chydnabod y byddwn yn gwneud pethau'n anghywir weithiau, ond mae'n hollbwysig ein bod yn ymateb i'r her gystal ag y gallwn - yn unigol ac ar y cyd.
Mae rhai mathau o ymarfer gwrthwahaniaethol wedi bod yn wrthdrawiadol, yn ddogmataidd ac yn or-syml ac nid ydynt wedi ystyried y cymhlethdodau dan sylw. Drwy hynny, maent wedi codi gwrychyn llawer o bobl a fyddai wedi cefnogi ymarfer gwrthwahaniaethol o bosibl. Felly, mae'n hanfodol sicrhau nad yw ymdrechion yn y dyfodol yn y maes hwn yn syrthio i'r un fagl. Ni ddylai addysg a hyfforddiant ar ymarfer gwrthwahaniaethol wneud i bobl deimlo'n euog am eu magwraeth; yn hytrach dylent fod yn brosesau addysgol sy'n ceisio helpu pobl i 'ddad-ddysgu' y tybiaethau, sy'n aml yn wahaniaethol, y maent wedi'u magu i'w credu a mabwysiadu ffyrdd mwy grymusol o weithio gyda gwahaniaethau.
(Darn wedi'i olygu o ‘Theories and theorists’ yn The Social Work Companion, Thompson a Thompson, 2008)
Gadael sylw
Mae'r gwaith darllen hwn yn ymhelaethu ar y syniadau yn y cod moeseg cenedlaethol y gwnaethoch edrych arno yn gynharach, gan ddweud mwy am beth mae gwahaniaethu yn ei olygu mewn bywyd bob dydd. Rhoddir pwyslais ar sut y gall gweithwyr cymdeithasol ddefnyddio eu hawdurdod proffesiynol i adnabod a herio gwahaniaethu a gormes, er enghraifft
- Rydym yn byw mewn cymdeithas a nodweddir gan wahanol fathau o annhegwch sy'n seiliedig ar ddosbarth, hil, rhyw, rhywioldeb, anabledd ac oedran.
- Gall y grwpiau hynny y mae anghydraddoldeb yn effeithio'n andwyol arnynt brofi anfantais a gwahaniaethu a thrwy hynny gael eu trin yn annheg.
- Gall rhaniadau cymdeithasol waethygu siawns bywyd pobl a thanseilio iechyd a lles. (Gwelsoch rai enghreifftiau yng Ngweithgaredd 2.)
Mae llawer o sefyllfaoedd ymarfer penodol lle gallai peidio â herio tybiaethau olygu nad yw pobl yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt - er enghraifft, os bydd gweithiwr cymdeithasol yn credu mai dim ond teulu niwclear traddodiadol yw'r math 'cywir' o deulu, yna gallai ymateb i geisiadau mam lesbiaid am help gydag ymddygiad ei phlentyn sydd yn ei arddegau, gan ddefnyddio rhagdybiaethau am beth sydd wedi 'achosi' anawsterau'r plentyn, heb gael darlun llawn o'r sefyllfa. Neu efallai bod asesiad iechyd meddwl yn cael ei gynnal yn Saesneg am fod y gweithiwr cymdeithasol yn tybio mai dyma sy'n briodol, heb ofyn am anghenion iaith y defnyddiwr gwasanaeth. Yn sgil hyn, bydd gwybodaeth hollbwysig yn cael ei cholli neu bydd y gweithiwr yn ystyried bod y defnyddiwr gwasanaeth yn anghydweithredol neu'n fwy sâl nag y mae mewn gwirionedd. Yn y ddwy enghraifft hyn, mae'n bosibl na fydd pobl sydd angen help yn ei gael, a gallai hyn arwain at ganlyniadau difrifol.
Mae Thompson yn awgrymu sut y gall gweithwyr cymdeithasol weithio'n unol â'r gwerthoedd proffesiynol o drin unigolion gyda pharch a herio anfantais a gwahaniaethu.
Dyluniodd Neil Thompson fodel i fynd i'r afael ag anfantais gymdeithasol, gan gynnwys gwahaniaethu a thlodi: dadansoddiad PCD (Thompson, 1997, 2006). Mae'r model hwn wedi bod yn ddylanwadol ym maes gwaith cymdeithasol ac mae hefyd yn cyd-fynd yn dda â phyramid Rimmer, y byddwch yn darllen amdano isod. Mae Thompson yn awgrymu bod dylanwadau personol, diwylliannol a strwythurol, fel y mae'n eu galw, yn effeithio ar unigolion a bod y rhain yn cyfuno i effeithio ar y ffordd rydym yn ffitio i mewn i'r byd cymdeithasol. Mae'r hyn y mae Thompson yn eu galw yn ddylanwadau 'diwylliannol' yn cynnwys ymagweddau ehangach y mae pobl yn eu rhannu, fel beth yw ymddygiad derbyniol. Mae materion strwythurol yn cyfeirio at y 'darlun ehangach' o drefn cymdeithas ac yn cynnwys agweddau fel polisi llywodraethol a ffurf y wladwriaeth les. Mae Thompson yn galw ei fodel PCD yn 'ddadansoddiad' am ei fod yn ffordd o ystyried y gwahanol agweddau ar sefyllfaoedd y daw gweithwyr cymdeithasol ar eu traws. Fodd bynnag, mae'n pwysleisio ei bod yn bwysig gweithredu yn ogystal â meddwl. Yn ôl Thompson, mae angen i weithwyr cymdeithasol wneud mwy na deall sut mae ffactorau cymdeithasol a ffactorau eraill yn effeithio ar unigolion; mae angen iddynt weithredu ar y ddealltwriaeth hon er mwyn herio anfantais a rhagfarn. Gall dadansoddiad PCD gael ei arddangos ar ffurf diagram (Ffigur 1), sy'n dangos sut mae'r unigolyn neu'r profiad personol wedi'i amgylchynu gan ddylanwadau diwylliannol a strwythurol.