Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru
Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Yr iaith, deddfwriaeth a pholisi

Ar ôl cael ei hallgáu o fywyd cyhoeddus am gyfnod hir, lleihad yn y defnydd a wnaed ohoni yn yr 20fed ganrif, ac wedyn gyfnod o adfywiad (gyda nifer y siaradwyr yn cyrraedd 20.8% ar ei huchaf erbyn cyfrifiad 2001), cyflwynodd Deddf yr Iaith Gymraeg (1993) ofyniad i'r iaith gael ei thrin ar y sail ei bod yn gyfartal â Saesneg mewn busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder. Sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac roedd yn rhaid i gyrff cyhoeddus lunio Cynllun iaith Gymraeg a oedd yn nodi sut y byddent yn gweithio i ddarparu gwasanaethau dwyieithog a dewis iaith i ddefnyddwyr gwasanaethau pan fo hynny'n bosibl.

Fodd bynnag, nid arweiniodd Deddf 1993 at y cynnydd hirddisgwyliedig mewn gwasanaethau Cymraeg ac roedd defnyddwyr gwasanaethau yn dal i wynebu'r rhwystr deuol o ddisgwyliadau cyhoeddus isel a lefelau isel cyfatebol o ddarpariaeth ddwyieithog (Williams, 2011, t. 52), ynghyd â'r ffaith mai'r defnyddiwr gwasanaeth oedd yn gyfrifol am ofyn am wasanaethau dwyieithog, yn hytrach na'r darparwr. Bron 20 mlynedd yn ddiweddarach, rhoddodd darn arall o ddeddfwriaeth, sef Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Y Llyfrfa, 2011), a ddeddfwyd yng Nghymru drwy'r pwerau a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol, statws swyddogol i'r iaith a darparodd hefyd ar gyfer creu Safonau Iaith. Bydd modd i'r cyhoedd yng Nghymru apelio i dribiwnlys ynglŷn â materion ieithyddol a gwasanaethau. Mae i hyn oblygiadau amlwg o ran gwasanaethau cyhoeddus ac ymarfer gwaith cymdeithasol yn enwedig.

At hynny, mae'r cyfrifoldeb am gynnig dewis iaith bellach wedi symud i'r gweithiwr proffesiynol, sy'n gorfod gweithredu'r egwyddor 'cynnig gweithredol' a hynny nid yn unig o dan y strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol Mwy na geiriau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Llywodraeth Cymru 2012), ond fel rhan o'u hymddygiad proffesiynol (CGC, 2014). Mae'r strategaeth hefyd yn nodi'r angen i ddatblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr proffesiynol er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr Cymraeg. Yn wir, yn ôl y strategaeth genedlaethol ar gyfer y Gymraeg, 'canfuwyd bod diffyg hyder yn un o’r prif rwystrau a oedd yn atal staff rhag defnyddio eu sgiliau Cymraeg wrth eu gwaith' (Llywodraeth Cymru, 2012). Mae'n debygol y gall hyn effeithio ar allu sefydliadau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Cydnabuwyd ers tro bod pwysigrwydd y dewis hwn i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn fater o ymarfer gwrthwahaniaethol:

Mae’r Fframwaith Strategol Olynol ‘Mwy na Geiriau’ (Llywodraeth Cymru, 2016) yn amlinellu’r sefyllfa bresennol ynghylch defnydd yr iaith Gymraeg yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn darparu dull systematig i wella gwasanaethau i’r rheiny sydd angen neu’n dewis derbyn eu gofal yn Gymraeg. Amcan Mwy Na Geiriau Fframwaith Strategol Olynol (2016 tud. 4) yw adeiladu ar lwyddiant ei flaenydd ac amlygu i ddarparwyr gwasanaethau bod darparu gwasanaethau yn Gymraeg ‘nid yn unig yn fater o ddewis ond yn fater o reidrwydd’.

Mae’r Pecyn Gwybodaeth Gweithredu’r ‘Cynnig Rhagweithiol’ (Llywodraeth Cymru, 2015) yn darparu mwy o wybodaeth ynghylch sut a pham y dylai ymarferwyr wneud y ‘cynnig rhagweithiol’. Dyelch ddefnyddio’ch sgiliau iaith Gymraeg, beth bynnag yw’ch lefel o arbenigedd. Nid yw’n ofynnol fod ymarferwyr yn cwblhau eu holl waith yn Gymraeg, ond dylent ei defnyddio pan y gallent, oherwydd gwyddom, pan fo hyn yn digwydd caiff groeso gan y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau (Davies, 2017).

The care and counselling services are in a crucial position as they often deal with people who are disempowered, who are in trouble or are disadvantaged in their lives. In such circumstances, real language choice can contribute directly to the process of empowering the individual.

(Davies, t. 59)

Nawr bod y Mesur ar waith a bod strategaeth gadarn ar gael ar gyfer yr iaith sy'n amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran dewis iaith mewn iechyd a gofal cymdeithasol, amser a ddengys p'un a fydd pobl Cymru yn cael dewis ym mha iaith yr hoffent dderbyn gwasanaethau.

Gweithgaredd 9: Mwy na geiriau

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y dasg hon

Gwrandewch ar ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn siarad am bwysigrwydd cael gwasanaethau sy'n sensitif o ran iaith a/neu wasanaethau Cymraeg ar wefan Mwy na geiriau Llywodraeth Cymru. Wrth ichi wneud hynny, gwnewch nodiadau byr ar y canlynol:

  • Pam ei bod hi'n bwysig i bobl gael dewis ym mha iaith yr hoffent dderbyn gwasanaethau?
  • A yw'n eich synnu nad oes gan weithwyr proffesiynol ddigon o hyder i ddefnyddio'r iaith?

Nesaf, ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  • Beth yw eich barn chi ar ddatganiad Thompson yn y gweithgaredd blaenorol na ddylid gwneud i bobl deimlo'n euog am eu magwraeth?
  • Yn eich barn chi, a allai hyn fod yn berthnasol i rai defnyddwyr gwasanaethau sy'n siarad Cymraeg?
  • Pa effaith ddylai hyn ei chael ar ymarfer proffesiynol?