5.2 Sensitifrwydd iaith
Mae Davies (2012) yn tynnu sylw at y tri phrif fater i'w hystyried wrth ymarfer mewn ffordd sensitif o ran iaith yng Nghymru: y personol (gan gynnwys gwerthoedd ac agweddau at yr iaith); y cymdeithasol (gan gynnwys dealltwriaeth o gymhlethdodau defnyddio iaith a dewis iaith); a materion yn ymwneud â phŵer, grymuso a dadrymuso. Mae ymarfer gwrthwahaniaethol, grymusol yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr cymdeithasol fyfyrio ar eu hymarfer eu hunain ac ar eu gwerthoedd personol a phroffesiynol eu hunain. Mae'n rhaid iddynt holi eu hunain p'un a yw'r rhain yn effeithio ar eu hymarfer ac os felly, a yw'r canlyniad o fudd i'r defnyddiwr gwasanaeth neu, ar y llaw arall, a yw'n gwahaniaethu yn eu herbyn ac, felly, yn eu dadrymuso.
Mae sensitifrwydd iaith, felly, yn fwy na mater o ofyn a yw unigolyn yn siarad Cymraeg neu a hoffai gael gwasanaeth Cymraeg. Mae'n ymwneud â gweithio er mwyn grymuso defnyddwyr gwasanaethau i gyfathrebu â'r gwasanaeth yn yr iaith sy'n teimlo fwyaf cyfforddus iddynt. Mae hyn yn golygu rhoi dewis iaith i'r unigolyn, heb wneud unrhyw dybiaeth ynglŷn â pha iaith y dylid ei defnyddio dan amgylchiadau penodol. Mae'n cydnabod y rhesymau cymdeithasol/hanesyddol cymhleth dros ddewis o'r fath. Roedd hanes yr iaith, pan gafodd y Gymraeg ei heithrio o weinyddiaeth gyhoeddus, yn golygu mai dim ond mewn bywyd teuluol a bywyd preifat yr oedd pobl yn ei defnyddio.