Bydd
y cwrs byr hwn yn eich cyflwyno i waith cymdeithasol ac yn datblygu
eich dealltwriaeth o rai o’r damcaniaethau sy’n gysylltiedig ag ymarfer
gwaith cymdeithasol.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
esbonio pam bod bywgraffiadau'n bwysig
deall sut mae damcaniaeth hunaniaeth ac ymlyniad yn cyfrannu at ymarfer gwaith cymdeithasol
gwybod pa nodweddion y mae defnyddwyr gwasanaethau/gofalwyr yn eu gwerthfawrogi mewn gweithwyr cymdeithasol
deall pa werthoedd sy'n rhan annatod o hunaniaeth gweithiwr cymdeithasol proffesiynol