1.1 Gwybodaeth
Beth yn union yw gwybodaeth a damcaniaeth a sut y gallant lywio ymarfer? Mae hwn yn gwestiwn rhy eang i’w ateb yn llawn yma, ond mae’r adran ganlynol yn nodi’r mathau o wybodaeth sy’n berthnasol i ymarfer. Gobeithio y byddwch yn gweld bod gennych lawer o ‘wybodaeth’, waeth beth fo’ch cefndir personol neu’ch cefndir gwaith.
Gweithgaredd 1 Beth rydw i’n ei ‘wybod’ yn barod?
Rhestrwch y mathau o bethau rydych yn eu gwybod yn barod a allai fod yn ddefnyddiol i chi os byddech yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol.
Gadael sylw
Efallai y gwnaethoch feddwl am y canlynol:
Rwy’n gwybod am rai o’r gwasanaethau perthnasol a phwy mae’r rhain yn ceisio eu helpu, er enghraifft, mae clwb cinio i bobl hŷn yn fy stryd, mae fy ffrind yn maethu plant anabl, mae ysgolion a chylchoedd chwarae yn ein hardal. Rwy’n gweithio mewn tîm iechyd meddwl felly rwy’n gwybod am wasanaethau a’r bobl sy’n eu defnyddio.
Rwy’n gwybod sut i weithio gyda phobl, er enghraifft, sut i uniaethu â phobl ifanc yn eu harddegau; rwy’n gwybod beth i’w wneud os bydd rhywun yn teimlo’n ddig neu’n gynhyrfus; rwy’n gwybod sut i fod yn drefnus a sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud.
Rwy’n gwybod rhai pethau am y gyfraith, er enghraifft, pa oedran y gallwch yfed alcohol; y system budd-daliadau; penderfynu a oes gan rywun y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.
Rwy’n gwybod am rai damcaniaethau a syniadau o astudiaethau blaenorol, er enghraifft am ddatblygiad plant, byw’n iach, contractau ymddygiad a systemau gwobrwyo.
Rwyf wedi defnyddio gwasanaethau iechyd, addysg a gofal cymdeithasol gwahanol ac rwy’n gwybod sut mae’r bobl sy’n cael y gwasanaethau hyn yn teimlo.
Wrth i’r syniadau o’r gweithgaredd uchod ddechrau dod i’r amlwg, mae’n debyg y byddwch yn gwybod llawer o bethau sy’n berthnasol i waith cymdeithasol yn barod - mwy na’r disgwyl efallai! Mae’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol Er Rhagoriaeth yn elusen annibynnol a gafodd ei sefydlu i roi cyngor ac arweiniad ym maes gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Yn 2003 cynhaliodd y Sefydliad adolygiad o’r mathau o wybodaeth a oedd yn cael eu hystyried yn bwysig er mwyn meddwl am ymarfer gwaith cymdeithasol a’i lywio. Nododd y canlynol:
- gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau a’u nodau
- gwybodaeth am ymarfer a phrofiad o weithio gyda phobl
- syniadau polisi a blaenoriaethau ehangach y gymuned
- syniadau damcaniaethol ac ymchwil
- gwybodaeth a safbwyntiau am ddefnyddwyr a gofalwyr sy’n deillio o brofiad.
Gweithgaredd 2 Asesu gwybodaeth
Y safbwynt ecolegol
Edrychwch ar yr enghraifft hon o wybodaeth ddamcaniaethol:
Mae’r safbwynt ecolegol... wedi dod yn ddylanwadol iawn ym maes gwaith cymdeithasol ers iddo gael ei gynnwys yn y Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a’u Teuluoedd (Yr Adran Iechyd, 2000 (Lloegr [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ); 2001 (Cymru)). Yn ôl y safbwynt ecolegol, mae’r byd yn rhwydwaith hynod gymhleth o systemau sy’n rhyngweithio â’i gilydd ac yn dibynnu ar ei gilydd (efallai mai’r gadwyn fwyd yw’r enghraifft orau). Wrth gymhwyso’r safbwynt i waith cymdeithasol, caiff y gymdeithas ddynol ei hystyried yn rhwydwaith sy’n awgrymu y gall ymyriad mewn un rhan gael effaith fawr ar eraill. Mae’r duedd i ystyried rhwydwaith o’r fath ar ffurf cylchoedd consentrig (gyda’r unigolyn yn y canol a’r gymdeithas o amgylch y cylch allanol) wedi arwain at y syniad bod yn rhaid i ymyriadau er mwyn helpu unigolyn gael sylw ar lefel gymdeithasol ehangach. Er enghraifft, er mwyn helpu plentyn sy’n chwarae triwant, efallai y bydd angen ymyrryd ar lefel y teulu a’r ysgol.
Cafodd y ddamcaniaeth ecolegol yng nghyd-destun gwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd ei datblygu gan Gordon Jack (2000) a awgrymodd y gall yr amgylchedd cymdeithasol a ffisegol y mae teuluoedd yn byw ynddo fod yn ffynhonnell o gymorth a straen. Hefyd, mae unigolion yn ymateb yn wahanol i’r ‘ffactorau amddiffynnol’ amgylcheddol hyn. Mae Jack yn rhannu ffactorau amddiffynnol yn dri chategori, sef cymorth cymdeithasol, gwydnwch a chyfalaf cymdeithasol. Mae cymorth cymdeithasol yn cyfeirio at gydberthnasau cymdeithasol cefnogol o fewn y teulu neu’r gymuned. Mae gwydnwch yn cyfeirio at adnoddau emosiynol yr unigolyn sy’n ei alluogi i oroesi profiadau anodd a dysgu oddi wrthynt. Mae Jack yn defnyddio’r term ‘cyfalaf cymdeithasol’ i esbonio’r ymdeimlad o berthyn ynghyd ag ymdeimlad o les a balchder cymunedol. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu cyfoeth, ond mae’n annhebygol y bydd byw mewn amgylchiadau difreintiedig iawn heb fynediad at wasanaethau yn creu’r ymdeimlad o berthyn a lles sydd ei angen er mwyn datblygu cyfalaf cymdeithasol.
Sut mae’n ddefnyddiol i waith cymdeithasol?
Os oes ganddynt ddealltwriaeth o’r safbwynt ecolegol, mae gweithwyr cymdeithasol yn gwneud mwy na chydnabod bod pobl a’r systemau cymdeithasol o’u cwmpas yn rhyngddibynnol. Mae’n cyflwyno’r cysyniad o fecanweithiau ymdopi unigol o fewn y systemau hynny, yn ogystal â’r cysyniad o gyfalaf cymdeithasol, sydd â chysylltiad agos â syniadau ynghylch anfantais gymdeithasol. Hefyd, mae’n symud oddi wrth y syniad mae’r defnyddwyr gwasanaethau eu hunain neu’u nodweddion cynhenid (patholeg) sy’n gyfrifol am eu problemau ac yn nesáu at y syniad bod angen deall eu hanghenion o fewn cyd-destun cymdeithasol/gwleidyddol ehangach.
Yn eich geiriau eich hun, crynhowch ddamcaniaeth y safbwynt ecolegol yn eich barn chi.
Meddyliwch sut y gallai’r ddamcaniaeth fod yn gymwys i ddarn o waith a allai fod yn berthnasol yn eich barn chi wrth gefnogi pobl yng nghyd-destun gwaith cymdeithasol.
Gadael sylw
Efallai y gwnaethoch feddwl am rai o’r syniadau isod:
Roedd y ddamcaniaeth yn awgrymu ei bod yn well meddwl am bobl mewn rhwydweithiau neu systemau cysylltiedig, yn hytrach nag fel unigolion ar eu pen eu hunain.
Byddai newid mewn un rhan o’r system yn arwain at newidiadau drwyddi draw (fel syniadau am effaith newid ar yr amgylchedd).
Gallai rhannau gwahanol y system greu straen neu gallent fod yn amddiffynnol. Mae’r elfennau amddiffynnol yn cynnwys cymorth cymdeithasol, gwydnwch (cryfder personol ac agwedd) a chyfalaf cymdeithasol (ymdeimlad o berthyn).
Enghraifft bosibl o hyn yw menyw 89 oed a oedd wedi parhau i fyw gartref ar ei phen ei hun er bod ei golwg yn gwaethygu a bod ganddi nifer o anawsterau corfforol. Gallai sawl ffactor fod wedi arwain at y sefyllfa hon, fel agwedd a phenderfyniad y fenyw, cymorth gan gymdogion a theulu, mynediad hawdd i siopau lleol a’r meddyg, a digon o arian i gynnal y tŷ. Byddai newidiadau i unrhyw rai o’r elfennau hyn yn golygu efallai na fyddai’n gallu parhau â’i ffordd o fyw ac y byddai angen mwy o help arni.