Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i waith cymdeithasol
Cyflwyniad i waith cymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Gwybodaeth

Beth yn union yw gwybodaeth a damcaniaeth a sut y gallant lywio ymarfer? Mae hwn yn gwestiwn rhy eang i’w ateb yn llawn yma, ond mae’r adran ganlynol yn nodi’r mathau o wybodaeth sy’n berthnasol i ymarfer. Gobeithio y byddwch yn gweld bod gennych lawer o ‘wybodaeth’, waeth beth fo’ch cefndir personol neu’ch cefndir gwaith.

Gweithgaredd 1 Beth rydw i’n ei ‘wybod’ yn barod?

Timing: Dylech dreulio tua 10 munud ar y dasg hon

Rhestrwch y mathau o bethau rydych yn eu gwybod yn barod a allai fod yn ddefnyddiol i chi os byddech yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol.

Gadael sylw

Efallai y gwnaethoch feddwl am y canlynol:

  • Rwy’n gwybod am rai o’r gwasanaethau perthnasol a phwy mae’r rhain yn ceisio eu helpu, er enghraifft, mae clwb cinio i bobl hŷn yn fy stryd, mae fy ffrind yn maethu plant anabl, mae ysgolion a chylchoedd chwarae yn ein hardal. Rwy’n gweithio mewn tîm iechyd meddwl felly rwy’n gwybod am wasanaethau a’r bobl sy’n eu defnyddio.

  • Rwy’n gwybod sut i weithio gyda phobl, er enghraifft, sut i uniaethu â phobl ifanc yn eu harddegau; rwy’n gwybod beth i’w wneud os bydd rhywun yn teimlo’n ddig neu’n gynhyrfus; rwy’n gwybod sut i fod yn drefnus a sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud.

  • Rwy’n gwybod rhai pethau am y gyfraith, er enghraifft, pa oedran y gallwch yfed alcohol; y system budd-daliadau; penderfynu a oes gan rywun y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

  • Rwy’n gwybod am rai damcaniaethau a syniadau o astudiaethau blaenorol, er enghraifft am ddatblygiad plant, byw’n iach, contractau ymddygiad a systemau gwobrwyo.

  • Rwyf wedi defnyddio gwasanaethau iechyd, addysg a gofal cymdeithasol gwahanol ac rwy’n gwybod sut mae’r bobl sy’n cael y gwasanaethau hyn yn teimlo.

Wrth i’r syniadau o’r gweithgaredd uchod ddechrau dod i’r amlwg, mae’n debyg y byddwch yn gwybod llawer o bethau sy’n berthnasol i waith cymdeithasol yn barod - mwy na’r disgwyl efallai! Mae’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol Er Rhagoriaeth yn elusen annibynnol a gafodd ei sefydlu i roi cyngor ac arweiniad ym maes gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Yn 2003 cynhaliodd y Sefydliad adolygiad o’r mathau o wybodaeth a oedd yn cael eu hystyried yn bwysig er mwyn meddwl am ymarfer gwaith cymdeithasol a’i lywio. Nododd y canlynol:

  • gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau a’u nodau
  • gwybodaeth am ymarfer a phrofiad o weithio gyda phobl
  • syniadau polisi a blaenoriaethau ehangach y gymuned
  • syniadau damcaniaethol ac ymchwil
  • gwybodaeth a safbwyntiau am ddefnyddwyr a gofalwyr sy’n deillio o brofiad.

Gweithgaredd 2 Asesu gwybodaeth

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y dasg hon

Y safbwynt ecolegol

Edrychwch ar yr enghraifft hon o wybodaeth ddamcaniaethol:

Mae’r safbwynt ecolegol... wedi dod yn ddylanwadol iawn ym maes gwaith cymdeithasol ers iddo gael ei gynnwys yn y Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a’u Teuluoedd (Yr Adran Iechyd, 2000 (Lloegr [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ); 2001 (Cymru)). Yn ôl y safbwynt ecolegol, mae’r byd yn rhwydwaith hynod gymhleth o systemau sy’n rhyngweithio â’i gilydd ac yn dibynnu ar ei gilydd (efallai mai’r gadwyn fwyd yw’r enghraifft orau). Wrth gymhwyso’r safbwynt i waith cymdeithasol, caiff y gymdeithas ddynol ei hystyried yn rhwydwaith sy’n awgrymu y gall ymyriad mewn un rhan gael effaith fawr ar eraill. Mae’r duedd i ystyried rhwydwaith o’r fath ar ffurf cylchoedd consentrig (gyda’r unigolyn yn y canol a’r gymdeithas o amgylch y cylch allanol) wedi arwain at y syniad bod yn rhaid i ymyriadau er mwyn helpu unigolyn gael sylw ar lefel gymdeithasol ehangach. Er enghraifft, er mwyn helpu plentyn sy’n chwarae triwant, efallai y bydd angen ymyrryd ar lefel y teulu a’r ysgol.

Cafodd y ddamcaniaeth ecolegol yng nghyd-destun gwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd ei datblygu gan Gordon Jack (2000) a awgrymodd y gall yr amgylchedd cymdeithasol a ffisegol y mae teuluoedd yn byw ynddo fod yn ffynhonnell o gymorth a straen. Hefyd, mae unigolion yn ymateb yn wahanol i’r ‘ffactorau amddiffynnol’ amgylcheddol hyn. Mae Jack yn rhannu ffactorau amddiffynnol yn dri chategori, sef cymorth cymdeithasol, gwydnwch a chyfalaf cymdeithasol. Mae cymorth cymdeithasol yn cyfeirio at gydberthnasau cymdeithasol cefnogol o fewn y teulu neu’r gymuned. Mae gwydnwch yn cyfeirio at adnoddau emosiynol yr unigolyn sy’n ei alluogi i oroesi profiadau anodd a dysgu oddi wrthynt. Mae Jack yn defnyddio’r term ‘cyfalaf cymdeithasol’ i esbonio’r ymdeimlad o berthyn ynghyd ag ymdeimlad o les a balchder cymunedol. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu cyfoeth, ond mae’n annhebygol y bydd byw mewn amgylchiadau difreintiedig iawn heb fynediad at wasanaethau yn creu’r ymdeimlad o berthyn a lles sydd ei angen er mwyn datblygu cyfalaf cymdeithasol.

Sut mae’n ddefnyddiol i waith cymdeithasol?

Os oes ganddynt ddealltwriaeth o’r safbwynt ecolegol, mae gweithwyr cymdeithasol yn gwneud mwy na chydnabod bod pobl a’r systemau cymdeithasol o’u cwmpas yn rhyngddibynnol. Mae’n cyflwyno’r cysyniad o fecanweithiau ymdopi unigol o fewn y systemau hynny, yn ogystal â’r cysyniad o gyfalaf cymdeithasol, sydd â chysylltiad agos â syniadau ynghylch anfantais gymdeithasol. Hefyd, mae’n symud oddi wrth y syniad mae’r defnyddwyr gwasanaethau eu hunain neu’u nodweddion cynhenid (patholeg) sy’n gyfrifol am eu problemau ac yn nesáu at y syniad bod angen deall eu hanghenion o fewn cyd-destun cymdeithasol/gwleidyddol ehangach.

  • Yn eich geiriau eich hun, crynhowch ddamcaniaeth y safbwynt ecolegol yn eich barn chi.

  • Meddyliwch sut y gallai’r ddamcaniaeth fod yn gymwys i ddarn o waith a allai fod yn berthnasol yn eich barn chi wrth gefnogi pobl yng nghyd-destun gwaith cymdeithasol.

Gadael sylw

Efallai y gwnaethoch feddwl am rai o’r syniadau isod:

  • Roedd y ddamcaniaeth yn awgrymu ei bod yn well meddwl am bobl mewn rhwydweithiau neu systemau cysylltiedig, yn hytrach nag fel unigolion ar eu pen eu hunain.

  • Byddai newid mewn un rhan o’r system yn arwain at newidiadau drwyddi draw (fel syniadau am effaith newid ar yr amgylchedd).

  • Gallai rhannau gwahanol y system greu straen neu gallent fod yn amddiffynnol. Mae’r elfennau amddiffynnol yn cynnwys cymorth cymdeithasol, gwydnwch (cryfder personol ac agwedd) a chyfalaf cymdeithasol (ymdeimlad o berthyn).

Enghraifft bosibl o hyn yw menyw 89 oed a oedd wedi parhau i fyw gartref ar ei phen ei hun er bod ei golwg yn gwaethygu a bod ganddi nifer o anawsterau corfforol. Gallai sawl ffactor fod wedi arwain at y sefyllfa hon, fel agwedd a phenderfyniad y fenyw, cymorth gan gymdogion a theulu, mynediad hawdd i siopau lleol a’r meddyg, a digon o arian i gynnal y tŷ. Byddai newidiadau i unrhyw rai o’r elfennau hyn yn golygu efallai na fyddai’n gallu parhau â’i ffordd o fyw ac y byddai angen mwy o help arni.