Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i waith cymdeithasol
Cyflwyniad i waith cymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Gwerthoedd, moeseg ac ymarfer gwrthormesol

Fel proffesiwn, rhaid cael cymhwyster penodol a rhaid cofrestru â chorff rheoleiddio proffesiynol er mwyn bod yn weithiwr cymdeithasol. Heb wneud hyn, ni all pobl ddweud eu bod yn ‘weithwyr cymdeithasol’. Mae gan bob un o wledydd y DU gorff rheoleiddio gwahanol sydd â’i safonau a’i godau ymarfer ei hun y mae’n rhaid i bob gweithiwr cymdeithasol cofrestredig eu dilyn. Yng Nghymru, er enghraifft, rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol sicrhau bod eu gwaith yn cyrraedd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gwaith cymdeithasol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a’i fod yn seiliedig ar Godau Ymarfer Cyngor Gofal Cymru. I ddechrau, mae’n ddefnyddiol edrych ar beth yw ystyr ‘gwerthoedd’, o ble ddaw gwerthoedd, y cyd-destun sydd wedi ysgogi gwerthoedd gwaith cymdeithasol a sut y cânt eu rhoi ar waith.

Beth yw gwerthoedd gwaith cymdeithasol?

Yn draddodiadol, mae’r gwerthoedd sy’n sail i waith cymdeithasol wedi bod yn ganolog i ymarfer a’r hyn sy’n ei wneud yn wahanol i grwpiau proffesiynol eraill. Heb os, mae’n hanfodol cadw at godau ymddygiad a safonau ymarfer sy’n anelu at amddiffyn y cyhoedd, fodd bynnag, ystyrir bod gwerthoedd gwaith cymdeithasol yn golygu mwy na glynu wrth gyfres o reolau. Oherwydd y mathau o sefyllfaoedd y daw gweithwyr cymdeithasol ar eu traws ac y mae’n rhaid iddynt ddelio â nhw, mae’n rhaid iddynt hefyd ystyried agweddau personol ar eu sylfaen gwerthoedd a gwybod sut mae eu gwerthoedd eu hunain yn effeithio ar eu gwaith. Fel hyn, mae eu hunaniaeth broffesiynol a’u safonau uniondeb proffesiynol yn dylanwadu ar y sefyllfaoedd cymhleth ac anodd y maent yn delio â nhw (Wiles, 2012, Banks, 2010).

Wrth addysgu gweithwyr cymdeithasol, awgrymodd Banks (2010) fod angen ystyried y canlynol:

  • ‘A commitment to a set of values, the content of which relates to what it means to be a ‘good person in a professional role’ and/or a ‘good professional’.

  • An awareness that the values are interrelated to each other and form a coherent whole and that their interrelationship is what constitutes the overarching goals or purpose of the profession.

  • A capacity to make sense of professional values and their relationship to the practitioner’s own personally held values.

  • The ability to give a coherent account of beliefs and actions.

  • Strength of purpose and the ability to implement these values.’

Felly, nid glynu’n fecanistig at reolau a rheoliadau yw hanfod gwerthoedd gwaith cymdeithasol, ond yn hytrach bydd yn rhaid ystyried eich sylfaen gwerthoedd personol a’ch cymhellion dros weithio gyda phobl a all fod yn agored i niwed neu dan anfantais mewn rhyw ffordd. Fodd bynnag, mae yna themâu cyffredinol a gaiff eu hystyried yn gyson yn sylfaen gwerthoedd y proffesiwn. Yn 2012, cyhoeddodd Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) God Moeseg diwygiedig ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a oedd yn pwysleisio ei hymrwymiad i dri gwerth sylfaenol:

Hawliau dynol - parch i werth ac urddas cynhenid pawb fel y mynegir yn Natganiad Hawliau Dynol Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig

Cyfiawnder cymdeithasol - cyfrifoldeb i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, mewn perthynas â’r gymdeithas yn gyffredinol a’r bobl y maent yn gweithio gyda nhw

Uniondeb proffesiynol- cyfrifoldeb i barchu ac arddel gwerthoedd ac egwyddorion y proffesiwn a gweithio mewn ffordd gyfrifol, gonest a dibynadwy (Cod Moeseg ar gyfer Gwaith Cymdeithasol BASW - Datganiad o Egwyddorion (t. 8))

Moeseg ac atebolrwydd

Wrth ddarllen datganiadau ar safonau gwerthoedd proffesiynol, gall fod yn anodd meddwl sut y gallent beri problemau ichi mewn unrhyw ffordd. Mae’n debygol y byddwch yn meddwl y byddwch yn parchu pawb y byddwch yn gweithio gyda nhw neu y byddwch bob amser yn gyfrifol, yn onest ac yn ddibynadwy. Fodd bynnag, mae Cod Moeseg BASW yn cynnwys datganiad ar werthoedd. Mae moeseg yn un agwedd ar werthoedd ac un ffordd o ddeall y term yw ei fod yn ymwneud â datrys cyfyngderau moesol proffesiynol. Mae cod BASW, er enghraifft, hefyd yn nodi’r canlynol:

  • bod yn rhaid i weithwyr cymdeithasol weithio gyda buddiannau anghyson a hawliau croes

  • bod gan weithwyr cymdeithasol rôl i’w chwarae i gefnogi, amddiffyn a grymuso pobl, yn ogystal â dyletswyddau statudol a rhwymedigaethau eraill a all fod yn orfodol a chyfyngu ar ryddid pobl

  • bod gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cyfyngu gan yr adnoddau sydd ar gael a pholisïau sefydliadol y gymdeithas. (Cod Moeseg ar gyfer Gwaith Cymdeithasol BASW - Datganiad o Egwyddorion (t. 6))

Mae gweithwyr cymdeithasol yn aml yn chwarae rhan bwysig wrth ddatrys cyfyngderau moesol o’r fath, er enghraifft, wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â risg, amddiffyn a chyfyngu ar ryddid. Yn y sefyllfaoedd hyn, dylech weithredu ar sail mwy na’ch credoau personol yn unig. Rhaid ichi fod yn ymwybodol o werthoedd cyhoeddus eich asiantaeth a gwneud penderfyniadau doeth ar sail yr holl wybodaeth a phrofiad sydd gennych. Mae mwy nag un gweithiwr yn gyfrifol am ystyriaethau moesegol fel arfer, fodd bynnag, ac mae polisïau a strwythurau atebolrwydd asiantaethau yn cynnwys canllawiau a safonau y gallwch eu defnyddio i fesur eich ymarfer. Atebolrwydd, felly, yw’r broses sy’n galluogi cyflogwyr a’r cyhoedd i farnu ansawdd ymarfer gweithwyr proffesiynol a’u dwyn i gyfrif am eu penderfyniadau a’u camau gweithredu.

Ymarfer gwrthwahaniaethol a gwrthormesol

Mae gwerthoedd personol a phroffesiynol ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol, yn ymwneud â mwy na’r ffyrdd unigol o drin defnyddwyr gwasanaethau. Mae gan waith cymdeithasol safbwynt cymdeithasol cynhenid sy’n cydnabod bod cyfleoedd a siawns mewn bywyd yn dod o dan ddylanwad ffactorau ehangach na nodweddion personol fel cymhelliad neu ddeallusrwydd, er enghraifft. Fel enghraifft arall, os cawsoch eich magu mewn teulu tlawd, byddech yn fwy tebygol o aros yn dlawd a marw ynghynt (Marmot, 2008). Os ydych yn berson ifanc du neu anabl yn eich ugeiniau cynnar yn y DU, rydych ddwywaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant o gymharu â phobl ifanc wyn a phobl ifanc heb anabledd (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2010).

Nid oes esboniadau syml dros yr ystadegau hyn; fodd bynnag, gan fod gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda phobl sy’n ymddangos fel pe bai grymoedd cymdeithasol yn eu rhoi dan anfantais yn bennaf, mae deall sut y gall y grymoedd hyn effeithio ar unigolion yn bwysig iawn i waith cymdeithasol. Daw’r ddealltwriaeth hon wedyn yn rhan annatod o ffordd o weithio sy’n ceisio bod yn wrthwahaniaethol ac yn wrthormesol.