Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i waith cymdeithasol
Cyflwyniad i waith cymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.5 Sgiliau

Mae gweithwyr cymdeithasol yn datblygu eu sgiliau drwy eu profiadau ymarfer yn bennaf. Fodd bynnag, mae’n ddefnyddiol cael fframwaith i’ch helpu i ddysgu a deall.

Rydym yn defnyddio pedwar categori o sgiliau yn ein fframwaith:

  • Sgiliau meddwl - dadansoddi, rheoli, myfyrio a gwerthfawrogi

  • Sgiliau defnyddio’r synhwyrau - gwrando a siarad, arsylwi, deall a mynegi teimladau

  • Sgiliau sy’n cyfuno sgiliau meddwl a sgiliau defnyddio’r synhwyrau – rhoi a chael adborth adeiladol, cyfweld, arwain, negodi, cefnogi

  • Sgiliau sy’n cefnogi eich astudiaethau a’ch ymarfer - ysgrifennu myfyriol, sgiliau llythrennedd gwybodaeth a digidol, sgiliau ysgrifennu proffesiynol ac academaidd.

Ymhlith y sgiliau eraill sydd eu hangen ar weithwyr cymdeithasol mae:

  • Arddulliau ysgrifennu myfyriol, proffesiynol ac academaidd
  • Sgiliau meddwl, megis myfyrio a dadansoddi
  • Y gallu i adnabod a herio agweddau gwahaniaethol
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu
  • Sgiliau TGCh a llythrennedd gwybodaeth (y term cyfunol ar gyfer y rhain yw llythrennedd gwybodaeth a digidol).

Bydd y gweithgareddau yn y cwrs yn eich cyflwyno i rai o’r sgiliau hyn.