2 Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Yn yr adran hon byddwch yn meddwl am yr unigolion sydd wrth wraidd y broses gwaith cymdeithasol - y defnyddiwr gwasanaeth a’r gweithiwr cymdeithasol. Mae’r cydberthnasau rhwng gweithwyr cymdeithasol a defnyddwyr gwasanaeth yn rhan annatod o bob ymyriad gwaith cymdeithasol, ymhob maes gwaith cymdeithasol. Mae’r gallu i feithrin cydberthnasau â defnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr, cynnal y cydberthnasau hynny a myfyrio’n onest arnynt yn hollbwysig i ymarfer gwaith cymdeithasol. Yn yr adran hon, byddwn yn edrych ar rai agweddau ar ymarfer gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gydberthnasau ac yn ystyried rhai o’r cwestiynau sy’n deillio o’r math hwn o waith cymdeithasol.
Byddwch yn ystyried sgiliau sy’n ymwneud â defnyddio empathi a phwysigrwydd hynny; byddwch hefyd yn ystyried hunaniaeth ac yn cael eich cyflwyno i ymarfer myfyriol. Gyda’i gilydd, yr elfennau hyn yw sylfeini ymarfer gwaith cymdeithasol.