Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i waith cymdeithasol
Cyflwyniad i waith cymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Bywgraffiadau

Stori’ch bywyd

Er mwyn dechrau astudio bywgraffiadau, byddwn yn ystyried math penodol iawn o wybodaeth; y math o wybodaeth sy’n aros yn breifat i’r rhan fwyaf ohonom ac sy’n bersonol i bob un ohonom: ein hanes a’n bywgraffiad personol.

Nawr, meddyliwch am y person rydych yn ei adnabod orau: chi eich hun!

Gweithgaredd 3 Stori’ch bywyd

Timing: Dylech dreulio tua 20 munud ar y dasg hon

Darllenwch y cyfweliadau ag unigolion gwahanol ynglŷn â sut y gwnaethant ddechrau eu gyrfa gwaith cymdeithasol, a pha ddigwyddiadau bywyd neu drobwyntiau a oedd wedi dylanwadu o bosibl ar eu dewis o alwedigaeth. Byddwch yn darllen straeon gweithiwr cymdeithasol sefydledig, cynorthwyydd gofal a dau weithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso.

Download this audio clip.Audio player: cym-k113_1_audio.mp3
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Wrth ichi ddarllen, nodwch brofiadau bywyd gwahanol y siaradwyr a sut y gwnaethant ddechrau eu gyrfa gwaith cymdeithasol.

Gwnewch rai nodiadau ar eich bywyd eich hun a’r hyn sy’n eich denu i ddysgu am waith cymdeithasol. Pa ddigwyddiadau bywyd, neu drobwyntiau, sydd wedi dylanwadu ar eich diddordeb yn eich barn chi?

Nawr, cymharwch eich profiadau â’r rhai a ddisgrifir uchod. Yn eich barn chi, sut gall eich profiadau bywyd lywio eich cydberthnasau â defnyddwyr gwasanaeth?

Gadael sylw

Mae’r gweithgaredd hwn yn un personol ond gwerthfawr iawn. Mae pobl yn dewis gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol am bob math o resymau: er mwyn gwneud daioni; helpu eraill; newid y byd; oherwydd eu cefndir teuluol neu brofiad o golled, salwch neu anabledd; er mwyn wynebu eu problemau eu hunain neu, yn syml, drwy hap a damwain.

Yn ôl arolwg o fyfyrwyr a oedd yn cael hyfforddiant gwaith cymdeithasol yn 2011, roedd ffactorau personol a ffactorau gyrfa wedi dylanwadu ar eu dewis i astudio gwaith cymdeithasol. Ymhlith eu cymhellion, roedd y canlynol:

  • Allgaredd - awydd i wneud gwahaniaeth, helpu eraill a brwydro yn erbyn anghyfiawnder.

  • Nodweddion personol a phrofiad y myfyriwr - y gallu i gyd-dynnu â phobl, gweithio mewn tîm ac, i rai, roedd yn ddewis gyrfa addas oherwydd eu profiadau bywyd.

  • Ffactorau gyrfa - fel swydd hyblyg sydd â chyflog da a rhagolygon gyrfa da.

  • Natur y gwaith o ddydd i ddydd - amrywiaeth, lefel uchel o foddhad swydd a chyfrifoldeb personol.

(Yn seiliedig ar Stevens et al., 2012)

Felly mae llunio’r cysylltiad rhwng profiad personol a’r hyn y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei gynnig i’w hymarfer yn amlwg yn gam cynnar pwysig i ddod yn ymarferydd myfyriol.

Bywgraffiad fel hanes

Yn gynharach, gwnaethoch feddwl am eich bywyd eich hun a rhai o’r prif ddylanwadau arnoch. Gallai’r broses hunanfyfyrio hon, o’i datblygu, fod yn sylfaen i stori’ch bywyd. Os byddech yn penderfynu ‘dweud eich stori’, sut y byddech yn ei strwythuro? Efallai y byddech yn disgrifio eich bywyd mewn ffordd gronolegol, o’ch plentyndod hyd at y presennol. Mae’n debygol y byddech yn gwneud hyn gan ddefnyddio’r digwyddiadau cymdeithasol a gwleidyddol ar y pryd fel cefndir a byddech yn cynnwys manylion hanesyddol yn eich stori. Mae’n debygol hefyd y byddech yn datblygu ‘rhediad stori’, sy’n esbonio eich profiadau drwy sylwadau sy’n eu cysylltu. Dyma fyddai stori’ch bywyd, neu’ch hunangofiant, yn eich geiriau eich hun, ond byddai hefyd yn ddarn o hanes: darlun o gyfnod hanesyddol a chyfres o ddigwyddiadau, drwy eich profiadau uniongyrchol chi.

Gall y syniad o stori bywyd, neu fywgraffiad, gael ei gymhwyso i waith cymdeithasol a gellir ei ddefnyddio fel ffordd o ystyried ei hanes. Yn yr adran nesaf, byddwch yn darllen bywgraffiad plentyn anabl a gafodd brofiad o waith cymdeithasol nifer o flynyddoedd yn ôl, er mwyn cael cipolwg ar agweddau ar y pryd a’u heffaith ar y plentyn.

Plant ag anableddau

Yn draddodiadol, defnyddiwyd y polisi ‘iachaol’ yn eang ym maes gofal plant (Midwinter, 1994). Nod y polisi hwn oedd trin y plant a’r oedolion hynny y tybiwyd eu bod yn ddiffygiol mewn rhyw ffordd mewn lleoliadau pwrpasol. Roedd y sefydliadau hyn yn aml yn lleoedd digroeso a oedd yn cynnig ‘iachâd’ didostur i’r rhai a oedd yn ddigon anffodus i gael eu hanfon yno. Dyma fu ffawd llawer o blant anabl yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae Out of Sight: The Experience of Disability 1900–1950 (Humphries a Gordon, 1992), yn hynod o berthnasol yn hyn o beth gan ei fod yn portreadu bywydau pobl ‘gyffredin’ ag anableddau ym Mhrydain drwy eu llygaid eu hunain ac yn eu geiriau eu hunain, o’u plentyndod tan eu bod yn oedolion.

Mae Mary Baker, er enghraifft, yn cofio sut y cafodd ei hanfon yn 1935, pan roedd yn 12 oed, i Neuadd Halliwick ar gyfer Merched Methedig, sefydliad gan Eglwys Loegr i ferched ag anableddau corfforol a meddyliol. Anabledd Mary oedd bod ei chlun wedi datgymalu, gan ei gwneud yn gloff. Roedd wedi byw gyda’i rhieni a’i thri brawd nes 1933. Bu farw ei mam y flwyddyn honno a phenderfynodd yr awdurdodau na fyddai eu tad yn gallu gofalu amdanynt ar ôl iddo gael ei anafu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. O ganlyniad, cafodd y plant eu hanfon i’r tloty yn Wimborne Minster. Pan roeddent yno, cafodd Mary eu gwahanu oddi wrth ei brodyr a’i hanfon i Neuadd Halliwick. Dyma ei stori.

Mary Baker

Pan gyrhaeddais i Halliwick gyntaf, aeth y nyrs â fi i’r ystafell ymolchi a thynnodd fy nillad i gyd. Torrodd fy ngwallt yn fyr uwchben fy nghlustiau. Ac yna, defnyddiodd rhyw fath o bowdr i ladd llau. Yna, cefais fy rhoi mewn bath a chefais fy sgrwbio â sebon coch. Roedd yn brofiad diraddiol iawn. Roeddwn i’n teimlo bod y byd ar ben ac felly, eisteddais i yn y bath a llefain y glaw. Ta beth, fe wnaethon nhw ddweud wrtha’ i nad oedd pwynt crïo cyn fy sychu. Roedd y tywelion mor arw - roedd yn teimlo fel pe baen nhw’n defnyddio papur swnd. Yna, roedd yn rhaid imi wisgo iwnifform Halliwick, sef sanau, tiwnig a siwmper glas tywyll, a chefais fy nhywys i’r ystafell gysgu - roedd yr ystafell yn teimlo’n anferthol ac roedd tua deg gwely ynddi. Es i mewn i’r ystafell a gorwedd ar fy ngwely newydd. Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy ac yn teimlo nad oedd neb yn poeni amdana. Ta beth, dydw i ddim yn credu imi gysgu’r noson honno, roeddwn i’n teimlo mor unig. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud - doedd dim syniad gen i. Ond roedd y lle yn anferthol ac yn unig. Ac roeddwn i’n teimlo ar goll ac yn meddwl, beth rydw i’n mynd i’w wneud nawr heb neb sy’n fy ngharu?

Roeddwn i wedi dechrau bywyd newydd. Roedd fy nhad gartref - yn bell i fwrdd - ac roeddwn i’n meddwl bod pawb wedi troi cefn arnaf. Rwy’n credu imi grïo drwy’r nos. Felly, dyma’r dechreuad. Y bore wedyn, roeddech yn cael rhif ac roedd yn rhaid ichi ei gofio. Fy rhif i oedd 29 a phen godais i ymolchi, roedd fy rhif ar fy nhywel a’r clwt sychu. Roedden nhw wedi defnyddio teclyn mawr poeth, tebyg i bocer, i roi’r rhif 29 ar bob brwsh gwallt a phopeth arall a oedd gennyf. Roedd y rhif 29 wedi’i farcio ar bopeth, felly allai byth anghofio’r rhif yna. Roedd yr un rhif ar ein loceri yn yr ystafell chwarae, ac roedd ein rhifau wedi’u gosod ar ein dillad hefyd fel bod pawb yn gwybod beth oedd yn berchen iddyn nhw. Fyddai neb byth yn ein galw wrth ein henwau cyntaf, heblaw am y merched eraill. Ac os byddai’r Metron am eich gweld, byddai’n galw 29 neu ba rif bynnag oedd gennych. Doedd gennym ni ddim enwau yno, dim ond rhifau. Roedd popeth yn ddisgybledig iawn. Doeddwn i ddim yn gallu deall i ddechrau pam bod gan bawb rifau yn hytrach nag enwau. Roeddwn i’n teimlo’n eithaf isel am y peth. Doeddwn i ddim wir yn gallu mynegi fy nheimladau, ond roeddwn i’n teimlo’n unig iawn.

(Dyfynnwyd yn Humphries a Gordon, 1992, tud. 68–70)

Mae stori Mary yn dangos y nodweddion gwaethaf sy’n gysylltiedig â cholli’ch cartref a’ch teulu a chael eich anfon i sefydliad. Gwelwn i bob cysylltiad â’i chartref gael ei dorri ac iddi golli pawb a phopeth a oedd yn bwysig iddi. Mae’n cofio’r ymdeimlad o anobaith llwyr, y teimlad bod pawb wedi troi cefn arni ac nad oedd unrhyw un yn poeni amdani. Dechreuodd y broses o’i sefydlu yn y neuadd ar unwaith gyda’r broses o dynnu ei dillad, torri ei gwallt a’r bath gorfodol. Nid oedd ganddi enw mwyach, ‘rhif 29’ oedd hi o hynny ymlaen.

Mae’r stori hon hefyd yn enghraifft o hunangofiant sydd hefyd yn ddarn o hanes. Gallwn weld a theimlo, drwy brofiadau personol Mary, arferion gofal plant y cyfnod. Drwy ei stori, gallwn hefyd ddeall rhywfaint o’r agweddau cynnar tuag at deuluoedd tlawd a phlant anabl a chael cipolwg ar effeithiau dad-ddynoli ofnadwy sefydliadau o’r fath.

Ffigur 3 Neuadd Halliwick

Rhoi bywgraffiadau yn eu cyd-destun

Mae’n bwysig peidio â chyffredinoli ar sail un bywgraffiad, fel un Mary Baker. Nid oedd pob cartref plant mor greulon â hyn. Ond byddai symud plant mor ifanc oddi wrth eu teuluoedd a’u gosod mewn cartrefi newydd wedi bod yn brofiad poenus iawn. (Humpries a Gordon (1992), tt71 -2).

Felly, rhaid rhoi bywgraffiad (neu hunangofiant) unigolyn yn ei gyd-destun a’i werthuso’n ofalus. Ond os caiff ei defnyddio’n sensitif, gall stori bywyd wella ein dealltwriaeth o brofiadau’r unigolyn dan sylw yn ogystal â hanes. O’r herwydd, mae’n hollbwysig i waith cymdeithasol.

Gosod polisïau yn eu cyd-destun

Er ei bod yn hawdd heddiw beirniadu arferion fel anfon plant anabl i sefydliadau, mae’n bwysig cofio bod polisïau ac arferion gwaith cymdeithasol yn dal i ddod o dan ddylanwad blaenoriaethau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y cyfnod. Un enghraifft o hyn yw’r ymatebion polisi yn 2012 i anghenion plant sydd wedi’u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd ac sy’n teithio ar eu pen eu hunain i’r DU fel ffoaduriaid neu geiswyr lloches. Mae tensiwn cynhenid rhwng y cyfreithiau a’r polisïau mewn perthynas â mewnfudo a’r hyn rydym yn ei ddisgwyl wrth bolisïau ac arferion sydd wedi’u creu i amddiffyn plant.

Wrth ystyried profiadau plant sy’n geiswyr lloches, nododd Coram Children’s Legal Centre yn 2012:

At present, the lower-quality care received by those children is in part due to ‘the government’s limited funding for refugee children and negative attitudes to these children within some departments’ and also the widespread misconception that immigration issues ‘trump’ welfare concerns. Despite calls for them to be treated as children first and migrants second, the opposite approach is often seen in practice.

(Coram Children’s Legal Centre, 2012, p. 6)
(The Guardian, 2010)
Ffigur 4 ‘There are more than 4,200 unaccompanied child asylum seekers in Britain, with most being supported in local authority social services homes’

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech wybod mwy am blant sy’n ffoaduriaid, gallwch wrando ar storïau sawl plentyn ar wefan y Cyngor Ffoaduriaid [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] neu ewch i wefan Cyngor Ffoaduriaid Cymru i ddysgu mwy am gymorth i blant sy’n ffoaduriaid yng Nghymru.

Gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gydberthnasau

Mae storïau pobl, neu’u bywgraffiadau, yn aml yn dylanwadu ar eu cydberthnasau drwy gydol eu bywydau. Mae’r gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau a myfyrio arnynt yn sgil hanfodol ar gyfer gwaith cymdeithasol. Rydych wedi dechrau myfyrio ar eich bywgraffiad eich hun ac wedi edrych ar astudiaeth achos mewn hanes. Mae’r darn darllen canlynol yn nodi’r ddamcaniaeth ar gyfer ‘gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gydberthnasau’, sy’n un ffordd o ymgymryd â gwaith cymdeithasol.

Cymerwch eich amser i fynd drwy’r darn darllen. Efallai yr hoffech ei ddarllen ddwywaith gan ddefnyddio’r cwestiynau isod i’ch tywys drwyddo. Mae rhai o’r syniadau yn y darn braidd yn gymhleth ond yn werthfawr iawn!

Gweithgaredd 4 Ymarfer sy’n seiliedig ar gydberthnasau

Timing: Dylech dreulio tua awr ar y dasg hon

Darllenwch y darn isod ‘What do we mean by relationship-based practice?’, o Social Work: An Introduction to Contemporary Practice (Wilson et al. (2011) t. 809).

Relationship based practice reading Wilson Act 4

Wrth ichi ddarllen, nodwch yr atebion i’r cwestiynau canlynol.

  • Beth mae’r awduron yn ei awgrymu yw prif nodweddion ymarfer sy’n seiliedig ar gydberthnasau?

  • Sut maent yn egluro’r defnydd o’r hunan (‘use of self’) mewn gwaith cymdeithasol?

  • Beth maent yn awgrymu yw un o’r heriau mwyaf y dewch ar ei thraws mewn ymarfer gwaith cymdeithasol proffesiynol sy’n seiliedig ar gydberthnasau?

Gadael sylw

Mae’r awduron yn awgrymu mai ystyr gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gydberthnasau, yn ei hanfod, yw meithrin cydberthnasau â defnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr, a deall sut y maent yn gweithio.

Mae’r darn darllen yn awgrymu’r canlynol:

  • Mae pob cyswllt gwaith cymdeithasol yn unigryw.

  • Mae ymddygiad dynol yn gymhleth ac mae iddo ddimensiynau emosiynol ac anymwybodol yn ogystal â dimensiynau rhesymegol ac ymwybodol.

  • Mae gan bob unigolyn ‘fydoedd mewnol’ y mae’n eu defnyddio i wneud synnwyr o’r byd yn ogystal â ‘bydoedd allanol’.

  • Mae’r gydberthynas rhwng y gweithiwr cymdeithasol a’r defnyddiwr gwasanaeth yn rhan hollbwysig o’r ymyriad mewn gwaith cymdeithasol.

Hynny yw, mae’r awduron yn dadlau na chaiff gwaith cymdeithasol ei gyflawni gan gyfres o ‘dechnegwyr’ yn unig ac y gall ansawdd y gydberthynas rhwng y gweithiwr cymdeithasol a’r defnyddiwr gwasanaeth gael effaith ar y canlyniad.

Maent yn awgrymu bod meddwl am ‘ddefnyddio chi eich hun’ yn hynod o bwysig mewn gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gydberthnasau. Mae hyn yn cydnabod bod gan weithwyr proffesiynol, yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth, ddimensiynau rhesymegol ac emosiynol i’w hymddygiad.

Mae’r awduron yn awgrymu mai un o’r heriau wrth ddefnyddio gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gydberthnasau yw bod angen i weithwyr cymdeithasol nid yn unig sylwi ar beth sy’n digwydd i’r defnyddwyr gwasanaeth ar adeg benodol ond hefyd ystyried eu meddyliau, eu teimladau a’u hymatebion eu hunain i gysylltiadau proffesiynol.

Pwyntiau allweddol

  • Mae sensitifrwydd i fywgraffiad a stori bywyd yn ffordd o ddeall bywydau unigolion a dyma’r cam cyntaf i ddod yn ymarferydd myfyriol.

  • Gall bywgraffiadau fod yn gymwys i fywydau unigolion a gallant hefyd fod yn ffordd o astudio hanes.

  • Gall bywgraffiadau a storïau bywyd fod yn werthfawr iawn er mwyn deall a dilysu bywydau pobl sydd ar yr ymylon a phobl dan anfantais.