Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i waith cymdeithasol
Cyflwyniad i waith cymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Hunaniaeth a hunaniaethau

Hunaniaeth

Yn yr adran flaenorol, gwnaethom ystyried pwysigrwydd bywgraffiadau unigol pobl er mwyn deall pwy ydynt. Mae bywgraffiadau o’r fath yn rhan bwysig o bwy ydym ni. Yn yr adran hon, byddwn yn ystyried rhai o’r syniadau sydd wedi cyfrannu at ddealltwriaeth gweithwyr cymdeithasol o’r cysyniad o ‘hunaniaeth’ a’i bwysigrwydd. Mae’r syniadau hyn i gyd yn enghreifftiau o’r math o wybodaeth neu ddamcaniaethau sy’n llywio ymarfer gwaith cymdeithasol.

‘Figure 5  It’s all about me

Gall meddwl am eich stori bywyd eich hun a storïau bywyd pobl eraill wneud ichi sylweddoli nad dim ond profiadau pobl sydd o ddiddordeb inni, ond beth mae’r profiadau hynny yn ei olygu iddynt a sut maent yn effeithio ar eu bywydau. Wedi’r cyfan, bydd rhai digwyddiadau yn ymddangos fel pe baent yn bwysicach nag eraill; rydym i gyd yn credu bod rhai profiadau yn fwy arwyddocaol nag eraill. Fel hyn, rydym yn llunio darlun o’n hunain, sef ‘ein hunaniaeth’. Ond beth yw ystyr ‘hunaniaeth’? Gall un diffiniad defnyddiol ddechrau drwy ddweud mai hunaniaeth yw ffordd yr wyf yn gweld, yn disgrifio neu’n diffinio fy hun. Eto i gyd, mae’r cysyniad o hunaniaeth yn golygu mwy nag y mae’r diffiniad hwn yn ei awgymru. Yn yr adran hon, bydd yn rhaid ichi ystyried eich hunaniaeth eich hun a hunaniaeth a briodolir. Yn ogystal â’r syniadau gwahanol am hunaniaeth, byddwch yn ystyried y ffyrdd y mae’r rhain yn effeithio ar waith cymdeithasol.

Byddwch wedi sylwi mai teitl yr adran hon yw ‘Hunaniaeth a hunaniaethau’ ac efallai bod hynny’n swnio’n eithaf rhyfedd ichi. Fodd bynnag, mae’n tynnu sylw at ddadl bwysig amdanom ni ein hunain: ai’r un person ydym ni yn y bôn, sydd â syniad eithaf cyson amdanom ni ein hunain nad yw’n newid fawr ddim mewn sefyllfaoedd gwahanol? Neu a yw ein hunaniaeth yn gymhleth ac yn cael ei thrawsnewid gan y ffordd rydym yn ymateb i debygrwydd a gwahaniaethau rhyngom ni ein hunain a’r bobl o’n cwmpas? Mae’r farn bod hunaniaethau’n newid yn gyson (O’Hagan, 2001) yn helpu i’n hatgoffa bod hunaniaethau llawer o bobl yn newid drwy’r amser, wrth iddynt ddatblygu teyrngarwch newydd a wynebu pwysau, heriau a newidiadau o ran y ffordd y maent yn gweld eu hunain a’u byd. Gall hyn arwain at oblygiadau pwysig i weithwyr cymdeithasol a defnyddwyr gwasanaeth, fel yr eglura O’Hagan:

Professionals in health and social care, particularly in mental health, know only too well that the process of identity change can constitute a major crisis for their clients. That process is often risk laden, heightening alienation and vulnerability, and necessitates much understanding and empathy.’

(O’Hagan (2001), t. 29)

Hunaniaethau cymhleth

Mae’r safbwynt mwy cymhleth hwn ar hunaniaeth wedi cael ei ddatblygu gan Stuart Hall, damcaniaethwr diwylliannol sydd wedi dadlau nad rhywbeth a roddwyd neu rywbeth sefydlog yw hunaniaeth. Dywed ‘it is a matter of “becoming” as well as of being’ (Hall, 1990). Awgryma fod hunaniaeth yn rhywbeth nad yw byth yn gyflawn, a’i bod yn fwy defnyddiol meddwl am ‘uniaethu’ fel proses yn hytrach na ‘hunaniaeth’ fel sefyllfa sefydlog (Hall, 1990 t.51). Awgrymau syniadau Hall ‘who we are’ is strongly determined by feeling an affinity with ‘people like us’ or people with whom we share ideas, values, beliefs or experiences.

Bydd llawer o bobl yn rhannu’r cysylltiadau hyn â phobl o’u hamgylch wrth iddynt dyfu i fyny (teulu, ffrindiau a chymunedau), ond mae syniadau Hall ynglŷn â hunaniaeth hefyd yn caniatáu ar gyfer profiadau a chydberthnasau’n ddiweddarach mewn bywyd yn dylanwadu’n fawr ar unigolion, a all gael dylanwad yr un mor fawr ar y ffordd rydym yn ein gweld ein hunain. Yng nghyd-destun gwaith cymdeithasol, gallai enghreifftiau gynnwys rhywun sy’n ymgyfarwyddo â’i dreftadaeth enedigol yn oedolyn, datblygu credoau ysbrydol newydd neu hyd yn oed cael profiad o addysg uwch a hyfforddiant proffesiynol a all esgor ar ymdeimlad cryf o hunaniaeth ymhlith rhai pobl, ond a all beri i eraill ymddieithrio. Yn yr un modd, i rai pobl, nid yw eu bywyd ‘proffesiynol’ yn ganolog i’r ffordd y maent yn ymuniaethu; gallai hyn fod yn eilaidd i rywedd, statws priodol, ethnigrwydd, crefydd neu agweddau eraill.

Gall arwyddocâd agweddau penodol ar hunaniaeth rhywun amrywio. Er enghraifft, yng nghyfrifiad 2011 yng Nghymru a Lloegr, dywedodd 59% o bobl eu bod yn Gristnogion (SYG, 2011). Fodd bynnag, yng Ngogledd Iwerddon a rhannau o’r Alban mae disgrifio eich hun yn ‘Gatholig’ neu’n ‘Brotestant’ yn ddatganiad pwysig, nid yn unig am ffydd grefyddol, ond hefyd am fod yn perthyn i gymuned benodol a’r cyfan sy’n gysylltiedig â hynny. O dan yr amgylchiadau hynny, mae daliadau crefyddol yn gryfach o ran diffinio hunaniaeth na sawl priodoledd arall. Yn yr un modd, gall fod cysylltiad agos rhwng cenedligrwydd neu iaith a hunaniaeth, er enghraifft a yw pobl yn dweud eu bod yn Gymry neu’n Brydeinwyr, yn siarad Cymraeg ai peidio, ac mae rhai pobl sy’n Fwslimiaid neu’n Iddewon yn ystyried bod eu hunaniaeth grefyddol yn ganolog i’w bodolaeth a’u ffordd o fyw, tra bod cymuned, teulu, cenedligrwydd, ethnigrwydd neu ddosbarth yn bwysicach i hunaniaeth Mwslimiaid ac Iddewon eraill. Efallai y bydd grwpiau lleiafrifoedd hefyd yn gweld eu hunaniaethau’n cael eu ffurfio’n rhannol gan yr achosion o wahaniaethu ac allgau a brofir ganddynt, sy’n golygu, wrth i wahaniaethu newid, y gall hunaniaethau newid yn yr un modd. Efallai y bydd hunaniaeth pobl eraill yn deillio o ardal ddaearyddol, ac y maent yn dweud ‘I’m a Londoner’, ‘I’m a Geordie’, ‘Un o Abertawe ydw i’ neu ‘I’m Glaswegian’. Mae pobl yn aml yn defnyddio’r termau hyn pan fyddant oddi cartref er mwyn pwysleisio ym mha ffordd y maent yn wahanol i eraill. Fel yr awgryma Hall, mae’r pwys a roddir ar wahanol agweddau ar hunaniaeth yn debygol o newid ac amrywio dros amser ac wrth i amgylchiadau newid.

Hunanddiffiniad

Mae llawer o agweddau pwysig ar fywyd a all helpu i ffurfio hunaniaeth, gan gynnwys cenedligrwydd, dosbarth, crefydd, rhyw, rhywedd ac ethnigrwydd.

Gweithgaredd 5 Sut rydych yn diffinio’ch hun?

Timing: Dylech dreulio tua 20 munud ar y dasg hon

Ysgrifennwch restr o eiriau y byddech yn eu defnyddio i ddiffinio’ch hun, yn nhrefn pwysigrwydd. Nodwch sawl un o’r rhain sy’n cyfeirio at eich gwaith a’ch gweithgareddau hamdden (y pethau rydych yn eu gwneud) a sawl un sy’n cyfeirio at eich nodweddion personol (yr hyn yr ydych).

Yna gofynnwch i rywun rydych yn ei adnabod yn dda i gwblhau’r ymarfer hwn amdanoch chi. Cymharwch eich rhestr chi â’u rhestr nhw.

Gadael sylw

Sut brofiad oedd cynnal yr ymarfer hwn? Nodwch eich bod newydd gymhwyso’r drafodaeth ddamcaniaethol flaenorol am natur gyfnewidiol hunaniaeth at eich bywyd a’ch profiadau’ch hun.

A oedd ffactorau megis ethnigrwydd, dosbarth, rhyw, daliadau gwleidyddol, hunaniaeth rywiol, credo (neu ddiffyg credo) a bwydlysieuaeth yn ffactorau pwysig yn eich rhestr, neu a wnaethoch gynnwys eraill?

Dylai’r ymarfer hwn ddangos pa mor gymhleth y gall y cysyniad o hunaniaeth fod a dylai eich rhybuddio rhag gwneud tybiaethau ynglŷn â hunaniaethau pobl eraill.

Hunaniaeth a bennwyd

Gellir ystyried hunaniaethau a bennwyd yn hunaniaethau y mae pobl eraill, neu gymdeithas, yn eu priodoli i chi o bosibl. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, hunaniaethau ar sail rhyw ac oedran sydd wedi’u gwreiddio mewn profiad cymdeithasol cynnar iawn.

Efallai y bydd gwrthdaro rhwng y ddau fath o hunaniaeth. Mae llawer o ddefnyddwyr gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft, yn canfod bod eu barn ohonynt hwy’u hunain (eu hunaniaeth eu hunain) yn wahanol i farn cymdeithas ohonynt (hunaniaeth a bennwyd), a bod yr olaf yn aml yn negyddol ac yn seiliedig ar stereoteip. Mae stereoteipio yn broses o briodoli cyfres o briodoleddau i unigolyn yn seiliedig ar eu haelodaeth dybiedig o grŵp penodol. Mae hefyd yn golygu symleiddio gwybodaeth am sefyllfaoedd cymhleth. Er enghraifft, mae llawer o bobl hŷn yn canfod bod eu hunaniaeth ond yn cael ei gweld yn nhermau un briodoledd, sef eu hoedran, a’r hyn y tybir ei fod yn gysylltiedig â’r oedran hwnnw, tra bod eu nodweddion, eu galluoedd a’u profiadau unigol yn cael eu hanwybyddu. Yn yr un modd, mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu portreadu’n un grŵp ac yn aml yn cael eu stereoteipio mewn ffilmiau, llyfrau a rhaglenni teledu yn bobl dwp neu dreisgar ac felly’n bobl i’w hofni.

Mae stereoteipiau’n cynrychioli safbwyntiau cymdeithas mewn ffordd gaeth a gorsyml. Gall fod yn ddigon hawdd i unigolion dderbyn neu fewnoli stereoteipiau fel y byddant yn dod i gredu eu bod yn wir amdanynt hwy eu hunain neu eraill. Mae dod yn ymwybodol o’r ffordd rydym wedi mewnoli rhai tybiaethau ynglŷn â phobl o bosibl cyn dod i adnabod yr unigolyn yn iawn yn rhan bwysig o waith cymdeithasol. Efallai eich bod yn teimlo eich bod wedi cael eich stereoteipio’ch hun. Er enghraifft, efallai y byddwch wedi dod ar draws rhai stereoteipiau o weithwyr cymdeithasol ac wedi sylwi bod hyn yn effeithio ar eich barn am waith cymdeithasol. Pa mor gywir yw’r stereoteipiau hyn, yn eich barn chi? A ydynt yn cynnwys unrhyw wirionedd? Sut mae cael eich stereoteipio yn y ffordd honno yn gwneud i chi deimlo?

Er ein bod yn cydnabod bod stereoteipiau yn bodoli yn ein diwylliant ac y gallant ddod yn rhan o’n hymatebion a’n hagweddau personol, mae’n bwysig ym maes gwaith cymdeithasol ein bod yn treulio amser yn meddwl am ein tybiaethau, ac yn dod yn ymwybodol ohonynt.

Gweithgarwch 6 Meddwl am eich stereoteipiau eich hun

Timing: Dylech dreulio tua 20 munud ar y dasg hon

Edrychwn ar y delweddau hyn ac atebwch y cwestiynau isod.

Ffigur 6 Delweddau wedi’u stereoteipio
  • Ym mha ffyrdd y mae rhai o’r bobl neu’r grwpiau hyn wedi’u stereoteipio gan gymdeithas yn gyffredinol, yn eich barn chi?

  • A yw’r delweddau hyn yn atgyfnerthu’r stereoteipiau neu eu herio, yn eich barn chi?

  • A oes unrhyw stereoteipiau o bobl neu grwpiau roeddech yn eu harddel yn y gorffennol neu sy’n effeithio arnoch nawr, yn eich barn chi?

Gwnewch nodyn unrhyw bryd rydych yn credu eich bod wedi cael eich stereoteipio. Sut deimlad oedd hynny?

Gadael sylw

Dewiswyd y delweddau hyn am eu bod yn herio stereoteipiau - er enghraifft, y dybiaeth nad yw pobl hŷn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau peryglus a chyffrous. Dewiswyd y lluniau er mwyn awgrymu y dylid herio a meddwl am stereoteipiau. Sut y gwnaethoch ymateb iddynt? A oes gennych enghreifftiau eraill o heriau i stereoteipiau?

Nid yw’n hawdd herio stereoteipiau ond mae’n bwysig gwneud hynny. Gall yr hyn y mae pobl eraill yn ei gredu ddylanwadu ar bob un ohonom, ond fel rhan o feithrin sgiliau da ym maes gwaith cymdeithasol mae angen myfyrio ar y tybiaethau a wnawn ynglŷn â sut y gallai pobl feddwl, teimlo neu ymddwyn ar sail stereoteip.

Hunaniaethau a ddifethwyd: stigma

Yn ei glasur o lyfr Stigma (1963), mae’r sosiolegydd o Ganada, [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] Erving Goffman, yn dadlau bod stigma yn ymwneud â’r cysyniad o ‘ddibrisio’, lle mae unigolyn yn anghymwys i gael ei dderbyn yn llawn yn gymdeithasol. Mae cymdeithas yn dod o hyd i ffyrdd o gategoreiddio pobl a’r hyn a ystyrir yn briodoleddau ‘naturiol’ neu ‘arferol’ ar gyfer pob categori. Mae stigma, felly, yn label difrïol (negyddol) yn y bôn sy’n ymsefydlu, un sy’n cael ei gymhwyso at ‘natur wahanol’ unigolyn, ei anghydffurfiaeth ganfyddedig, gwyredd neu’n syml wahaniaeth mewn ymddangosiad neu ymddygiad. Yna caiff yr unigolyn hwnnw ei anfrio. Gall stigma ddeilio o nam corfforol neu feddyliol, o gofnodion bywgraffyddol hysbys (fel tymor yn y carchar neu gyfnod yn yr ysbyty) neu oherwydd cyd-destun (cadw ‘cwmni drwg’) Gall gael ei briodoli (e.e. troseddwr oedd ei dad, felly rhaid ei fod yntau hefyd yn droseddwr) neu ei gyflawni (e.e. dod yn un sy’n troseddu).

Mae Guffman yn dadlau bod cymdeithas yn tueddu i gredu bod yr unigolyn ‘yn is-ddynol’ a bod hyn yn arwain at fath o wahaniaethu sy’n lleihau ei gyfleoedd bywyd. Wrth gwrs, mae unigolion sydd wedi’u stigmateiddio yn debygol o fod yn ymwybodol iawn nad yw eraill yn eu derbyn ac nad ydynt yn barod i ddelio â hwy ar sail gydradd. Efallai y bydd eu sensitifrwydd eu hunain i’r safon a bennwyd gan gymdeithas hefyd yn arwain at ymgorffori ychydig o’r farn honno yn eu barn ohonynt hwy eu hunain. Fel y noda Goffman,

‘shame becomes a central possibility, arising from the individual’s perception of one of his own attributes as being a defiling thing to possess.’

(Goffman, 1963, t.18)

Anaml y mae hunaniaeth a hunaniaeth a bennwyd ar wahân i’w gilydd. Maent yn rhyngweithio â’i gilydd ac yn effeithio ar ei gilydd. Hynny yw, mae ein barn ohonom ni’n hunain o anghenraid yn cael ei ffurfio gan farn pobl eraill ohonom.

Anaml y mae hunaniaeth a hunaniaeth a bennwyd ar wahân i’w gilydd. Maent yn rhyngweithio â’i gilydd ac yn effeithio ar ei gilydd. Hynny yw, mae ein barn ohonom ni’n hunain o anghenraid yn cael ei ffurfio gan farn pobl eraill ohonom.

Meddyliwch eto am brofiad Mary Baker o fynd i Neuadd Halliwick. Mae’r enghraifft hon yn dangos yn glir sut y gall hunaniaeth rhywun weddnewid, yn yr achos hwn drwy gael ei dderbyn i ofal preswyl. Roedd gan Mary farn ohoni’i hun hyd nes iddi gael ei derbyn yno, ond o dan drefn Neuadd Halliwick cafod ei thrin fel rhif, yn hytrach ag unigolyn a oedd yn meddu ar enw a natur unigolyn. Hyd yn oed heb wybod rhagor am hanes Mary, byddai’n rhesymol tybio y gallai’r hunaniaeth a bennwyd iddi fod wedi peri iddi deimlo’r ‘cywilydd’ a ddisgrifiwyd gan Goffman ac iddi golli ei hunan-barch. Gallwch weld yma sut y gall diffiniadau cymdeithasol o grŵp wedi’i stigmateiddio (plant sydd ag anableddau yn yr achos hwn) gael effaith ddinistriol ar y ffordd y cânt eu trin ac felly’r ffordd y maent yn meddwl ohonynt hwy eu hunain.

Mae hanes Mary Baker yn ein hatgoffa y gall y drefn mewn rhai sefydliadau gofal fod yn niweidiol i hunaniaeth unigolyn a’i bod yn niweidiol. Mae amddifadu pobl o’u nodweddion unigol drwy eu gwisgo yng ngwisg y sefydliad, eu galw’n rhif yn hytrach na defnyddio eu henw a thrwy drin pawb yr un fath yn ymosodiad pwerus ar hunaniaeth oedolyn - a hyd yn oed yn fwy ar hunaniaeth plentyn. Gall gofal preswyl, fel pob amgylchedd byw, gael dylanwad mawr o ran pennu hunaniaeth preswylwyr, er gwell neu er gwaeth.

Damcaniaethau seicolegol ynglŷn â datblygiad

Ceir nifer o ddamcaniaethau seicolegol ynglŷn â datblygiad dynol ac mae pob un yn pwysleisio rhywbeth ychydig yn wahanol. Awgryma David Howe

‘by psychosocial we mean that area of human experience which is created by the interplay between the individual’s psychological condition and the social environment…’.

(Howe, 2002)

Awgrymodd Erik Erikson, seicdreiddiwr o’r Almaen a weithiai yn UDA o’r 1930au fod wyth cam mewn bywyd, o fabandod i henaint, a bod pob cam yn cyflawni ei dasg benodol ei hun o ran datblygu hunaniaeth uigolyn (Erickson, 1950). Mae’r ddamcaniaeth hon wedi bod yn ddylanwadol iawn ym maes gwaith cymdeithasol ac mae’n parhau i fod yn ddylanwadol.

Mae gwaith Erikson, a gwaith damcaniaethwyr eraill, wedi cael ei feirniadu am fod yn seiliedig ar astudiaethau a oedd yn cynnwys poblogaethau gwyn yn Ewrop Gogledd America, nad oedd felly yn ystyried ymagwedd diwylliannau eraill tuag at nodi datblygiad (Robinson, 2002). Cydnabu Erikson ei hun nad oedd ei ddamcaniaeth o hunaniaeth seicogymdeithasol o bosibl yn berthnasol i bawb am ei bod yn seiliedig ar ei ymarfer clinigol ei hun. Eto i gyd, mae gan ei ddamcaniaeth gyfraniad i’w wneud ym maes ymarfer gwaith cymdeithasol.

Damcaniaeth ymlynu a gwaith cymdeithasol

John Bowlby oedd y cyntaf i arddel damcaniaeth ymlynu. Treuliodd ei yrfa yn astudio effaith amddifadu plentyn o’i fam. Lluniodd ei syniadau yn y 1940au a 1950au o weithio gyda phlant amddifad rhyfel, ffoaduriaid a phlant a oedd wedi cael eu hamddifadu’n emosiynol yn ystod plentyndod. Credai Bowlby fod llawer o’r plant hyn yn mynd yn eu blaen i ddioddef nifer o broblemau ymddygiadol, emosiynol a meddylion y credai eu bod yn gysylltiedig â’u profiadau cynharach mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

Wrth lunio ei ddamcaniaeth, defnyddiodd Bowlby waith ymchwil ei gydweithiwr, Mary Ainsworth. Yn ei hastudiaethau o fabanod a mamau nododd mai gofal sensitif ac ymatebol oedd yr elfen hanfodol o ran hyrwyddo cydberthnasau diogel rhwng baban a’i riant. Canfu fod gofal a roddwyd yn helpu plant i ddatblygu hunaniaeth, meithrin cydberthnasau lle maent yn ymddiried mewn eraill a’r gallu i ddysgu a chyflawni (Lindsay, 2006). Aeth Bowlby ati i ddiffinio ymlyniad fel y ‘lasting psychological connectedness between human beings’ a ffurfiwyd â’r unigolyn sy’n rhoi gofal corfforol ac emosiynol (Bowlby, 1969). I Bowlby a’i gydweithwyr ymddangosai fod angen perthynas agos a pharhaus a oedd yn rhoi gofal ar blant yn ystod eu babanod er mwyn iddynt ffynnu’n emosiynol.

Credai Bowlby fod bodau dynol wedi’u rhaglennu’n fiolegol i chwilio am agosrwydd, diogelwch a sicrwydd gan ffigurau ymlynu yn wyneb ofn neu fygythiad. O gael eu tynnu oddi wrth eu prif ofalwyr, credai fod plant yn mynd drwy gylch o wrthwynebu, anobeithio ac ymddatgysylltu. Sylwodd Bowlby hyd yn oed pan oedd plant yn cael eu dychwelyd i’w prif ofalwr, fod eu hymddygiad gofidus yn parhau weithiau.

Y sefyllfa ryfedd

Ffigur 7 The ‘strange situation’

Datblygodd Ainsworth dechneg ymchwil o’r enw y ‘sefyllfa ryfedd’, lle roedd plant ifanc yn cael eu gwahanu oddi wrth eu rhiant/rhieni am ychydig sawl gwaith a’u rhoi yng nghwmni dieithryn cyn cael eu haduno â’r rhiant (rhieni) unwaith eto. mae hyn wedi dangos bod modd gwahaniaethu rhwng gwahanol batrymau o ymlyniad ymhlith plant ifanc tuag at eu rhieni. Mae Howe yn crynhoi’r pedwar patrwm gwahanol o ymlyniad a nodwyd gan Ainsworth fel:

  1. ymlyniadau sicr
  2. ymlyniadau ansicr, amwys
  3. ymlyniadau ansicr, gofidus
  4. ymlyniadau di-drefn.

Gall pob patrwm o ymlyniad arwain at ffordd wahanol o ymwneud â phobl eraill. Mae gan bob un ohonom wahanol ffyrdd o ymlynu sy’n deillio o’n profiadau cynnar a gallai hyn effeithio ar y ffordd rydym yn cysylltu ag eraill.

Awgryma Howe, er bod y ddamcaniaeth ynglŷn ag ymlyniad ac ymagweddau seicogymdeithasol eraill yn cynnig fframwaith i ddeall unigolion yn hytrach na dull penodol o ymyrryd ym maes gwaith cymdeithasol, nad oes iddynt oblygiadau o ran ymarfer gwaith cymdeithasol.

Mae Howe yn cynnig y gall y ddamcaniaeth ynglŷn ag ymlyniad a damcaniaethau seicogymdeithasol eraill ein helpu i ddeall risgiau a ffactorau gwarchodol ym mywydau pobl. Mae ffactorau gwarchodol yn cynnwys rhywun sydd o bwys sy’n eich ystyried yn annwyl iddo/iddi a’r ffordd y gall plant ac oedolion wneud synnwyr o’u profiadau cynnar. Awgryma y gall y gweithiwr cymdeithasol helpu i nodi’r ffactorau gwarchodol yn amgylchedd seicogymdeithasol unigolyn, a helpu i’w hatgyfnerthu.

Ymlyniadau y bu tarfu arnynt

Yn y gweithgarwch nesaf, byddwch yn darllen mwy am anghenion emosiynol plant ifanc a’r ffordd y maent yn adweithio pan fydd tarfu ar eu hymlyniadau cynnar.

Gweithgaredd 7 Anghenion emosiynol

Timing: Dylech dreulio tua 20 munud ar y dasg hon

Darllenwch ‘Who cares? The emotional needs of young children’, gan Fagan.

Who cares Fagan Act 8

  • Beth yw rhai o’r ymatebion y gall plant eu cael i brofiadau andwyol cynnar yn ôl Fagan?

  • A oedd unrhyw rai o’r rhain yn peri syndod neu’n newydd i chi? Pa rai?

  • A oes unrhyw rai o’r adweithiau hyn yn gyfarwydd i chi o’ch profiadau eich hun gyda phlant rydych yn eu hadnabod neu rydych wedi gweithio gyda hwy?

  • Pa emosiynau maent yn debygol o’u hennyn ymhlith rhywun arall?

  • Mae’r erthygl hon yn sôn am ‘y fam’ fel y prif ofalwr - sut roeddech yn teimlo am hynny?

  • Pa effaith y gallai ymlyniadau y bu tarfu arnynt ei chael ar bobl yn oedolion?

Gadael sylw

Awgryma Fagan y gall plant ymateb mewn nifer o wahanol ffyrdd os na chaiff eu hanghenion cynnar eu diwallu, megis:

  1. drwy beidio â malio dim a mynd i’w cragen, ceisio osgoi teimladau o siom, colled, dicter neu rwystredigaeth

  2. drwy herio ffiniau

  3. drwy fynnu sylw a pherchenogaeth lwyr

  4. drwy wrthod agosrwydd

  5. drwy ymddwyn yn ymosodol.

Er y bydd rhai o’r ymddygiadau hyn yn gyfarwydd i chi, efallai y bydd eraill yn llai cyfarwydd.

Er bod yr erthygl hon yn sôn am y ‘fam’ fel y prif ofalwr, dengys gwaith ymchwil i ymlyniadau mai gofal ymatebol gan ofalwr cyson sydd bwysicaf yn ystod cam cynnar o fywyd baban; ac nid wrth riant biolegol y mae baban yn ymlynu o reidrwydd. Mae’n ddigon posibl y pennir pwy sy’n gofalu am blentyn yn ystod babanod yn ôl diwylliant ac amgylchiadau. Gall babanod hefyd ymlynu wrth fwy nag un gofalwr, er y gallai’r ymlyniadau hyn o wahanol ddwysedd. Ymddengys bod babanod yn dechrau gwahaniaethu rhwng gofalwyr rhwng tri a chwe mis. Er bod Fagan yn sôn am blant a phobl ifanc, mae’n bwysig cofio y gellir defnyddio’r damcaniaeth ynglŷn ag ymlynu fel fframwaith i ddeall bywgraffiadau a hanes unrhyw bryd ym mywyd rhywun.

Effaith profiad cynnar

Mae datblygiadau diweddar ym maes y niwrowyddorau wedi cadarnhau canfyddiadau gwreiddiol Bowlby. Maent hefyd wedi ein galluogi i ddeall ymhellach bwysigrwydd y berthynas rhwng gofal cynnar ymatebol a datblygiad yr ymennydd dynol. Mae’r ymennydd yn datblygu’n wahanol yn dibynnu ar ba fath o brofiadau a gaiff. Mae’r cyfnod rhwng tri mis olaf beichiogrwydd, hyd at ddwy oed yn un hollbwysig, oherwydd dyna’r adeg pan fydd yr ymennydd fwyaf hydrin a phan fydd ei lwybrau yn ffurfio gyntaf. Ond awgryma tystiolaeth niwrowyddonol hefyd fod modd newid drwy gydol oes. Efallai na allem byth ddileu ein profiadau blaenorol ond gallwn adeiladu profiadau newydd, disgwyliadau newydd a llwybrau newydd yn yr ymennydd (Music a Miller, 2006).

Mae’r rhai sy’n beirniadu damcaniaeth Bowlby wedi dadlau y gall y ddamcaniaeth ynglŷn ag ymlyniad ymddangos fel petai’n ‘beio’ mamau ac nad yw’n rhoi digon o bwyslais ar yr holl ddylanwadau drwy gydol oes, megis amgylchiadau bywyd a rhyngweithio â chyfoedion. Er i’r ddamcaniaeth ynglŷn ag ymlyniad gael ei beirniadu a’i haddasu erys yn ddylanwad pwerus ym maes gwaith cymdeithasol. Fel yr honna David Howe (2002) mae dealltwriaeth o’r ffordd mae ymlyniadau’n gweithio yn gallu helpu ymarferwyr gwaith cymdeithasol

‘to make sense of the way children and adults react to and deal with the social and emotional demands of others’

(t. 175)

I weithwyr cymdeithasol, mae rôl ffigurau ymlynu yn ystod plentyndod cynnar yn gofyn am ystyriaeth ofalus, yn enwedig mewn perthynas â phlant y mae angen eu hamddiffyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt hefyd lunio barn yn ofalus ynglŷn â’r math o ymyriadau y maent yn eu gwneud yn achos pob plentyn. Er bod plant yn aml yn gallu bod yn hynod hyblyg a chadarn o dan yr amgylchiadau mwyaf anodd, gall penderfyniadau gwael a wneir yn ystod y cyfnod hwn danseilio gallu plentyn i ymlynu wrth eraill yn y dyfodol. Gall y cydberthnasau hyn hefyd ddwyn goblygiadau difesur i unigolion ac ansawdd y profiad rhianta y maent yn ei gynnig wedyn i’w plant eu hunain.

Gall y ddamcaniaeth ynglŷn ag ymlyniad fod yn fframwaith defnyddiol i ddeall a gweithio gydag unigolyn unrhyw bryd yn ystod eu bywydau, yn enwedig pan fyddant yn wynebu cyfnod o newid neu drawsnewid, megis dod yn rhieni eu hunain. Bu hefyd yn ddefnyddiol wrth weithio gydag oedolion mewn trallod meddwl, yn enwedig y rhai sy’n ceisio deall eu hunaniaethau yn wyneb trawma a cham-drin yn ystod plentyndod (Bateman a Fonagy, 2003).

Deall hunaniaeth

Gallwch weld y gall ymdeimlad cadarnhaol o hunaniaeth fynd ar gyfeiliorn am bob math o resymau. Gall y ffactorau fod yn seicolegol, fel yn yr enghraifft o riant a’i blentyn, neu gymdeithasegol a gwleidyddol, fel yn achos plant sy’n ffoaduriaid. Gall ffactorau diwylliannol a threftadaeth hefyd fod yn arwyddocaol. Penderfynir ar y drefn ofalu a pholisïau lleoliadau plant drwy gyfuniad o’r ffactorau hyn yn ogystal â pholisi cymdeithasol. Yr hyn sy’n gyffredin i bob un o’r rhain yw bod hunaniaeth yn cael ei ffurfio drwy ryngweithio unigolyn ag eraill - gofalwyr, cyfoedion, pobl mewn sefyllfaoedd pwerus, grwpiau cymdeithasol dominyddol - ond yn yr un modd, gall hunaniaeth gael ei hatgyfnerthu neu ei niweidio gan yr elfennau hyn hefyd.

Mae’n hawdd gwneud tybiaethau ynglŷn â defnyddwyr gwasanaethau heb gydnabod bod llawer o brofiadau wedi cyfrannu i’w ffurfio fel pobl. Efallai y bydd angen i chi atgoffa’ch hun bod eu hunaniaethau hwy mor amrywiol a chymhleth â’ch hunaniaeth eich hun. Bydd gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae defnyddwyr gwasanaethau yn ystyried eu hunain yn eich helpu i weithio gyda hwy.

Pwyntiau allweddol

  • Mae hunaniaeth a hunaniaethau’n seiliedig ar y ffordd rydym yn diffinio ein hunain a sut y mae cymdeithas yn ein diffinio.

  • Mae damcaniaethau ynglŷn â hunaniaeth yn adnoddau defnyddiol y gallwn eu defnyddio er mwyn deall sut mae hunaniaeth yn datblygu, mewn ffyrdd amrywiol drwy gydol oes.

  • Mae cymhlethdod bywydau pobl, a tharfu ar fywydau pobl, yn golygu y gall ymdeimlad cadarnhaol o hunaniaeth gael ei niweidio, ond y gall sylw i hanes bywyd rhywun ein galluogi i’w ddeall.

  • Mae’r ddamcaniaeth ynglŷn ag ymlyniad yn ddylanwad pwerus ym maes gwaith cymdeithasol ac mae’n cynnig ffyrdd pwysig o ddeall bywgraffiadau er iddi gael ei haddasu ers y fersiwn gwreiddiol.