Cyflwyniad i waith cymdeithasol
Cyflwyniad i waith cymdeithasol

Dechreuwch y cwrs yma am ddim nawr. Crëwch gofrif a mewngofnodwch. Ar ôl o chi gwblhau cwrs byddwch yn derbyn datganiad cyfranogiad neu fathodyn digidol os oes un ar gael.

Cwrs am ddim

Cyflwyniad i waith cymdeithasol

2.3 Datblygu hunaniaeth gwaith cymdeithasol broffesiynol

Empathi

Mae empathi yn sgil hanfodol ym maes gwaith cymdeithasol er mwyn deall profiad defnyddwyr gwasanaethau a’u helpu’n fwy effeithiol. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r defnyddwyr gwasanaethau hynny y mae eu profiadau’n wahanol iawn i’ch profiadau chi. Mae empathi yn un o’r conglfeini hanfodol y bydd ei angen arnoch er mwyn datblygu hunaniaeth gwaith cymdeithasol broffesiynol. Yn ddiweddarach yn ystod y canllaw dysgu hwn byddwch yn ystyried safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau, a gwerthoedd a moeseg.

Mae’r ffordd y mae pobl yn ymateb i straen a thrallod meddwl yn dibynnu ar eu profiadau blaenorol a sut y gallant wneud synnwyr ohonynt. Os yw profiadau defnyddiwr gwasanaeth yn wahanol iawn i’ch profiad chi, yna mae’n eithaf tebygol y byddwch yn camddeall ei ymateb, neu hyd yn oed yr hyn sy’n achosi trallod iddo. Gall camddeall o’r fath eich tywys, fel yr ymarferydd, i ymateb mewn ffordd anghynorthwyol, a gwneud pethau’n waeth.

Ni allwch gymryd yn ganiataol y bydd pobl eraill yn gweld pethau yn yr un ffordd â chi, nac yn ymateb yn y ffordd y byddech chi’n ei wneud, a hynny am fod eich profiadau bywyd penodol yn dylanwadu ar eich teimladau a’ch adweithiau. Yna, sut y gallwch fynd ati i geisio deall profiadau a theimladau pobl eraill yn well? Yr ateb yw drwy ddatblygu empathi, sef rhywbeth nad yw mor syml ag y gellid tybio, ac rydym yn ei ystyried yn eithaf manwl yn yr adran hon.

Beth yw empathi?

Daw un diffiniad o empathi o waith yr awdur o’r UD ar gwnsela a gwaith cymdeithasol, Gerard Egan, sy’n diffinio empathi fel:

‘The ability to enter into and understand the world of another person and to communicate this understanding to him or her.’

(Egan, 1986, t. 95)

Yng nghyd-destun gwaith cymdeithasol, mae Lena Dominelli yn defnyddio dull gweithredu ychydig yn wahanol gan ddefnyddio trosiad cyffredin i wneud yr un pwynt wrth sôn am ‘placing oneself in another’s shoes’ (Dominelli, 2002). Mae’r dyfyniadau hyn yn pwysleisio mai’r gweithiwr proffesiynol sy’n gyfrifol am wneud yr ymdrech i ddeall y person arall. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hynny mae angen ymdrech a dychymyg.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio empathi mewn bywyd bob dydd mewn gwirionedd pan fyddant yn darllen nofel, yn gwylio ‘opera sebon’ ar y teledu neu ffilm neu ddrama. Yn wir, rydym yn aml yn barnu llwyddiant nofel, ffilm neu ddrama yn ôl y graddau rydym yn ymgolli yn y byd a bortreadir, a pha mor ‘real’ yw’r cymeriadau yn y ‘stori’ i ni. Weithiau rydym yn cael bod y cymeriadau yn parhau i fyw yn ein dychymyg yn hir ar ôl i’r llyfr gael ei gau neu ar ôl i’r ffilm neu’r ddrama ddod i ben. Rydym wedi dod yn rhan o’r byd a grëwyd gan yr awdur, heb fawr ddim anhawster. Wrth wneud hynny, rydym yn uniaethu â’r cymeriadau rydym yn eu cyfarfod yno ac yn dod yn rhan o’u byd.

Mae defnyddwyr gwasanaethau’n aml yn dweud wrthym bod sgiliau empathi a dealltwriaeth yn berthnasol i bob gweithiwr cymdeithasol, gan gynnwys y canlynol:

  • gwrando

  • rhoi lle a gwneud i bobl deimlo’n ddiogel fel y gallant ‘ymagor’ a datgelu agweddau personol iawn ar eu bywydau i weithwyr cymdeithasol

  • cofio cydgyfrifoldebau mewn cydberthnasau ac ystyried sut y gellid cadw at ddymuniadau ar gyfer agweddau ar ofal a rennir a pheidio â tharfu ar hynny (e.e. sut a phryd y byddai’r defnyddiwr gwasanaeth yn dewis gofalu am eu dannedd ac ymolchi, a sut y gallai’r gofalwr gefnogi hyn)

  • ystyried y wybodaeth sydd gan ofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau ynglŷn â’r ffyrdd gorau o helpu a gofalu am unigolyn.

Diffyg empathi

Mae’n amlwg bod defnyddwyr gwasanaethau yn synhwyro’n gyflym iawn pan fydd ymarferydd yn ceisio deall ond yn cael anhawster i empatheiddio. Dyna sylw gan Kate, defnyddiwr gwasanaeth mewn canolfan deuluol yn swydd Northampton, sy’n dangos y pwynt yn dda iawn:

Kate

Yn fy mhrofiad i, nid oes gan lawer o weithwyr cymdeithasol ddiddordeb ynot ti fel unigolyn, ac mae llawer ohonyn nhw’n dweud pethau fel ‘rwy’n gwybod sut rwyt ti’n teimlo’ a ‘rwy’n deall beth rwyt ti’n mynd drwyddo’, ond dydyn nhw ddim yn gwybod mewn gwirionedd sut rwyt ti’n teimlo na beth rwyt ti’n mynd drwyddo, a hynny am fod llawer ohonyn nhw wedi dysgu pethau o lyfrau, dydyn nhw ddim wedi cael y profiad yn eu bywydau eu hunain.

Pan fydd empathi’n anodd

Mae nifer o resymau pam y gall fod yn anodd dangos empathi i ddefnyddwyr gwasanaethau weithiau. Y rheswm amlycaf yw pan fydd rhyw nodwedd y mae’n anodd i’r ymarferydd ei goddef. Dywedodd cydweithiwr gwaith cymdeithasol profiadol unwaith ei fod yn cael anhawster gweithio gyda phobl a oedd yn drewi. Efallai fod hyn yn ymddangos yn rhywbeth dibwys, ond i’r gweithiwr hwnnw roedd yn bwysig cydnabod y broblem a thrwy hynny ochel rhag rhoi gwasanaeth anfoddhaol i bobl a oedd yn drewi nac i unrhyw grŵp arall y teimlai adwaith iddo. Yn amlwg, mae’n bwysig i weithwyr cymdeithasol, fel pob aelod o’r proffesiynau sy’n rhoi help llaw, sicrhau nad yw hoffter nac anhoffter yn dylanwadu ar y gwasanaethau a ddarperir.

Er bod yr enghraifft hon yn ymddangos yn ddigon syml, gall enghreifftiau eraill fod yn fwy anodd, pan fo gwrthdaro daliadau angerddol o bosibl. Er enghraifft, gallai fod yn anodd i weithiwr cymdeithasol sy’n ymrwymedig iawn i arferion gwrth-hiliol ddangos empathi i ddefnyddiwr gwasanaeth sy’n gwneud sylwadau hiliol neu sy’n gwrthod derbyn gwasanaethau oddi wrth ddarparwr gwasanaeth o gefndir du neu leiafrif ethnig.

Enghraifft arall a gwahanol iawn fyddai os bydd profiadau a ddisgrifiwyd gan y defnyddiwr gwasanaeth y tu hwnt i ddeall y gweithiwr cymdeithasol, a bod ceisio eu deall yn boenus i’r gweithiwr cymdeithasol. Mae Hedi Argent wedi disgrifio profiadau merch a welodd un o’i chymdeithion yn cael ei fwyta gan anifail gwyllt wrth groesi ffin fel ffoadur. Mae adroddiad y ferch yn cynnwys y disgrifiad canlynol o’i phrofiad:

Plentyn sy’n ffoadur o’r Swdan

I left Sudan at night when I was 10 years old. My brother and I walked to Ethiopia. There were many of us walking. I was carrying bread, water and a kind of blanket. I ate every other day. One day I ate, the next I didn’t. I also had a knife to kill wolves. We walked for two weeks. Then we stayed in Ethiopia for a month before coming to England on an aeroplane. I wanted to go to school.

(Argent, 1996, t. 25)

Er i Argent ymgymryd â’r gwaith hwn gyda ffoaduriaid yn y 1990au, yn anffodus, mae plant a phobl ifanc heddiw o hyd yn gallu adrodd eu profiadau anhygoel wrth ffoi o’u cartrefi er mwyn dod o hyd i fan diogel. Mae digwyddiadau trawmatig yn digwydd ar adeg rhyfel a gwrthdaro, ond eto ychydig iawn o ymarferwyr fydd yn gallu deall sut brofiad ydyw. Felly beth ddylem ei wneud? Byddai dweud o dan amgylchiadau o’r fath ‘rwy’n gwybod sut rwyt ti’n teimlo’ neu ‘rwy’n deall beth rwyt ti wedi bod trwyddo’ yn swnio’n ffug ac yn wirion. At hynny, byddai’r defnyddiwr gwasanaeth yn ymwybodol iawn o hyn ac efallai y byddai’n anodd ganddo/ganddi gredu’r gweithiwr cymdeithasol o ran pethau eraill. Efallai y byddai rhai gweithwyr cymdeithasol yn peidio â chredu’r unigolyn neu’n bychanu ei hanes am ei fod yn swnio’n anghredadwy; ond mae methiant i gymryd y defnyddiwr gwasanaeth o ddifrif yn y modd hwn yn debygol o wneud mwy o niwed iddo/iddi. Dylai gweithiwr cymdeithasol sy’n teimlo’n ansicr ynglŷn â hanes o’r fath neu’n methu â’i gredu geisio cyngor gan sefydliadau sy’n meddu ar wybodaeth arbenigol yn y maes perthnasol, megis y Cyngor Ffoaduriaid, Refugee Action neu sefydliad cymunedol lleol i ffoaduriaid.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am brofiadau ffoaduriaid sy’n blant, ewch i wefan y Cyngor Ffoaduriaid [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Mae ansawdd empathi yn elfen hanfodol mewn ymarfer gwaith cymdeithasol, ond nid yw’n rhywbeth unigryw i waith cymdeithasol; fel y gwelsom, rhinwedd dynol yw empathi, sy’n gyfarwydd i ni yn ein bywydau bob dydd. Fel pob rhinwedd arall, gellir ei ddatblygu drwy ymarfer a thrwy feddwl am yr ymarfer hwnnw. Mae’n ein helpu i ddod yn rhan o brofiadau pobl eraill a thrwy hynny eu deall yn well. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd profiadau defnyddwyr gwasanaethau yn wahanol iawn i brofiad bywyd y gweithiwr cymdeithasol.

Canfyddiadau defnyddwyr gwasanaethau

Mae’r adran hon yn disgrifio canfyddiadau defnyddwyr gwasanaethau pan fyddant yn gofyn am gymorth gan weithwyr cymdeithasol neu pan gânt eu cyfeirio atynt.

Ychydig iawn o bobl sy’n ei chael hi’n hawdd gofyn am gymorth yn eu bywydau personol. Maent yn teimlo y dylent fod yn gallu ymdopi a bod y ffaith bod angen iddynt ofyn am gymorth yn fethiant i wneud hynny. Efallai y bydd pryder hefyd ynglŷn â sut y bydd gweithwyr proffesiynol yn ymateb i’w cais am gymorth. A fyddant yn gydymdeimladol ac yn deall y sefyllfa? Neu a fyddant yn gas ac yn bychanu? A fydd yn fuddiol neu a fydd yn gwneud pethau’n waeth? Os bydd rhywun yn cael ei orfodi i siarad â gweithiwr cymdeithasol, yna bydd y cwestiynau hyn yn fwy miniog, ac mae’n ddigon posibl y bydd y defnyddiwr gwasanaeth yn teimlo’n amwys ynglŷn â’r gweithiwr cymdeithasol neu’n elyniaethus tuag ato.

Efallai y bydd cwestiynau o’r fath yn gyfarwydd i chi ar adegau pan fyddwch wedi bod yn ddefnyddiwr gwasanaeth - er enghraifft, pan fyddwch wedi defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) neu wedi ymwneud ag athrawon ynglŷn â chynnydd eich plentyn yn yr ysgol. Fel defnyddiwr gwasanaeth, efallai eich bod wedi teimlo’n ansicr ynglŷn â’r hyn y dylid ei ddisgwyl oddi wrth weithwyr proffesiynol eraill. Os yw’r gwasanaeth a gawsoch wedi bod yn anfoddhaol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, efallai nad oeddech yn gwybod at bwy i droi i wneud cwyn.

Gweithgarwch 8 Eich profiad o fod yn ddefnyddiwr gwasanaeth

Timing: Dylech dreulio tua 10 munud ar y dasg hon

Meddyliwch am ddau achlysur pan oeddech yn ddefnyddiwr gwasanaeth ac wedi gorfod gofyn am gymorth. Meddyliwch am un achlysur pan ymdriniwyd â’ch cais mewn ffordd a oedd o gymorth, ac un arall pan nad oedd yr ymateb o gymorth. Efallai fod y profiadau hyn wedi ymwneud â’r GIG, sefydliad addysgol, trafnidiaeth gyhoeddus, ac ati.

Ysgrifennwch yr hyn a oedd o gymorth ar yr achlysur cyntaf a’r hyn nad oedd o gymorth ar yr ail achlysur. Pa mor bwysig oedd i chi gael neu beidio â chael yr hyn yr oeddech am ei gael? Pa mor bwysig oedd y ffordd y cawsoch eich trin? Pa wersi y gallwch eu dysgu i’ch ymarfer o’ch profiad o fod yn ddefnyddiwr gwasanaeth?

Sylw

Efallai y byddech wedi teimlo bod y ffordd roedd pobl mewn safle swyddogol wedi ymateb i gais o bwys, ac efallai fod hynny mor bwysig â’r canlyniad, p’un a gawsoch yr hyn yr oeddech am ei gael ai peidio.

Rydych yn fwy tebygol o gofio’r profiad fel un cadarnhaol:

  • os oeddech yn gallu ymdrin yn uniongyrchol ag un unigolyn a oedd yn cynrychioli’r sefydliad

  • os cawsoch eich trin yn gwrtais ac yn brydlon

  • os oeddech yn teimlo bod eich safbwynt yn cael ei gymryd o ddifrif

  • os cawsoch esboniadau, fel y gallech ddeall pam bod y cymorth yr oeddech yn ei geisio ar gael ai peidio.

I’r gwrthwyneb, rydych yn debygol o gofio’r profiad fel un negyddol:

  • os na allech ddod o hyd i rywun i drafod y mater neu os cawsoch ateb awtomataidd dros y ffôn

  • os cawsoch eich trin mewn ffordd amhersonol a mwy swyddoglyd nag yr oedd ei hangen

  • os bu’n rhaid i chi aros amser hir i gael eich gweld a/neu gael gwybod canlyniad eich cais

  • os oeddech yn teimlo nad oedd neb wedi gwrando arnoch yn iawn

  • os na chawsoch unrhyw resymau dros y penderfyniad.

Bydd profiadau blaenorol, yn ddi-os, yn effeithio ar eich disgwyliadau pan fydd angen cymorth arnoch yn y dyfodol.

Mae’r holl bwyntiau uchod yr un mor wir am wasanaethau gwaith cymdeithasol ag y maent yn wir i chi.

Beth mae defnyddwyr gwasanaethau am ei gael

Users in all client groups value, it seems, similar characteristics in their social workers. They want workers who keep appointments, understand the user’s perception of the problem, are straight and not two-faced, and are warm and are efficient in getting services and benefits.

(Sinclair, 2002, pp. 432–433)

Yn ei adolygiad o astudiaethau o safbwyntiau cleientiaid mae Mark Davies yn nodi wyth gwers i weithwyr cymdeithasol a’u hasiantaethau:

  • Gwers 1 – Gwella’r llwybrau tuag at wasanaeth gwaith cymdeithasol.

  • Gwers 2 – Ymdrin â’r broses gychwynnol gyda dychymyg, sensitifrwydd a phwyll - gwneud i gleientiaid deimlo’n gyfforddus.

  • Gwers 3 – Meddwl am y cleient fel person. Ymdrin â materion personol mewn ffordd broffesiynol. Dyna sydd wrth wraidd gwaith cymdeithasol.

  • Gwers 4 – Nodi disgwyliadau’r cleient a chysylltu’r rhain â rhwymedigaethau ac adnoddau’r asiantaeth. Byddwch yn weithredol. Byddwch yn effro. Byddwch o gymorth. A pheidiwch â chamarwain y cleient.

  • Gwers 5 – Byddwch yn gwnsler da.

  • Gwers 6 – Cofiwch fod rôl gwaith cymdeithasol yn eich rhoi mewn sefyllfa bwerus a breintiedig. Ni allwch osgoi na gwadu hynny. Ac mae’n rhaid i chi fod yn onest ac yn agored ynglŷn â chyfrifoldebau’ch asiantaeth.

  • Gwers 7 – Defnyddiwch eich gwybodaeth a’ch profiad er budd y cleient. Gwnewch yn siŵr ei bod yn gyfredol.

  • Gwers 8 – Byddwch yn deilwng o ymddiriedaeth bob amser. Byddwch yn ddibynadwy bob amser.

(Davies, 1994, tud. 49–55)

Yn anad dim, mae defnyddwyr gwasanaethau yn gwerthfawrogi cydberthnasau â gweithwyr cymdeithasol sy’n seiliedig ar wresogrwydd, empathi, dibynadwyedd a pharch (Beresford, 2012). Mae hyn i’r gwrthwyneb i gysylltiadau fformiwlaig a biwrocratig. Mae Beresford (2012) yn nodi’r pedwar rhinwedd canlynol:

  1. Mae gwaith cymdeithasol da yn gymdeithasol ac yn seiliedig ar weld bywydau pobl yn eu cyfanrwydd yn hytrach na’u problemau yn unig.

  2. Mae’n cynnig cymorth ymarferol yn ogystal â chymorth emosiynol. Nid yw gweithwyr cymdeithasol yn trin anawsterau seicolegol ac emosiynol ar wahân i fyd go iawn pobl.

  3. Gwrando heb farnu. Roedd defnyddwyr gwasanaethau yn gweld ansawdd a sgiliau gwrando fel y sail dros lawer arall y mae defnyddwyr gwasanaethau yn ei werthfawrogi.

  4. Cyflawni’r hyn y mae defnyddwyr gwasanaethau am ei gael

Awgryma Beresford fod hyn weithiau’n golygu ailddarganfod y rhan o waith cymdeithasol sy’n ymwneud â chymuned, sy’n grymuso, sy’n annog peidio â gwahaniaethu ac a all olygu bod gweithwyr cymdeithasol yn ochri â defnyddwyr gwasanaethau hyd yn oed pan fydd hynny’n gwrthdaro â’u cyflogwyr ac asiantaethau eraill y wladwriaeth.

Mae gwaith cymdeithasol traddodiadol wedi pwysleisio y dylai drin defnyddwyr gwasanaethau gyda pharch, eu gwerthfawrogi fel unigolion unigryw a’u derbyn gyda’u holl ffaeleddau. Yn aml, mae wedi methu â chyflawni’r nodau aruchel hyn, ond nid oes unrhyw wrthddywediad rhwng yr hyn y mae defnyddwyr gwasanaethau am ei gael a’r gwerthoedd y mae gwaith cymdeithasol yn eu harddel.

Rolau newidiol i ddefnyddwyr gwasanaethau

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae rhai grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaethau wedi mynnu cael mwy o ddweud yn y gwasanaethau y maent yn eu cael. Pobl sydd ag anableddau, defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, pobl hŷn, gofalwyr a phlant yng ngofal awdurdodau lleol yw dim ond ychydig o’r enghreifftiau o grwpiau o’r fath.

Er enghraifft, yn eu hastudiaeth achos o ddefnyddwyr gwasanaethau ym maes gofal lliniarol yn 2008, canfu Beresford a’i gydweithwyr fod defnyddwyr gwasanaethau yn gwerthfawrogi cael eu cynnwys yn bartneriaid cydradd wrth gyd-gynhyrchu a chael mynegi barn ynglŷn â gwasanaethau, yn hytrach na chadw at fodel traddodiadol pan ddisgwylid i ddefnyddwyr gwasanaethau fod yn oddefol, yn ddibynnol, yn ddiolchgar ac ymddwyn yn dda. (Beresford et al., 2008).

Mae hon yn her fawr i weithwyr cymdeithasol ac asiantaethau gwaith cymdeithasol ac mae’n arwain at yr hyn a elwid ‘a user-led model of social work’ (Croft a Beresford, 2002). Mae Croft a Beresford yn dadlau, er mwyn i hyn ddigwydd, fod yn rhaid bodloni gofynion defnyddwyr gwasanaethau ynglŷn ag ymreolaeth, cyfranogi a chynnwys. Mae defnyddwyr gwasanaethau am weld gweithwyr cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol:

  • sydd am alluogi pobl i fod yn annibynnol yn hytrach na’u cadw’n ddibynnol ar weithwyr cymdeithasol a’u gwasanaethau, drwy ganolbwyntio ar alluoedd pobl yn hytrach na’u hanalluoedd a’u helpu i fod yn annibynnol.

  • nad ydynt yn ceisio gwneud iawn am fethiant polisïau prif ffrwd ond, yn hytrach, sy’n ymwneud yn systematig â hawliau ehangach a pholisïau cymdeithasol ac economaidd a arweinir gan anghenion sy’n cynnwys grwpiau fel pobl anabl, rhieni unigol a goroeswyr y system seiciatrig yn hytrach na’u hymyleiddio, gan sicrhau y gallant gael gafael ar addysg, hyfforddiant, gofal plant a chyflogaeth.

  • sy’n rhoi cymorth yn hytrach na chyfarwyddyd ac sy’n gwbl gyfranogol.

(Croft a Beresford, 2002, tud. 390)

Mae hyn yn gofyn am newid mawr, nid yn unig ar ran gweithwyr cymdeithasol ond hefyd ar ran eu hasiantaethau a llawer o wasanaethau eraill hefyd, yn bennaf am fod gan weithwyr cymdeithasol gyfrifoldeb statudol enbyd ac amser cyfyngedig.

Mae’r angen am addysg, hyfforddiant, gofal plant a chyflogaeth yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o ddefnyddwyr gwasanaethau o dan anfantais mewn sawl ffordd. Mae Croft a Beresford yn nodi’r cysylltiadau rhwng anfantais gymdeithasol a thrallod meddwl personol a’r angen am bolisïau, asiantaethau a gweithwyr i fynd i’r afael â’r ddau. Mae’r materion hyn yn berthnasol i’r adran nesaf, lle caiff gwerthoedd gwaith cymdeithasol eu hystyried.

Gwerthoedd ac ymarfer moesegol

Rydych eisoes wedi dechrau meddwl am ddau faes pwysig o werthoedd: pwysigrwydd bod yn ymwybodol o hanes unigolyn a chydnabod hunaniaethau a bennwyd a’u heffaith niweidiol o bosibl. Yn yr adran hon byddwch yn ystyried maes gwerthoedd penodol: y berthynas rhwng gwerthoedd gwaith cymdeithasol ac ymarfer moesegol personol a phroffesiynol.

Mae ‘gwerthoedd’ yn derm a ddefnyddir yn fynych ym maes gwaith cymdeithasol ac mae’r proffesiwn wedi cael llawer o drafodaethau ynglŷn â’r hyn y mae’n ei olygu. Mae gwerthoedd yn cyfeirio’n llythrennol at y dewisiadau a’r gweithredoedd sy’n bwysig yn eich barn chi. Mae gwerthoedd yn cynnig rhywfaint o arweiniad personol i chi ynglŷn â sut rydych yn deall unrhyw sefyllfa ac maent yn effeithio ar y ffordd rydych yn ymateb. Anaml iawn mae angen i chi fynegi’r hyn rydych yn rhoi gwerth arno am ei fod yn rhan annatod o’ch cymhelliant a’ch ffordd o feddwl gan mwyaf. Am y rheswm hwn, mae deall yr hyn rydych yn rhoi gwerth arno yn elfen bwysig o ystyried y ffordd rydych yn gweithio gyda phobl.

Defnyddir y term ‘moeseg‘ i gyfeirio at ymddygiad arferol neu safonau ymddygiad a arddelir gan bobl o ran yr hyn sy’n dda, sy’n ddrwg, sy’n gywir neu sy’n anghywir. Ym maes gwaith cymdeithasol, defnyddir y term ‘cod moeseg’ i ddynodi cyfres o egwyddorion, safonau neu reolau ymddygiad ar gyfer ymarfer moesegol. Caiff ei ddefnyddio hefyd i sôn am gyfyngderau moesegol - h.y. cwestiynau anodd ynglŷn â’r ffordd orau o weithredu er mwyn ymgorffori gwerthoedd gwaith cymdeithasol.

Crynhodd Walmsley (2012) y gwahaniaeth rhwng moeseg a gwerthoedd:

  • Mae moeseg yn ymwneud â phenderfynu ar y peth cywir i’w wneud mewn sefyllfa benodol

  • Gwerthoedd yw credoau unigolion ynglŷn â’r hyn sy’n gywir neu sy’n anghywir yn eu barn hwy.

Mae pob un o gyrff rheoleiddio pedair gwlad y DU yn ei gwneud yn glir pa mor ganolog yw gwerthoedd proffesiynol i ymarfer gwaith cymdeithasol, ac y disgwylir i bob gweithiwr cymdeithasol ymarfer yn unol â’r rhain a’r gyfraith. Yng Nghymru, er enghraifft, mae Cyngor Gofal Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr cymdeithasol bob amser ymddwyn yn unol â’r Cod Ymarfer i Weithwyr Gofal Cymdeithasol, ac mae eu hymarfer wedi’i hysbyebu gan y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gwaith cymdeithasol. Mae’r gwahanol gyrff yn gwneud datganiadau cyffredinol, ond bydd y ffordd y cânt eu dehongli’n ymarferol yn amrywio. Nid oes un set benodol o werthoedd cywir, mae modd bod yn ‘gywir’ mewn llawer ffordd, ond, yn ddi-os, ceir safbwyntiau a gwerthoedd anghywir ac amhriodol. Mae dealltwriaeth dda o’r ffordd y mae anghydraddoldebau cymdeithasol yn cael eu cynhyrchu a’u hatgynhyrchu o fewn cydberthnasau rhwng gweithwyr cymdeithasol a defnyddwyr gwasanaethau’n ganolog i fod yn weithiwr cymdeithasol cymwys.

Dyna pam bod angen i chi adnabod eich gwerthoedd eich hun, dysgu pa werthoedd y disgwylir i chi weithio yn unol â hwy fel gweithiwr cymdeithasol, a phenderfynu beth yw eich sefyllfa mewn perthynas â’r materion moesegol y byddwch yn eu hwynebu’n ymarferol.

Gwerthoedd personol

Wrth ddechrau ystyried y pwnc cymhleth a phwysig hwn, mae’n werth rhoi ychydig o sylw i ystyriaeth ehangach o darddiad gwerthoedd, ac o ble y daw’ch gwerthoedd eich hun.

Gweithgarwch 9 Eich gwerthoedd eich hun

Meddyliwch ynghylch o ble y daw’ch gwerthoedd. Rhestrwch y dylanwadau gwahanol sydd wedi cael effaith ar eich gwerthoedd, yn eich barn chi.

Sylw

Mae’r rhan fwyaf o bobl, wrth dyfu i fyny, yn datblygu system o werthoedd y dylanwedir arnynt gan eu hamgylchedd yn yr ystyr ehangaf (mae hyn yn cynnwys teulu, ysgol, cymuned, amgylcheddau diwylliannol a chymdeithasol ehangach), gan eu profiadau a chan eu myfyrdodau ar y ddau. Drwy ddylanwadau o’r fath rydym yn cael rhyw amcan o’r hyn sy’n bwysig i’r rhan fwyaf ohonom - o’r hyn rydym yn rhoi gwerth arno - ac yn datblygu system o werthoedd personol, rydym yn eu cymhwyso yn y pen draw at ein gwaith cymdeithasol. Efallai y bydd rhai o’r gwerthoedd hynny yn cael eu rhannu’n gyffredinol o fewn cymdeithas ac efallai y bydd rhai’n cael eu harddel gan grwpiau penodol o fewn y boblogaeth.

Mae’n debygol na fydd pob un o’ch gwerthoedd yn cydweddu â’r gwerthoedd y byddwch yn dod ar eu traws ym maes gwaith cymdeithasol, felly mae’n bwysig nodi bod ymarfer gwaith cymdeithasol yn debygol o herio o leiaf rai o’r gwerthoedd a arddelir gennych.

Er ei bod yn bwysig deall eich gwerthoedd eich hun, ceir gwerthoedd hefyd y disgwylir i bob gweithiwr cymdeithasol eu harddel yn eu hymarfer proffesiynol, a fynegir mewn fframweithiau proffesiynol.

Gwerthoedd gwaith cymdeithasol

Mae’r hyn y mae defnyddwyr gwasanaethau yn ei ddisgwyl gan weithwyr cymdeithasol yn cynnwys parch am arbenigedd y defnyddwyr gwasanaethau eu hunain, parodrwydd i’w grymuso wrth wneud penderfyniadau, cyfrinachedd, gonestrwydd ynglŷn â phwer a rôl gwaith cymdeithasol a’r gallu i herio gwahaniaethu a rhoi defnyddwyr a gofalwyr yn gyntaf.

Gellid dweud nad yw’r gwerthoedd hyn yn gyfyngedig i weithwyr cymdeithasol ond eu bod yn berthnasol i bawb sy’n ymdrin â phobl, megis cynorthwywyr siop, swyddogion banc, clerigwyr a swyddogion yr heddlu. Ond ceir traddodiad hir ym maes gwaith cymdeithasol sy’n pwysleisio pwysigrwydd ‘parch tuag at bobl’ - syniad, a ddaw o athroniaeth foesegol, sy’n mynd y tu hwnt i fod yn barchus neu’n amharchus. Ym maes gwaith cymdeithasol mae’n deillio o draddodiad gwaith achos, a’r enghraifft enwocaf o goleddu’r syniad hwn oedd Felix Biestek, Iesüwr o offeiriad ac athro gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Gatholig Loyola, Chicago, yn ei lyfr The Casework Relationship, a gyhoeddwyd yn 1961. Rhestrodd Biestek (1961) saith egwyddor gwaith achos, a oedd yn cynnwys y pum gwerth a restrir isod. (Mae’r ddwy egwyddor arall, sef mynegi teimladau’n bwrpasol ac ymwneud emosiynol rheoledig yn gysylltiedig â ‘sut i wneud gwaith cymdeithasol’ yn hytrach na gwerthoedd.)

  • derbyniad
  • hunanbenderfyniad
  • cyfrinachedd
  • unigoleiddio (gweld pob unigolyn yn unigryw)
  • agwedd sy’n ymatal rhag barnu.

Fel arfer, mae’r rhain yn cael eu trefnu o dan y pennawd ‘parch at bobl’. Rhoddodd Biestek gryn bwyslais ar feithrin perthynas rhwng y gweithiwr cymdeithasol a’r defnyddiwr gwasanaeth a arweiniodd at newid buddiol i’r defnyddiwr gwasanaethau. O ystyried ‘parch at bobl’ yn y cyd-destun hwn mae’n mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylid gan gynorthwywyr, swyddogion banc a swyddogion yr heddlu!

Fodd bynnag, gellir beirniadu dull gweithredu Biestek am fod yn rhy gyfyngedig gan ei fod yn gweld defnyddwyr gwasanaethau ar wahân i’r cyd-destun cymdeithasol y maent yn byw ynddo. Felly ceir perygl ei fod yn anwybyddu neu’n tanbrisio’r graddau y mae’r amgylchedd y mae defnyddiwr gwasanaeth yn byw ynddo yn effeithio ar ei fywyd a’i allu i’w newid. Felly, gellid dadlau na fyddai’r berthynas orau yn y byd â’r gweithiwr cymdeithasol mwyaf galluog fawr o werth i ddefnyddiwr gwasanaeth os mai tlodi mawr yw’r broblem fwyaf a wyneba. Y pwynt yw bod angen i werthoedd gwaith cymdeithasol fynd y tu hwnt i egwyddorion moesegol personol os ydynt am fynd i’r afael ag anfanteision cymdeithasol sy’n cael effaith niweidiol ar gymaint o ddefnyddwyr gwasanaethau.

Yn yr un modd, mewn unrhyw drafodaeth ynglŷn â gwerthoedd mae’n rhy hawdd hefyd i anwybyddu’r cyd-destun galwedigaethol y mae gweithwyr cymdeithasol yn ymarfer ynddo a’i ddylanwadau. Caiff y mater hwn ei ystyried yn yr adran nesaf.

Moeseg a phroffesiynoldeb: bod yn atebol

Un o’r gwahaniaethau rhwng ‘gwneud eich gwaith’ ac ymarfer proffesiynol yw gwybod a meddwl am yr hyn sy’n llywio’r hyn a wnawn. Hynny yw, pa esboniad y gallwn ei roi am wneud y gwaith yn y ffordd hon yn hytrach na ffordd arall? Mae’r gallu i esbonio ein hunain i eraill yn sgil hanfodol ym maes gwaith cymdeithasol proffesiynol, am ei fod yn ganolog i fod yn ‘atebol’, neu mewn geiriau eraill i allu cyfiawnhau’r hyn a wnawn a bod yn gyfrifol amdano. Mae’r cysyniad o atebolrwydd yn golygu nad yw esboniadau megis ‘fel hyn rydym bob amser wedi’i wneud’ neu ‘roedd yn ymddangos yn syniad da ar y pryd’ yn ddigon da.

Bod yn broffesiynol

Un o’r rhesymau dros drafod atebolrwydd a’r codau ymarfer sy’n ofynnol gan gynghorau gofal a chyrff rheoleiddio yw meddwl am eu goblygiadau yn y cyd-destun y mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithredu ynddo mewn gwirionedd, gan gynnwys eu cyfrifoldebau statudol, gwerthoedd y sefydliad sy’n eu cyflogi, defnyddwyr gwasanaethau, cymdeithas yn gyffredinol, a’u gwerthoedd eu hunain. Beth sy’n digwydd os bydd gwrthdaro?

Yn fynych iawn, yn enwedig mewn sefyllfaoedd ymarfer bydd yn rhaid i weithwyr cymdeithasol arfer doethineb a bod yn atebol am eu penderfyniadau. Mae hon yn elfen bwysig arall o werthoedd ‘proffesiynoldeb’. Mae’n awgrymu bod llawer o sefyllfaoedd yn codi lle mae terfyn i gyfreithiau, gweithdrefnau, rheolau a chanllawiau, a bod angen i weithwyr cymdeithasol ddefnyddio eu disgresiwn ac arddel barn broffesiynol. Crynhodd Spicker (2008) y broblem felly:

Professionals reserve the areas in which they can act autonomously – the ‘clinical freedom’ of doctors, the social work relationship, or the conduct by teachers in their classes. There are tensions to be resolved; the need for flexibility and responsiveness has to be balanced against the agencies’ concerns to develop consistent practices and professional claims are mediated through a process of constant negotiation.

(Spicker, 2008, tud. 161)

Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid i rywun ddehongli’r rheolau a’u terfynau a bod yn atebol amdanynt, fel arall yr hyn a gewch yn y pen draw yw rhestr o reolau, rhestr arall o reolau ynglŷn â sut i gymhwyso’r rheolau, a rhestr arall eto, ac ati. Awgrymodd Lipsky (1980) y gallai llawer o weithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried yn ‘street level bureaucrats’. Yn y sefyllfa hon maent yn defnyddio eu disgresiwn i fodloni gofynion gweithdrefnol a biwrocrataidd eu sefydliad mewn ffyrdd a oedd yn gyson â’u gwerthoedd eu hunain a’u cymhellion i helpu pobl. Ers hyn bu tensiwn o hyd ynglŷn â sut i ateb galw rheolwyr i resymoli a chysoni tra hefyd yn galluogi gweithwyr cymdeithasol i weithredu’n broffesiynol annibynnol ac yn unol â’u gwerthoedd eu hun (Mcdonald et al., 2008; Ellis, 2011; Evans, 2011).

Gweithgaredd 10 Gwerthoedd personol a phroffesiynol mewn cyd-destun ymarfer

Timing: Dylech dreulio tua 30 munud ar y dasg hon

Gwyliwch y fideo hwn a gwnewch nodiadau mewn ymateb i’r cwestiynau. Mae’r deunyddiau fideo hyn yn rhannau o sefyllfaoedd gwaith cymdeithasol go iawn sy’n dilyn gwaith tîm amddiffyn plant ym Mryste ac y mae’r Brifysgol Agored wedi bod yn rhan o’u ffilmio gyda’r BBC ar gyfer rhaglen o’r enw Protecting our Children.

Download this video clip.Video player: cym-k113_1_vid001.mp4
Adroddwr
Mae achos newydd o esgeuluso difrifol wedi'i gyfeirio at Ellen.
Ellen
Ai dyna'r brif ystafell wely a --
Cydweithiwr
Ie.
Ellen
Ie.
Cydweithiwr
Ie. Y gegin.
Adroddwr
Mae'n bryderus bod plentyn saith mlwydd oed yn byw o dan yr amodau hyn.
Ellen
Ie, oherwydd mae'n amlwg mai ysgarthion dynol sydd yn y bath.
Cydweithiwr
Ie.
Ellen
Oherwydd maen nhw wedi gwario llawer o arian ar y blociau hyn.
Crystal
Beth?
Ellen
Maen nhw wedi gwario llawer o arian ar y blociau.
Adroddwr
Mae Ellen wedi cwrdd â'r plentyn yn yr ysgol eisoes, ac mae hi nawr yn mynd â swyddog tai i ymweld â'r fam.
Ellen
Gweithio'n uniongyrchol â theuluoedd. Dyna pam oedd gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol yn apelio ata i. Yn anffodus, ni allwn wneud hynny bellach mewn gwirionedd, oherwydd bod cymaint o alw.
Crystal
O, helo 'na. Y cyngor ydyn ni. Mae gennym apwyntiad gyda chi heddiw. Iawn, mae angen i chi ddod i mewn. Dof i lawr i siarad â chi. Un funud.
Ellen
Fel gweithwyr cymdeithasol, mae gennym rwystr anferth i'w oresgyn pan fyddwn yn cwrdd â theulu am y tro cyntaf. Ond ein nod yw cadw teuluoedd gyda'i gilydd.
Crystal
Lle ydyn ni'n mynd te?

[CLECIAN]

Lle ydyn ni'n mynd gyntaf? Pryd oedd y tro diwethaf y buoch yma? Ble mae eich lolfa? Dewch 'mlaen te, ffwrdd â ni.
Ellen
Ellen ydw i. Fi anfonodd y llythyr hwnnw atoch. Mae'r adran tai wedi cyfeirio'r achos ata i. Yn amlwg, roeddent yn bryderus am yr amodau byw yn y fflat ac felly cafodd yr achos ei gyfeirio ata i. Felly--

[CRÏO]

Ellen
Na, mae'n iawn. Gwrandewch.
Adroddwr
Mae'r fam yn cytuno i barhau i ffilmio ar yr amod na chaiff ei henwi.
Ellen
Felly, rydyn ni yma i'ch helpu.

[CRÏO]

Menyw
Rydych chi am fynd â fy merch.
Ellen
Na, na, na, na. Mae'n amlwg bod angen help a chefnogaeth arnoch, a dyna pam ein bod ni yma. Dywedodd yr adran tai wrthyf nad yw'r toiled yn gweithio a'i fod wedi'i flocio, felly bod yn rhaid i chi ddefnyddio'r bath. Felly gallwn drwsio hynny. Gallwn ddatrys hynny heddiw.
Menyw
Rwyf eisiau rhywle y gallaf aros gyda hi, a --
Crystal
Sef fan hyn. Hwn yw eich cartref.
Menyw
Na, na, dydw i ddim eisiau'r lle yma!
Ellen
Oes yna broblemau? Oes yna broblemau yma? Ydych chi'n--
Menyw
Popeth, popeth!
Crystal
Hynny yw, nid yw mewn cyflwr da ar hyn o bryd nac ydyw, ac mae angen i ni ddatrys hynny.
Ellen
A gall Crystal a minnau eich helpu i symud, os hoffech wneud hynny?
Crystal
Nid yw'n broblem.
Menyw
Ie, rydych eisiau fy merch.
Ellen
Na, na, na. Rydym eisiau eich helpu fel bod gennych gartref braf.
Crystal
Rhywle i aros.

[CRÏO]

[CRÏO]

Ellen
Allwch chi ein tywys o amgylch, te?
CrystalCrystal
Rwy'n credu bod hyn ar y rhestr o bethau i'w gwneud. Hynny yw, alla i ddim gweld unrhyw beth y gallaf ei wneud yn syth i'ch helpu, oherwydd o ran -- dim ond glanhau yw e, ynte? Nid yw'n gweithio, nac ydy?
Menyw
Os ydych chi'n agor hwnna, mae wedi'i flocio i gyd.
Crystal
Ie, felly na i ffonio atgyweiriadau am hynna. Mae'r dŵr yn dod allan o dwll y plwg. Iawn.
Ellen
Felly, mae'r bath wedi'i flocio, do?
Menyw
Dywedodd rhywun eu bod am ffonio rhywun domestig.
Crystal
Draeniau domestig?
Menyw
Dydyn nhw byth yn dod allan.
Crystal
Iawn.
Menyw
Roedd rhaid i mi ei wneud o, ac roedd yn boenus. Roeddwn i eisiau symud, ond byth yn gallu gwneud hynny. Doeddwn i methu symud.
Crystal
A dyma, beth, eich ystafell?
Menyw
Ie, ond mae llawer o ddillad wedi'u pacio a phethau fel yna ynddi fel y gallaf symud.
Ellen
Felly ers pryd ydych chi ddim yn aros yma?
Menyw
Dros flwyddyn.
Ellen
Rydych wedi bod yn aros ar sofas ers blwyddyn felly, a dweud y gwir. Ydych chi'n yfed o gwbl?
Menyw
Oeddwn, o'r blaen, ond nid nawr. Dyna pam y bues mewn helynt â'r heddlu.
Ellen
Ai dyna pryd y cawsoch eich canfod yn feddw yn y parc, rwy'n credu, ynte, sbel yn ôl?
Menyw
Sut ydych chi'n gwybod hynny?
Ellen
Oherwydd, yn amlwg, cawsom ein hysbysu, ond nid oedd rhaid i ni fwrw ymlaen â hynny oherwydd bod eich mam wedi cytuno i gasglu eich plentyn o'r ysgol a'i chadw dros nos.
Menyw
A dyna pryd yr aeth popeth o'i le.
Ellen
Felly ydych chi'n fodlon i mi ddod draw ddydd Llun? A gallwn ddechrau arni gyda'n gilydd.
Menyw
Mmm.
Ellen
Oherwydd, rwy'n credu ei fod wedi cyrraedd pwynt lle rydych yn rhyw fath o foddi ynddo, ac mae popeth wedi mynd yn ormod. Felly dim ond symud ymlaen y gall pethau wneud nawr.

[PESYCHU]

Ellen
Dyna rôl gweithiwr cymdeithasol, ymgysylltu â theuluoedd. Mewn gwirionedd, y nod yw dangos i deuluoedd ein bod eisiau gweithio gyda hwy mewn gwirionedd. Nid ydyn ni eisiau dweud y drefn. Ond mae'n rhaid canolbwyntio ar asesu'r cartref ar gyfer perygl bob amser. Ydy'r plentyn hwn mewn perygl? Os felly, mewn perygl gan bwy? Mewn perygl o beth? Ac oes modd i ni roi cynllun diogelwch ar waith i leihau'r peryglon hynny, neu oes angen i ni fynd â'r plentyn i ffwrdd?
Adroddwr
Mae Ellen yn rhoi pythefnos i'r fam lanhau tra bod ei merch yn aros gyda'i modryb. Mae dyfodol hirdymor y plentyn yn dal yn ansicr. Gan wybod bod angen cartref sefydlog a diogel er mwyn ffynnu, mae Ellen yn dychwelyd i weld a yw'r fam wedi dechrau glanhau.
Ellen
Ni fyddai'n gwneud lles i mi fynd i mewn a chymryd drosodd, oherwydd nid dyna'r diben. Oherwydd os nad yw hi'n cymryd cyfrifoldeb am hyn nawr, mae'n debyg y bydd yn digwydd eto ymhen 12, 18 mis.

[CNOCIO UCHEL]

[CNOCIO UCHEL]

Ellen
Dydw i ddim yn meddwl ei bod hi yma ar hyn o bryd, sy'n siomedig iawn. Fodd bynnag, rwyf newydd edrych drwy'r blwch llythyrau ac mae llawer o fagiau du wrth y drws, sy'n ymddangos yn gadarnhaol iawn. Ac, a dweud y gwir, alla i glywed sŵn. Helo, doeddwn i ddim yn meddwl eich bod yma.
Menyw
Ydw, mae'n rhaid i mi fynd allan i nôl mwy o bethau.
Ellen
Ydych chi? Sut ydych chi'n dod ymlaen? Alla i weld?
Menyw
Rwyf wrthi'n rhoi trefn ar bethau i mewn yna.
Ellen
Gadewch i ni weld. Diolch. Iawn, ond ydych chi'n meddwl y bydd hwn yn barod erbyn dydd Gwener mewn gwirionedd?
Menyw
Rwyf am ei wneud e. Hynny yw, beth arall ydw i am ei wneud, heblaw eistedd yma?
Ellen
Felly beth yw'r cynllun ar gyfer gweddill y diwrnod?
Menyw
Clirio'r ddwy ystafell, eu glanhau, yna mynd ymlaen i honna, a thaflu popeth sydd yn y cwpwrdd yn honna.
Ellen
Rwy'n credu bod ganddi ddigon o ddealltwriaeth i wybod na fydd ei merch yn dychwelyd i'w gofal yn syth os nad ydy hi'n gwneud y newidiadau hyn.
Plymwr
llechio hwn i mewn.

[DŴR YN DRAENIO]

[TOILED YN FFLYSIO]

Menyw
Roeddwn i'n gaeth yma. Roedd gen i ddyledion rhent mawr bryd hynny. Wnes i roi'r gorau i siarad â fy nhad am flwyddyn, falle blwyddyn a hanner. Hynny yw, roeddwn wedi fy ynysu a dweud y gwir. Roeddwn yn ynysu fy hun oddi wrth bawb ac yn gwneud dim ond yfed. Roeddwn yn goryfed o ddydd Gwener i ddydd Sul. Roeddwn yn yfed tua 18 litr o seidr. Roeddwn yn cyfogi. Fe es i'n felyn. Dychmygwch hynna. Beth yw hynny, fel chwe litr y diwrnod?
Pan gefais wybod fy mod wedi colli fy swydd, mae'n rhaid fy mod wedi dod yn ôl yma, gafael mewn potel o Bullet, Jack Daniel's a Southern Comfort. Fe yfes y Southern Comfort a'r Jack Daniel's a mynd yn anymwybodol mewn parc. Ac rwy'n meddwl mai dyna pryd y cafodd y gwasanaethau cymdeithasol eu galw. Dyna sut roedd Ellen yn gwybod cyn i mi ddweud wrthi. Ond roeddwn bob amser yn sobr pan oeddwn yn ei gweld hi. Mae'n rhaid i mi roi trefn ar bethau. Mae hi eisiau carped porffor.
Ellen
Rwy'n credu mai'r peth hanfodol yw edrych yn ôl dros gyfnod go hir. Mae'r holl broblemau emosiynol hyn wedi bod yn gwaethygu ac maent wedi cyrraedd pwynt argyfwng.
Adroddwr
Mae Ellen yn ymwybodol mai dim ond megis dechrau yw'r gwaith glanhau. Nawr, mae'n rhaid i'r fam weithio tuag at y nod o ddarparu cartref go iawn cyn y gall ei merch symud yn ôl i mewn.

[CERDDORIAETH YN CHWARAE]

Ellen
Mewn gwirionedd, cafodd cyfres o weithwyr proffesiynol eu defnyddio pan gafodd yr achos ei gyfeirio atom.
Gweithiwr Cymdeithasol
Rydym am eich cefnogi a'ch grymuso mewn gwirionedd, a'ch rhoi yn ôl ar y trywydd cywir.
Menyw
Iawn.
Gweithiwr Cymdeithasol
Y mater arall fyddai datblygu cartref i'r ddwy ohonoch.
Ellen
Nawr, rydym yn edrych ar y materion tymor hwy, a sut y gall aros fel y mae hi heb ein hymyrraeth ni. Helo!
Menyw
Helo.
Ellen
Sut ydych chi?
Menyw
Iawn.
Ellen
Os oes gennych arian a bod eich bil nwy wedi'i dalu, yna gallwch gadw'r ystafell yn fwy cynnes, te? Iawn, felly os allwch chi ysgrifennu'n fras faint sy'n dod mewn a faint sy'n mynd allan.
Menyw
Ie.
Ellen
Mae angen cartref ar blentyn. Y nod yw rhoi sylfaen iddi hi. A'r nod yw rhoi sylfaen iddyn nhw fel uned deuluol.
Menyw
Diolch.

[CERDDORIAETH YN CHWARAE]

Diwedd y trawsgrifiad: Fideo 3.2: Amddiffyn ein plant

End transcript
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
  • Beth yw’ch ymatebion personol i’r rhiant sydd yn y sefyllfa hon?

  • Ym mha ffordd y mae’ch syniadau a’ch gwerthoedd eich hun ynglŷn â rhianta yn berthnasol?

  • Beth yw’r gwerthoedd proffesiynol neu’r gwerthoedd gwaith cymdeithasol y mae’r gweithiwr yn eu dangos?

Sylw

Mae’r fideos hyn yn dangos rhai o’r cymhlethdodau dynol y mae gweithwyr cymdeithasol yn eu hwynebu bob dydd. Efallai eich bod wedi cael amrywiaeth o ymatebion emosiynol. Er bod y fam yn y clip hwn yn amlwg yn anhapus ac yn ofidus oherwydd ei sefyllfa, efallai ei bod yn anodd i chi empatheiddio, neu efallai fod esgeulustod y plentyn wedi gwneud i chi deimlo’n flin. Mae’n bwysig sylwi ar eich teimladau a’ch adweithiau a sôn amdanynt, yn hytrach na’u hanwybyddu. Mae hwn hefyd yn amser da i feddwl ynglŷn â sut y gallwch chi, fel gweithiwr cymdeithasol, barhau i ymateb yn broffesiynol a pharchu dynoliaeth ac urddas defnyddwyr gwasanaethau.

Yn y sefyllfa hon, gwelsoch y gweithwyr cymdeithasol yn dangos gwerthoedd gwaith cymdeithasol drwy ddangos ‘parch at bobl’ Biesteck ac atebolrwydd i’r gyfraith, eu cyd-destun sefydliadol a chydweithwyr a sefydliadau eraill.

Mae gwaith cymdeithasol yn achosi pob math o benbleth ac mae’r ymarferydd sy’n weithredol foesol yn defnyddio amser i fyfyrio a goruchwyliaeth yn ogystal â chodau a phrotocolau i ystyried pethau o ddifrif a phenderfynu ar y camau gweithredu sydd eu hangen. Bydd ymarferwyr myfyriol yn parhau i gwestiynu ymarfer a cheisio gwelliannau. Yn yr adran nesaf, byddwch yn ystyried beth yn union mae ‘ymarfer myfyriol’ yn ei olygu ym maes gwaith cymdeithasol.

Pwyntiau allweddol

  • Mae empathi’n sgil sy’n ein galluogi i ddeall bywydau pobl sydd wedi cael profiadau gwahanol iawn i ni ac felly mae’n adnodd gwerthfawr i weithwyr cymdeithasol.

  • Mae gwerthoedd moesol yn rhan annatod o waith cymdeithasol.

  • Er bod gwaith cymdeithasol yn seiliedig ar werthoedd moesol personol megis parch at bobl), mae hefyd yn bodoli mewn cyd-destun cymdeithasol a galwedigaethol. Mae moeseg broffesiynol a bod yn broffesiynol atebol hefyd yn rhan annatod o waith cymdeithasol proffesiynol.

CYM-K113_1

Ewch â'ch dysgu ymhellach

Gall gwneud y penderfyniad i astudio fod yn gam mawr, a dyna pam y byddwch eisiau Prifysgol y gellir ymddiried ynddi. Mae gan y Brifysgol Agored 50 mlynedd o brofiad yn cyflwyno dysgu hyblyg ac mae 170,000 o fyfyrwyr yn astudio gyda ni ar hyn o bryd. Cymerwch gip ar holl gyrsiau'r Brifysgol Agored.

Os ydych chi'n newydd i astudio ar lefel addysg uwch, darganfyddwch fwy am y mathau o gymwysterau rydyn ni'n eu cynnig, gan gynnwys ein cyrsiau lefel Mynediad a Thystysgrifau.

Ddim yn barod ar gyfer astudiaeth Prifysgol yna porwch dros 900 o gyrsiau am ddim ar OpenLearn a chofrestrwch i'n cylchlythyr i glywed am gyrsiau newydd am ddim, wrth iddynt gael eu rhyddhau.

Bob blwyddyn, mae miloedd o fyfyrwyr yn penderfynu astudio gyda'r Brifysgol Agored. Gyda dros 120 o gymwysterau, mae gennym y cwrs iawn i chi.

Gofynnwch am brosbectws Prifysgol Agored