Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i waith cymdeithasol
Cyflwyniad i waith cymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4 Dod â’r hyn a ddysgwyd gennych ynghyd mewn ymarfer myfyriol

Cyfuno’r hyn a ddysgwyd gennych

Yn yr adran hon byddwch yn dod â’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgwyd gennych hyd yn hyn ynghyd ac yn ystyried yr hyn y mae ‘ymarfer myfyriol’ yn ei olygu.

Rydych wedi cael eich cyflwyno i wahanol ffyrdd o ddeall rôl gweithiwr cymdeithasol a bywydau’r bobl y mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda hwy. Dylech fod wedi dechrau adnabod y gwahanol agweddau ar yr hyn sydd ei angen i ddod yn weithiwr cymdeithasol da. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau, gwerthoedd, moeseg a gwybodaeth.

Ffigur 8 Elfennau o ymarfer gwaith cymdeithasol da

Dechreuwyd drwy ystyried pwysigrwydd safbwyntiau hanesyddol a bywgraffyddol o ran deall profiadau bywyd defnyddwyr gwasanaethau a’r cyd-destun lle mae polisïau’n cael eu llunio ac mae gwasanaethau yn cael eu darparu er mwyn eu helpu. Rydych bellach wedi ystyried eich hunaniaeth eich hun a’ch gwerthoedd sylfaenol, ac wedi cael eich cyflwyno i sylfaen gwybodaeth ehangach, gan gynnwys damcaniaethau a gwaith ymchwil i ymddygiad dynol ac ymlyniadau. Rydych wedi cydnabod y gall fod gan bobl sy’n cael gwasanaethau safbwynt gwahanol iawn i’ch un chi. Rydych hefyd erbyn hyn wedi ystyried rhai o’r sgiliau sydd eu hangen i allu cydnabod hyn a dangos empathi tuag at sefyllfa pob defnyddiwr gwasanaeth.

Fodd bynnag, busnes ymarferol yw gwaith cymdeithasol, sy’n ymwneud ag ymgysylltu â phobl go iawn a’u cefnogi. Myfyrio yw’r broses ddysgu sy’n helpu i integreiddio’r gwahanol fathau hyn o wybodaeth a dealltwriaeth â’r gwaith uniongyrchol a wneir gyda defnyddwyr gwasanaethau. Yng ngweddill yr adran hon, byddwch yn ymchwilio i’r hyn y mae myfyrio yn ei olygu a sut y gallwch ddechrau datblygu’r dull gweithredu hwn yn eich astudiaethau.

Myfyrio fel proses integreiddio

Mae llawer o ddisgyblaethau academaidd a ffynonellau o wybodaeth yn dylanwadu ar ymarfer gwaith cymdeithasol, ac mae’r rhain yn cynnwys cymdeithaseg, seicoleg, polisi cymdeithasol, y gyfraith a gwaith ymchwil. Gall y rhain gael eu cyfuno â phrofiad o ymarfer, sgiliau cyd-ymarferwyr a gwybodaeth defnyddwyr gwasanaethau er mwyn creu profiad dysgu pwerus, y byddai ymarfer proffesiynol yn llai hyddysg o bosibl hebddo.

Mae cysylltu dysgu academaidd ag ymarfer yn gofyn am y gallu i ddefnyddio gwybodaeth er mwyn ystyried ymarfer ac ysgrifennu amdano mewn ‘ffordd fyfyriol’ a gwneud synnwyr ohono.

Fodd bynnag, mae myfyrio nid yn unig yn gofyn am gymhwyso syniadau’n ddeallusol, ond hefyd am ddeall y broses hon o ddysgu drwy brofiad a hunanymwybyddiaeth. Mae ymarfer myfyriol yn cynnwys gwerthfawrogiad o’ch sgiliau a’ch gwerthoedd eich hun, a sensitifrwydd iddynt, ac ymwybyddiaeth o’ch effaith eich hun ar eraill mewn ffurfiau ar waith sy’n ymwneud â chydberthnasau.

Mae awduron megis Donald Schön (1983) a David Kolb (1985) wedi canolbwyntio ar yr ymagwedd hon tuag at fyfyrio. Mae’r damcaniaethwyr hyn wedi ymddiddori yn y ffyrdd y mae oedolion yn dysgu, ac yn arbennig y gwahanol ffyrdd y mae gweithwyr proffesiynol yn dysgu ac yn datblygu eu hymarfer. Aeth Kolb yn ei flaen i ddatblygu cylch o ddysgu, fel y dengys Ffigur 9 isod.

Figure 9 Kolb’s ‘cycle of learning’Disgrifiad hir

Mae’r cylch dysgu yn dechrau pan fydd y dysgwyr yn cael profiad diriaethol neu benodol o ymarfer, sy’n ysgogi’r dysgwr i wneud ‘arsylwadau myfyriol’. Yna drwy’r arsylwadau hyn caiff y dysgwr ei dywys i ‘gyffredinoli a chysyniadoli’n haniaethol’, a gall hyn gael ei gymhwyso wedyn at brofiad tebyg, gan ysgogi ‘cymhwyso syniadau ac arbrofi gweithredol’. Felly, nid yw’r dysgwr yn ymateb yn fecanyddol, drwy ddilyn rheolau neu weithdrefnau yn unig, ond mae’n dysgu drwy fyfyrio ar ymarfer a’i addasu neu’i ddatblygu wrth wneud hynny.

Cylch dysgu

Dyma enghraifft o’r ffordd y defnyddiwyd pob elfen yng nghylch dysg Kolb i fyfyrio ar brofiad gwaith gwirfoddol a wnaed gan ymarferydd gwryw. Darllenwch y darn ynglŷn â’i brofiad diriaethol isod ac yna meddyliwch am yr hyn y byddwch yn ei ddefnyddio ar bob cam o’r cylch dysgu cyn darllen yr hyn a ddysgodd yr ymarferydd dan sylw o’r profiad.

Profiad diriaethol

Susan

Fe ofynnodd yr asiantaeth wirfoddol rown i’n gweithio iddi i mi fynd i siarad â Susan ynglŷn â dod i’n clwb cinio i bobl hŷn. Roedd y gweithiwr cymdeithasol wedi dweud eu bod eisoes wedi trafod y peth, a bod Susan yn disgwyl i rywun ddod i wneud y trefniadau. Roeddwn wedi ysgrifennu i drefnu’r apwyntiad ond pan gyrhaeddes i nid oedd Susan yn fy nisgwyl i bob golwg. Fodd bynnag, fe ges i wahoddiad i ddod i mewn ac fe geisies i esbonio pwy oeddwn i a’r ffaith bod y gweithiwr cymdeithas wedi fy atgyfeirio.

Roedd yn ymddangos ei bod yn byw mewn fflat un ystafell. Roedd yn anniben iawn ac yn drewi i ryw raddau ac nid oedd y ffaith bod gan Susan bump neu fwy o gathod yn mynd a dod yn helpu. Fel sy’n digwydd bob amser, roedd y cathod yn awyddus iawn i ddod i’m cyfarch, gan achosi i mi gael adwaith asmatig alergaidd, gan anwybyddu fy ymgais i’w hel ymaith. Roedd Susan yn fyddar iawn ac roedd yn anodd ei chael hi i ddeall beth oeddwn yn ei ddweud. Ond roedd yn amlwg nad oedd yn ymwybodol o’r cynnig i ddod i’r clwb cinio ac nad oedd yn meddwl y byddai am drafferthu. Roedd rhywun o’r cyngor wedi dod i siarad â hi beth amser yn ôl ond nid oedd yn siŵr pam. Mae’n credu iddyn nhw ddod oherwydd ei meddyg teulu a’u bod yn mynd i drefnu rhywbeth gyda’r toiled lawr grisiau.

Fe wnes i ddiolch i Susan am ei hamser ac fe adawes i gan ddweud y byddwn yn cysylltu â’r gweithiwr cymdeithasol a oedd wedi atgyfeirio ei hachos.

Arsylwi a myfyrio

Pa arsylwadau a myfyrdodau a fyddai gennych ar ôl y profiad hwn?

  1. Fe adawes i yn poeni am sefyllfa Susan. Doeddwn i ddim yn siŵr a oedden ni wedi cyfathrebu’n iawn oherwydd ei byddardod. Doeddwn i ddim yn meddwl ei bod yn fy nghlywed i bob tro ac felly ei bod yn ysgwyd ei phen neu’n cytuno er mwyn fy mhlesio.

  2. Gan fy mod yn gyffredinol anghysurus yn gorfforol yn yr ystafell, doeddwn i ddim wedi bod yn glir nac yn bendant wrth gyfathrebu. Un arall yn mynd a dod fyddwn i iddi hi.

  3. Roedd yn hawdd meddwl ei bod wedi drysu o ganlyniad i hyn, ond doeddwn i ddim yn siŵr ai’r rheswm oedd nad oedd wedi cael y darlun llawn.

  4. Doedd ei sefyllfa ddim yn ddelfrydol, ond doeddwn i ddim yn gwybod a oedd y gweithiwr cymdeithasol wedi gwneud asesiad gwirioneddol ac wedi pwyso a mesur risg a dewis.

  5. Roeddwn i’n teimlo’n euog am amau trylwyredd barn gweithiwr proffesiynol arall ynglŷn â’r sefyllfa hon gan deimlo y dylwn gadw at fy lle yn yr hierarchaeth broffesiynol a hierarchaeth y gwasanaeth - h.y. gweithiwr heb gymwysterau mewn asiantaeth wirfoddol.

Llunio cysyniadau haniaethol a chyffredinoli

Pa gysyniadau haniaethol a chyffredinoli y byddai’r profiad hwn yn esgor arnynt?

  1. Weithiau mae gan ddefnyddwyr gwasanaethau flaenoriaethau gwahanol i flaenoriaethau asiantaethau a’u gweithwyr. Mae’n bwysig bod yn effro i hyn.

  2. Os oes gan rywun nam ar y clyw, yna mae angen i weithwyr wneud popeth o fewn eu gallu i estyn y ffordd y maent yn cyfathrebu a sicrhau eu bod wedi cael eu deall. Er enghraifft, dylai’r gweithiwr eistedd mewn golau da fel y gall yr unigolyn weld ei wyneb, dod â deunydd ysgrifennu er mwyn nodi negeseuon allweddol ar bapur, gofyn cwestiynau penodol neu gaeedig er mwyn cadarnhau ei fod wedi cael ei ddeall.

  3. Os ydych yn hyderus bod yr unigolyn wedi deall, mae dewis a rheolaeth yn sylfaen gwerthoedd pwysig ac mae angen parchu hyn, hyd yn oed pan fydd pobl yn gwneud dewisiadau nad ydynt yn rhai da, yn eich barn chi. Mae angen i’r dyfarniad neu’r asesiad o risg, neu hyd yn oed bryder o bosibl ynglŷn â diogelu gael ei rannu gyda’r gweithiwr cymdeithasol dan sylw a’i gofnodi, fel y gall sicrhau ei fod yn cael darlun mor llawn â phosibl o sefyllfa unigolyn.

Profi goblygiadau mewn sefyllfaoedd newydd

Beth yw’r goblygiadau i sefyllfaoedd newydd?

  1. Fe benderfynes i bob amser ddod â llyfr nodiadau gwag a phin ffelt clir er mwyn helpu i gyfathrebu os oedd angen.

  2. Fe ges i gerdyn a thaflen gan yr asiantaeth a oedd yn cynnwys fy enw a rhif arno fel y byddai gan yr unigolyn yr ymweles â nhw gofnod bob amser o bwy oeddwn i, neu fel y gallai ei ddangos i ymwelwyr eraill.

  3. Fe sonies i am fy mhryderon wrth fy ngoruchwyliwr a’u trafod. Awgrymodd y dylwn i ffonio’r gweithiwr cymdeithasol a siarad â nhw. Hefyd, fe ysgrifennes lythyr at y gweithiwr cymdeithasol i sôn am yr hyn a weles i a phenderfyniad Susan i beidio â dod i’r clwb cinio.

Datblygu’ch sgiliau myfyriol eich hun

Un agwedd bwysig ar ddatblygu’ch sgiliau myfyrio eich hun yw eich bod yn rhoi cynnig ar hyn i chi’ch hun o ran unrhyw agwedd ar eich profiadau.

Gweithgarwch 11 Myfyrio ar eich ymarfer eich hun

Timing: Dylech dreulio tua 30 munud ar y dasg hon

Meddyliwch am sefyllfa a fu’n anodd pan wnaethoch roi cynnig arni am y tro cyntaf, megis y tro cyntaf y gwnaethoch rywbeth newydd, cyfarfod â rhywun a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth am y tro cyntaf, neu sefyllfa lle roeddech chi neu rywun arall wedi cynhyrfu mewn rhyw ffordd. Defnyddiwch y camau yng nghylch dysgu Kolb er mwyn eich helpu i fyfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd. Gan ddefnyddio’r cwestiynau isod, ceisiwch gofio’r emosiynau, y meddyliau neu’r myfyrdodau a ysgogwyd gan y sefyllfa a’r hyn rydych wedi’i ddysgu o’r profiad. Sut y gwnaethoch ymdrin â sefyllfa debyg y tro nesaf i chi ddod ar ei thraws?

  • Disgrifiwch y profiad diriaethol.
  • Pa arsylwadau a myfyrdodau a oedd gennych ar ôl y profiad hwn?
  • Pa gysyniadau haniaethol a chyffredinoli y byddwch yn eu llunio?
  • Beth yw’r goblygiadau i sefyllfaoedd newydd?

Gadael sylw

Rydym yn gobeithio y byddwch, drwy weithio drwy’r ymarfer hwn, wedi cydnabod nad oes dim byd dirgel am gylch dysgu Kolb.

Fodd bynnag, mae myfyrio yn golygu mwy na chreu cysylltiadau â gwybodaeth; Disgrifiodd Boud a Knights (1996) dri cham o ystyried pethau’n fyfyriol fel:

  1. dychwelyd i brofiad

  2. ystyried teimladau sy’n gysylltiedig â’r profiad

  3. ail-werthuso’r profiad drwy gydnabod ei oblygiadau a’i ganlyniadau.

Mae pwyslais Boud a Knights ar deimladau’n bwysig, oherwydd gall ymatebion emosiynol ddylanwadu ar allu gweithiwr i lunio barn a’i dywys tuag at gwestiynu greddfol, a all fod yn werthfawr iawn ynddo’i hun. Mae gwaith cymdeithasol yn golygu mwy na dilyn gweithdrefnau yn unig; mae’n rhaid i weithwyr cymdeithasol ystyried pethau o ddifrif, cymhwyso gwersi o brofiad blaenorol a dod o hyd i ffyrdd newydd o ymdrin â sefyllfaoedd newydd.

Bod yn hunanymwybodol mewn ymarfer myfyriol

Mae bod yn ymwybodol ohonoch chi’ch hun a’ch effaith ar eraill yn elfen angenrheidiol o ymarfer myfyriol ac mae’n hollbwysig i’r cydberthnasau y mae gweithwyr cymdeithasol yn eu meithrin â’r bobl y maent yn gweithio iddynt. Disgrifiodd Joyce Lishman waith cymdeithasol fel:

‘Entering into the lives of people who are in distress, conflict or trouble. To do this requires not only technical competence but also qualities of integrity, genuineness and self-awareness.’

(Lishman, 1994, quoted in Lishman, 2002, t. 95)
Ffigur 10

Mae nodweddion fel ‘uniondeb, didwylledd a hunanymwybyddiaeth’ yn hollbwysig er mwyn datblygu empathi a dealltwriaeth o werthoedd gwaith cymdeithasol. Fodd bynnag, er bod angen hunanymwybyddiaeth er mwyn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth, mae hefyd yn angenrheidiol er mwyn cymryd cyfrifoldeb proffesiynol am eich dysgu a’ch datblygiad eich hun.

Yng Nghymru ac yn yr Alban, mae codau’r Cyngor Gofal yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr

‘…to be accountable for the quality of their work and take responsibility for maintaining and improving their knowledge and skills’.

(Scottish Social Services Council, 2009; Cyngor Gofal Cymru, 2002)

O ran gwybodaeth a myfyrio beirniadol, mae’r College of Social Work (Lloegr) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’w weithwyr:

‘Apply critical reflection and analysis to inform and provide a rationale for professional decision-making. … They use critical thinking augmented by creativity and curiosity.’

(The College of Social Work, 2012)

Mae hyn yn tybio bod myfyrwyr a gweithwyr nid yn unig yn ymwybodol o’u harferion eu hunain ond hefyd o’u hanghenion o ran datblygiad proffesiynol. Mae’n naturiol efallai teimlo eich bod yn gallu deall a gwneud sylwadau ar gymhellion, arferion ac agweddau pobl eraill yn haws na’ch rhai eich hun. Mae’n aml yn haws hefyd i fynegi cryfderau a diffygion y sefydliad rydym yn gweithio iddo nag ystyried ein rôl neu ein cyfraniad ein hunain at ei lwyddiannau a’i wendidau. Mae hunanymwybyddiaeth yn fath o fyfyrio, yn yr ystyr ei bod yn ein hannog i feddwl amdanom ein hunain, pa fath o bobl ydym ni a pha fath o bobl yr hoffem fod. Mae’n broses ddiderfyn, wrth gwrs, oherwydd drwy ddod yn fwy hunanymwybodol, rydym yn darganfod yr angen i ddatblygu hynny ymhellach. Mae cymhlethdodau ymddygiad dynol a bywyd cyfoes hefyd yn golygu ein bod bob amser yn dysgu amdanom ni ein hunain a phobl eraill.

Datblygu eich hunanymwybyddiaeth

Rhan bwysig o ddatblygu hunaniaeth broffesiynol yw deall eich hun yn well. Mae mwy o hunanymwybyddiaeth yn galluogi ymarferwyr i ddeall beth allai ddylanwadu ar eu cydberthnasau â defnyddwyr gwasanaeth. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r hyn y gallan nhw ei gynnig i’r gydberthynas eu hunain - o ran sgiliau a phrofiadau yn ogystal â thybiaethau a hyd yn oed ymatebion anymwybodol.

Gweithgaredd 12 Ymwybyddiaeth o’ch hunan

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y dasg hon

Wrth ichi weithio drwy’r cwrs hwn, beth mae’r gweithgareddau wedi’i ddatgelu am eich nodweddion a’ch profiadau personol? Sut gall y rhain effeithio ar eich cydberthnasau (mewn ffordd dda neu ddrwg), p’un a ydych yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth yn barod ai peidio?

Meddyliwch am y cwestiynau hyn a gwnewch rai nodiadau ar beth rydych wedi’i ddysgu amdanoch eich hun a’ch cydberthnasau.

Gadael sylw

Efallai y cewch eich synnu o ddysgu faint o weithgareddau gwahanol yn y bloc hwn sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth bersonol. Er enghraifft, gwnaethoch ystyried sut rydych yn diffinio eich hunaniaeth mewn lleoliadau gwahanol. Gwnaethoch hefyd ystyried rhai stereoteipiau a allai fod gennych. Mae’n bwysig cydnabod ymatebion o’r fath, fel y gallwch ddelio â nhw. Yn yr un modd, mae gan bawb eu mannau gwan a’u hymatebion awtomatig eu hunain. Os ydych yn ymwybodol o’r rhain, gallwch ddelio â nhw a’u hystyried o fewn eich cydberthnasau gwaith cymdeithasol. Rhaid ichi fod yn barod i fynd ati’n ymwybodol i roi eich rhagfarnau i’r neilltu. Yn hytrach nag ymateb yn awtomatig, mae angen ichi ystyried y rhesymau dros eich ymatebion. Er enghraifft, ystyriwch yr ymarferydd a ddywedodd fod ganddo broblem â phobl sy’n drewi. Ar ôl iddo gydnabod y rhagfarn hon, roedd wedi gallu ei chymryd i ystyriaeth a newid ei ymateb yn briodol.

Hefyd, rydych wedi ystyried eich gwerthoedd personol. Unwaith eto, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd eich hun fel y gallwch weld sut y maent yn wahanol i werthoedd pobl eraill.

Hunanymwybyddiaeth drwy oruchwylio

Er bod ceisio sicrhau ymwybyddiaeth feirniadol yn un ffordd o ddatblygu eich sgiliau a’ch ymarfer myfyriol, mae goruchwylio yn ffordd bwysig arall o wneud hynny. Fel arfer, mae goruchwylio yn rhan o ymarfer proffesiynol gweithwyr cymdeithasol a byddent yn ei ystyried yn rhan ganolog o’u datblygiad fel ymarferwyr medrus a myfyriol.

Mae Lishman (2002) yn rhestru chwe phwynt a ddylai fod yn sail i bob trefniant goruchwylio ar gyfer myfyrwyr a staff:

  1. Dylai ganolbwyntio ar ddysgu.

  2. Dylid ei wneud yn rheolaidd ac mewn ffordd ddibynadwy.

  3. Dylid cael ymddiriedaeth ar y ddwy ochr ac ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud ag awdurdod a chyfrifoldeb.

  4. Dylai ddarparu cymorth a chyfleoedd i fynegi teimladau a mynd o dan yr wynebwrth ddadansoddi problemau a sefyllfaoedd.

  5. Dylai ymdrin â’r materion penodol hynny y nodwyd eu bod yn peri problemau ichi, gan gynnwys delio â phoen, pryder, dryswch, trais a straen.

  6. Dylai’r cynnwys a’r broses fod yn wrthormesol ac yn wrthwahaniaethol.

Daw Lishman i’r casgliad canlynol: ‘supervision is time for exploration, reflection, learning and problem-solving’ (Lishman, 2002, t. 107).

Cafodd goruchwyliaeth sylw a chydnabyddiaeth yn adolygiad Munro o wasanaethau gofal cymdeithasol i blant yn Lloegr yn 2011:

‘Analytic skills can be enhanced by formal teaching and reading. Intuitive skills are essentially derived from experience. Experience on its own, however, is not enough. It needs to be allied to reflection – time and attention given to mulling over the experience and learning from it. This is often best achieved in conversation with others, in supervision, for example, or in discussions with colleagues.’

(Munro, 2011, t. 87)

Mae ei geiriau yn ein hatgoffa bod myfyrio yn eich helpu i ddelio’n well â sefyllfaoedd cymhleth na ellir eu datrys drwy ddilyn rheolau neu ganllawiau.

Ysgrifennu myfyriol

Rydych wedi ystyried myfyrio fel ffordd o feddwl a dysgu. Yn awr, mae angen inni feddwl am ysgrifennu myfyriol. Bydd llawer o’r disgwyliadau o ran ysgrifennu myfyriol yn debyg iawn i’r arferion ysgrifennu rydych eisoes yn gyfarwydd â nhw, fel yr angen i gydnabod eich ffynonellau drwy ddefnyddio cyfeiriadau a defnyddio iaith glir sy’n ddealladwy i’ch darllenydd. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau pwysig y bydd angen ichi feddwl amdanynt os byddwch yn mynd ati i astudio am radd mewn gwaith cymdeithasol.

  1. Efallai na fydd angen ateb y cwestiynau ar ffurf traethawd ac felly efallai y bydd angen defnyddio dull a strwythur gwahanol i’r cyflwyniad, y prif baragraffau a’r casgliad confensiynol.

  2. Er bod y rhan fwyaf o ddarnau ysgrifenedig proffesiynol (e.e. adroddiadau, cofnodion) wedi’u hysgrifennu yn y trydydd person, rhaid ichi ysgrifennu am eich profiadau eich hun wrth ysgrifennu’n fyfyriol ac felly cewch eich annog i ddefnyddio’r person cyntaf (‘Rwyf/Rydw i’).

  3. Er bod disgwyl ichi ddefnyddio eich gwaith darllen neu ‘ddamcaniaethau‘ o hyd, bydd angen ichi gysylltu hyn â’r drafodaeth ynglŷn â’ch profiadau eich hun a’r hyn rydych wedi’i ddysgu o’r profiadau hyn.

Os oes gennych brofiad o ysgrifennu mewn addysg uwch yn barod, efallai y bydd ysgrifennu myfyriol yn teimlo’n rhyfedd ichi i ddechrau. Dywedodd un fyfyrwraig gwaith cymdeithasol, a oedd eisoes â gradd, er mai ei phrofiad hi o ysgrifennu academaidd oedd ei fod yn edrych ar ysgrifennu yn y trydydd person, mae ysgrifennu myfyriol yn edrych ar rywbeth gwahanol:

‘Well, you write that to your Auntie Jane, you don’t write it for a course, I’ve never written it for a course ... In this course you are going to be asked to write about yourself big style. You have got to be king. You have got to be in the centre.’

(Myfyrwraig gwaith cymdeithasol)

Er nad yw ysgrifennu myfyriol yn union yr un peth ag ysgrifennu llythyr at ‘Anti Jane’ neu flog personol, roedd y fyfyrwraig hon yn gywir i ddweud bod ysgrifennu myfyriol yn debyg i ysgrifennu dyddiadur (neu flog) ac nad yw’r rhan fwyaf o waith ysgrifennu academaidd yn eich annog i ysgrifennu amdanoch eich hun a’ch profiadau eich hun.

Gweithgaredd 13 Ysgrifennu myfyriol

Timing: Dylech dreulio tua 30 munud ar y dasg hon

Treuliwch 15 munud yn ysgrifennu mor rhydd ag y gallwch am eich meddyliau ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu hyd yma. Dim ond chi fydd yn gweld beth fyddwch yn ei ysgrifennu, felly peidiwch â phoeni gormod am sut i drefnu eich syniadau na hyd yn oed eich iaith (y geiriau rydych yn eu defnyddio, strwythur brawddegau, sillafu, gramadeg, atalnodi ac ati). Ysgrifennwch beth sy’n dod i’ch meddwl.

Ar ôl treulio tua 15 munud yn ysgrifennu, rhowch eich darn ysgrifennu i gadw mewn man diogel.

Yn nes ymlaen, y diwrnod canlynol efallai, ailddarllenwch yr hyn rydych wedi’i ysgrifennu. Nodwch eich atebion i’r cwestiynau canlynol:

  • A wnaethoch chi fwynhau ysgrifennu yn y ffordd hon, neu a oedd yn anodd?

  • A oeddech chi’n teimlo eich bod yn gallu anghofio am y disgwyliadau traddodiadol o ran ysgrifennu ‘da’ a gadael i’ch meddyliau lifo?

Gadael sylw

Mae rhai pobl yn mwynhau’r math hwn o ysgrifennu’n fawr, fel ffordd o roi eu teimladau a’u meddyliau ar bapur a hyd yn oed ddatblygu syniadau creadigol. Mae’n dasg letchwith ac artiffisial i eraill, yn enwedig pobl na fyddent yn siarad amdanynt eu hunain mewn ffordd fyfyriol fel arfer, heb sôn am roi eu meddyliau amdanynt eu hunain ar bapur fel hyn. Mae rhai pobl hefyd yn teimlo’n annifyr iawn wrth feddwl y bydd rhywun arall yn darllen ac yn beirniadu’r hyn y maent wedi’i ysgrifennu, sy’n gallu eu hatal rhag mynegi eu hunain. Gall ysgrifennu rhydd fod yn ffordd dda o oresgyn pryder ynglŷn â mynegi eich hun. Mae ysgrifennu rhydd hefyd yn debyg iawn i ysgrifennu myfyriol, gan fod y pwyslais arnoch chi, yr ysgrifennydd, eich meddyliau a’ch profiadau sy’n cael eu cofnodi yn y person cyntaf. Os cawsoch unrhyw anhawster gyda’r gweithgaredd hwn, efallai yr hoffech ddal ati i ymarfer yr ymarfer ysgrifennu rhydd hwn. Cofiwch, gallwch ddewis unrhyw bwnc, yn seiliedig ar brofiadau gwaith neu brofiadau personol.

Pwyntiau allweddol

  • Gall myfyrio wella ymarfer gwaith cymdeithasol.

  • Ystyr myfyrio yw dwyn ynghyd eich profiadau, eich astudiaethau a’ch teimladau er mwyn eich helpu i werthuso eich ymarfer a meddwl am ymyriadau a chanlyniadau.

  • Mae goruchwyliaeth yn chwarae rôl bwysig o ran cefnogi gwaith myfyrio.