Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i waith cymdeithasol
Cyflwyniad i waith cymdeithasol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Casgliad

Mae’r cwrs wedi ymdrin ag ystod eang o faterion sydd wedi’u cynllunio i’ch annog i fyfyrio ar eich profiadau bywyd eich hun a phrofiadau a chanfyddiadau defnyddwyr gwasanaeth ac ymarferwyr. Mae’r teitl, ‘Canolbwyntio ar unigolion’, yn eich atgoffa mai hanfod gwaith cymdeithasol yw gweithio gyda phobl, yn ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr, a’ch bod chithau hefyd yn un o’r bobl yn y broses hon. Wrth fynd drwy’r cwrs, gobeithio ei fod wedi eich annog i fyfyrio ar eich ymarfer, eich teimladau, eich meddyliau a’ch ymatebion eich hun. Er mwyn sicrhau eich bod wedi deall yr hyn sydd yn y deunydd hwn, efallai y bydd yn ddefnyddiol ichi ystyried y cwestiynau craidd canlynol er mwyn gweld a allwch eu hateb yn awr.

Cwestiynau craidd

  • Pam bod bywgraffiadau’n bwysig?

  • Sut mae dealltwriaeth o ddamcaniaeth hunaniaeth ac ymlyniad yn cyfrannu at ymarfer gwaith cymdeithasol?

  • Pa nodweddion y mae defnyddwyr gwasanaeth yn eu gwerthfawrogi mewn gweithwyr cymdeithasol?

  • Pa werthoedd sy’n rhan annatod o hunaniaeth gweithiwr cymdeithasol proffesiynol?

  • Beth yw ystyr ymarfer myfyriol?

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .