4.2 Dull gwahanol o gymorth
Mae Cyngor Sir Swydd Nottingham wedi datblygu cynllun o'r enw dull sy'n seiliedig ar gryfderau. Gelwir y dull sy'n canolbwyntio ar gryfderau hefyd yn 'ddull sy'n seiliedig ar asedau' yn yr Alban ac mae wedi cael ei hyrwyddo gan y Sefydliad Ymchwil ac Arloesedd mewn Gwasanaethau Cymdeithasol (IRISS) ers sawl blwyddyn. Er enghraifft, gwelwch gyhoeddiad IRISS, Using an assets approach for positive mental health and well-being.
Mae'r math hwn o ddull yn helpu i annog pobl i fod yn fwy annibynnol drwy dynnu cymorth yn ôl yn raddol pan fydd y gofalwr yn dechrau gweld bod gan y person y sgil neu'r cryfder sy'n ofynnol i gyflawni rhai tasgau'n annibynnol. Mae i hyn y fantais o sicrhau bod cymorth yn bodoli o hyd gyhyd ag y bydd ei angen ar y person, a bydd y person sy'n derbyn gofal yn gallu bod yn fwy annibynnol a hunangynhaliol.
Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn gwylio fideo am Julie, sydd â phroblemau iechyd meddwl. Cafodd Julie help gan Cheryl, o United Response yn Swydd Nottingham, i gyflawni lefel uchel o annibyniaeth. Roedd Julie am gael yr annibyniaeth hon fel y gallai ei merch, Leanne, a oedd wedi bod yn gofalu amdani, symud oddi cartref.
Gweithgaredd 7
Wrth i chi wylio'r fideo, meddyliwch beth a wnaeth Cheryl er mwyn galluogi Julie i gymryd camau tuag at fod yn annibynnol. Gwnewch nodyn o'ch meddyliau.
Discussion
Y peth cyntaf a wnaeth Cheryl oedd meithrin cydberthynas â Julie drwy gael gwybod beth oedd yn bwysig iddi a beth y gallai ei wneud eisoes. Yna, adeiladodd Cheryl ar y sylfeini hyn er mwyn rhoi hyder i Julie y gallai reoli gweithgareddau penodol yn annibynnol. Helpodd y camau cychwynnol hyn Julie i fagu'r hunanhyder a hunan-barch i gymryd camau pellach ac anoddach.
Roedd y ddwy fenyw yn cydnabod bod ffordd hir o'u blaenau ond na ellid rhuthro. Wrth i Cheryl weithio gyda Julie, byddai'n gallu tynnu'r lefel o gymorth yn ôl yn raddol a byddai Julie yn gwneud mwy a mwy drosti ei hun.
Roedd yn amlwg o'r fideo faint roedd hyn wedi gwella lles Julie a lles ei merch, a oedd yn gweithio tuag at ei nod o allu gadael cartref.
OpenLearn - Gofalu am oedolion
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.

