4.1 Adferiad

Mae'r cysyniad o adferiad yn cydnabod bod yr unigolyn sydd â phroblemau iechyd meddwl am gael bywyd ystyrlon a boddhaus, a'r unigolyn ei hun sy'n diffinio beth yw ystyr ystyrlon a boddhaus. Gyda chymorth gan weithwyr proffesiynol, gofalwyr a chyd ddefnyddwyr gwasanaethau, mae'r unigolyn yn symud ymlaen i gyflawni ei nodau.
Yn ei daflen ffeithiau ar adferiad, mae Rethink, elusen iechyd meddwl fawr a sefydliad ymgyrchu, yn disgrifio bod adferiad yn cynnwys yr elfennau canlynol:
- gweithio tuag at eich nodau
- cael gobaith ar gyfer y dyfodol
- rhywbeth rydych yn ei gyflawni drosoch eich hun
- mae'n broses barhaus
- cymryd cyfrifoldeb dros fywyd rhywun.
Wrth gwrs, mae hyn yn dibynnu ar beth sy'n realistig i bob unigolyn.
OpenLearn - Gofalu am oedolion
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
