1 Beth yw cyfathrebu?

Gweithgaredd 1

Dylech neilltuo tua 10 munud

Edrychwch ar y delweddau hyn. Beth sydd gan yr holl bethau hyn yn gyffredin?

image image image image
(a) Aderyn yn canu
(b) Ambiwlans gyda goleuadau'n fflachio a seiren
(c) Ffôn symudol sy'n derbyn neges destun
(ch) Cath yn troelli o amgylch traed ei pherchennog ac yn canu grwndi'n uchel
(d) Person yn gafael yn llaw rhywun arall
(dd) Babi'n crïo
(e) Ffôn yn canu a pherson yn ateb
(f) Teledu gyda'r newyddion yn dod ymlaen

Ffigur 1 Beth sydd ganddynt yn gyffredin?

Edrychwch eto, a nodwch beth mae pob un ohonynt yn ei gyfathrebu yn eich barn chi.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Discussion

  1. Aderyn yn canu – gallai fod yn ceisio amddiffyn ei diriogaeth neu ddenu cymar.
  2. Ambiwlans gyda goleuadau'n fflachio a seiren – allan o'r ffordd, rwyf ar frys.
  3. Ffôn sy'n derbyn neges destun – mae rhywun am ofyn neu ddweud rhywbeth wrth rywun arall. something.
  4. Cath yn troelli o amgylch traed ei pherchennog ac yn canu grwndi'n uchel – mae hyn fel arfer yn golygu ei bod eisiau bwyd!
  5. Person yn gafael yn llaw rhywun arall – cynnig cysur neu garedigrwydd.
  6. Babi'n crïo – ei unig ffordd o ddweud wrthych fod rhywbeth yn bod.
  7. Ffôn yn canu a pherson yn ateb – mae rhywun am ofyn neu ddweud rhywbeth wrth rywun arall.
  8. Radio/teledu gyda'r newyddion yn dod ymlaen – gwybodaeth am beth sy'n digwydd yn y byd.

Mae pob un ohonynt yn cyfathrebu mewn rhyw ffordd – mae gan bob un ohonynt rywbeth i'w ddweud wrthych.

Rydym yn cyfathrebu drwy'r adeg, weithiau heb sylweddoli hynny. Weithiau, gall rhywbeth mor syml â chodi aeliau, gwenu neu wgu gyfleu neges a gaiff ei deall yn glir rhwng un person â'r llall. Mewn gwirionedd, dull o gyfathrebu yw popeth a wnawn. Gallwn ddangos i bobl sut hwyliau sydd arnom dim ond yn y ffordd rydym yn cerdded i lawr y stryd neu'r ffordd rydym yn ateb y ffôn. Mae'r gweithgaredd nesaf yn gofyn i chi feddwl am y ffyrdd y mae pobl yn cyfathrebu.

Gweithgaredd 2

Dylech neilltuo tua 5 munud

Fel rydych newydd ei weld, mae sawl ffordd o gyfathrebu. Ysgrifennwch o leiaf ddeg ohonynt yma.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Discussion

Dyma rai ohonynt:

  • blog
  • iaith y corff
  • e-bost
  • cyswllt llygad
  • Facebook
  • llythyrau
  • ystumiau corfforol
  • lluniau
  • podlediad
  • radio
  • iaith arwyddion
  • Skype
  • lleferydd
  • ffôn
  • neges destun
  • cyffyrddiad
  • teledu
  • Twitter
  • ysgogiad llais

a llawer mwy.