Transcript
Gweithio mewn ffordd sy'n grymuso - pysgod a sglodion
ANN
Helo, Tim, shw' mae?
TIM
Shw’mae, Ann? Da iawn, diolch. Gobeithio nad oes ots gen ti, ond y rheswm dwi wedi galw heibio yw, rwy'n llwgu, ac mae chwant pysgod a sglodion arna i.
ANN
Pysgod a sglodion? Pam mae chwant pysgod a sglodion arnat ti?
TIM
Wel, dydw i ddim wedi cael rhai ers blynyddoedd, ac maen nhw mor flasus.
ANN
Rwyt ti'n gwybod beth ddywedodd y meddyg, yr holl fraster a saim, dyw e ddim yn gwneud lles i ti, Tim.
TIM
Wn i, ond –
ANN
Elli di ddim.
TIM
Pam lai, dim ond y tro hwn?
ANN
Na, elli di ddim. Byddan nhw'n gwneud cinio rwan; wnai ôl salad i ti.