Pwyntiau allweddol o Adran 1

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu:

  • bod popeth y byddwch yn ei wneud neu'n ei ddweud yn ddull o gyfathrebu
  • pwysigrwydd cyfathrebu gweledol wrth ofalu am eraill
  • beth yw sgiliau rhyngbersonol a rhai o'r ffyrdd y gallwch eu datblygu
  • camau gwrando gwahanol a'r rôl y mae gwrando gweithredol yn ei chwarae wrth gyfathrebu
  • bod ffyrdd gwahanol o helpu pobl i gyfathrebu
  • pam mae cadw cofnodion mor bwysig, a beth sy'n gwneud cofnod da.

Mae Adran 2 yn cwmpasu problemau iechyd meddwl. Drwy astudio'r adran hon, cewch gipolwg ar yr opsiynau gofal a thriniaeth ar gyfer pobl sydd â salwch meddwl. Byddwch hefyd yn dysgu am rôl gofalwyr teuluol sy'n gofalu am ffrind neu berthynas sydd â phroblemau iechyd meddwl.