4.1 Adferiad

Ffigur 4 y ffordd i adferiad

Mae'r cysyniad o adferiad yn cydnabod bod yr unigolyn sydd â phroblemau iechyd meddwl am gael bywyd ystyrlon a boddhaus, a'r unigolyn ei hun sy'n diffinio beth yw ystyr ystyrlon a boddhaus. Gyda chymorth gan weithwyr proffesiynol, gofalwyr a chyd ddefnyddwyr gwasanaethau, mae'r unigolyn yn symud ymlaen i gyflawni ei nodau.

Yn ei daflen ffeithiau ar adferiad, mae Rethink, elusen iechyd meddwl fawr a sefydliad ymgyrchu, yn disgrifio bod adferiad yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • gweithio tuag at eich nodau
  • cael gobaith ar gyfer y dyfodol
  • rhywbeth rydych yn ei gyflawni drosoch eich hun
  • mae'n broses barhaus
  • cymryd cyfrifoldeb dros fywyd rhywun.
(Ffynhonnell: addaswyd o Rethink, 2014)

Wrth gwrs, mae hyn yn dibynnu ar beth sy'n realistig i bob unigolyn.