5 Profiad gofalwyr

Gall problemau iechyd meddwl gael effaith enfawr ar berthnasau a ffrindiau sy'n helpu'r person sy'n derbyn gofal. Gallant fod yn flinedig ac yn anodd yn emosiynol, ac nid yw llawer o ofalwyr wedi paratoi ar gyfer eu rôl newydd. Fodd bynnag, bydd llawer o ofalwyr hefyd yn cael ymdeimlad o gyflawniad o'u rôl ofalu a bydd y gydberthynas â'r person sy'n derbyn gofal yn mynd yn ddyfnach ac yn fwy ystyrlon.
O fewn y pwnc hwn, byddwch yn gweld sut mae gofalu am aelod o'r teulu yn effeithio ar ofalwyr teuluol. Byddwch yn archwilio hawliau gofalwyr teuluol, a'u cydberthynas â'u hymgysylltiad â'r gwasanaethau iechyd meddwl. Byddwch hefyd yn ystyried sut y gallai dull gweithredu sy'n canolbwyntio mwy ar y gofalwr helpu i ddatblygu cydberthynas rhwng gofalwyr teuluol a'r gwasanaethau iechyd meddwl.
OpenLearn - Gofalu am oedolion
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
