4 Cynlluniau gofal brys
Hyd yma yn y pwnc hwn rydych wedi dysgu am gymryd risgiau cadarnhaol sy'n ystyried galluedd meddyliol y person sy'n derbyn gofal, a ffyrdd o hyrwyddo ei annibyniaeth gan ddefnyddio'r arfer lleiaf cyfyngol. Nawr, byddwch yn ystyried beth sy'n digwydd pan na all gofalwr barhau yn ei rôl ofalu am ba reswm bynnag. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gallai hyn fod am awr neu am wythnosau. Yn y pwnc hwn, rydych yn dysgu am sut y gall cynllun gofal brys gyfrannu at y broses o gymryd risgiau cadarnhaol a'ch galluogi i roi cynllun o'r fath ar waith.
OpenLearn - Gofalu am oedolion
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
