Transcript
Siwgr, cariad?
ANN
O, rwyt ti'n ôl.
PAT
Do. Des i nôl ddoe.
ANN
Ges di gwyliau neis?
PAT
O, do. Roedd hi'n lyfli. Roedd hi’n heulog pob diwrnod.
ANN
Gwych.
PAT
Ie, odd hi’n lyfli.
ANN
Ac yna rwyt ti'n dod yn ôl i wynebu hyn –
TIM
Esgusodwch fi, Ann?
ANN
Ie?
TIM
Allet ti ddal fy nghwpan ychydig yn agosach ataf, os gweli di'n dda? Mae'n rhy bell.
ANN
O. Dyna ti.
TIM
Mae'n ddrwg gen i.
PAT
Felly mae gen i docynnau i weld y ‘Pirates of the Caribbean’ newydd.
ANN
O, gwych. Ie.
PAT
Ie, fe wnes i fwynhau'r un diwethaf cymaint.
ANN
Do. Do.
PAT
Ac Orlando Bloom –
ANN
Wel.
PAT
Wel, gallet ei wylio bob diwrnod, gallet ti?
ANN
Gallwn. Ond fyddwn i ddim wedi meddwl y byddai at ddant John.
PAT
Beth wyt ti'n meddwl fyddai e'n ei hoffi tybed?
ANN
Wel, mae'n hoffi ei bêl-droed, yn dydi?
PAT
O, dydw i ddim yn mynd i'r pêl-droed. Rwy’n gwylio digon o hynny ar y teledu.
ANN
Gwylio hynny, ie.
PAT
Ac os nad yw'n hoffi'r ffilm, wel, mae'n ddiwrnod allan. Mae'n newid i'r arfer.
ANN
Ydi. Ydi.
PAT
Felly bydd yn rhaid iddo aros.
ANN
Yn hollol. Cer ag ef allan.
PAT
Byddaf yn mwynhau’r ffilm beth bynnag.
ANN
Byddi.
PAT
Siwgr, cariad? Dyna ti.