Transcript

The Secret Life of the Manic Depressive Part 1

STEPHEN FRY
Daw amser pan fydd y gwacter – gwacter y dyfodol mor eithafol fel bod wal ddu o ddim byd – dim hyd yn oed pethau drwg, nid yw fel pe bai ogof sy'n llawn o anghenfilod y mae gennych ofn mynd i mewn iddi yn y dyfodol – dim ond gwacter – y nuance, fel y byddai'r Ffrancwyr yn ei ddweud, y gwagle – ac mae'n erchyll!
CYFWELYDD
Gall yr actor, yr awdur a'r cyflwynydd Stephen Fry hefyd weld cyfnod cychwyn ei anhwylder deubegynol yn ystod blynyddoedd ei laslencyndod.
STEPHEN FRY
Synnais wrth sylweddoli bod y teimladau o feddwl am hunanladdiad oedd gen i yn brin mewn gwirionedd, nad oeddent yn normal! Roedd llawer o deimladau eraill oedd gen i yn hollol normal ond dysgais nad oedd y teimlad o ddymuno i'm bywyd ddarfod a cheisio gwneud rhywbeth am hynny – a ddigwyddodd tua 17 neu 18 o weithiau mae'n siŵr – yn normal ac mae'n siŵr bod hwnnw'n adeg cystal ag unrhyw un i'w ddyddio.
CYFWELYDD
Ar ddiwedd y 1990au, roedd Stephen Fry yn ymddangos mewn drama yn y West End pan gafodd iselder ofnadwy. Un noson, eisteddodd yn ei gar mewn garej ar fin lladd ei hun. Yn hytrach, ag yntau'n llawn trallod a dryswch, daliodd fferi i Ffrainc.
STEPHEN FRY
Gwelais resi o benawdau papur newydd; er enghraifft, 'Fears for Fry' ac ati ac allwn i ddim credu'r peth. Roeddwn i'n hollol gegrwth – alla i ddim credu fy mod i wedi gwneud i bobl boeni cymaint.
CYFWELYDD
Ar ôl sylweddoli ei fod, yn ddiarwybod iddo, wedi creu ymgyrch fawr ryngwladol i chwilio amdano, dychwelodd i Lundain ac aeth i'r ysbyty – cafodd ddiagnosis o anhwylder deubegynol.
STEPHEN FRY
Mae'n ofnadwy ystyried dyfodol heb ddyfodol, os nad yw hynny'n rhy amhosibl, ac rydych chi am –- gamu allan ohono, camu allan o'r holl ras – yr holl beth – mae erchyllter bod yn fyw yn eich llethu chi.
CYFWELYDD
Yn 2006, roedd Stephen Fry yn ffilmio rhaglen ddogfen am ei drafferthion gyda'i iechyd meddwl pan gafodd gyfnod o iselder llwm.
STEPHEN FRY
Am yr ychydig ddiwrnodau diwethaf rwyf wedi bod yn teimlo'n is ac yn is.
Fel pe bawn gefn llwyfan ar y pryd ac wrth fy modd pe bawn yn gallu bod unrhyw le arall. Rwy'n llwyr ymwybodol fy mod yn berson ofnadwy i fod yn ei gwmni, rwy'n ei chael hi'n anodd cael cyswllt llygad â phobl, rwy'n ei chael hi'n anodd iawn i ymgysylltu â phobl – a bod yn onest, mae'n well gen i fod ar fy mhen fy hun. Rwy'n gweddïo y bydd yn pasio, mewn gwirionedd, achos mae'n annifyr ac rwy'n casáu fy hun am hynny.
Doeddwn i byth yn meddwl fy mod yn clywed lleisiau, ond rydw i – mae gen i lais yn dweud wrtha i fy mod i'n idiot llwyr drwy'r amser yn fy mhen! Fel arfer, pan fyddaf yn teimlo fel hyn, byddaf yn cuddio – alla i ddim y tro hwn.
I mi, mae'r iselder sy'n merwino yn dod tua thair i bedair gwaith y flwyddyn ac mae'n para rhwng wythnos a deg diwrnod. Rwy'n treulio'r amser yn y tŷ yn syllu ar y nenfwd.
CYFWELYDD
Mae amrywiadau hwyl yn dal yn nodwedd ganolog o fywyd Stephen Fry.
STEPHEN FRY
Mae hwyliau fel y tywydd yn fy marn i. Os yw'n bwrw glaw, does dim pwynt dweud nad yw'n bwrw glaw -– mae'n wir, wyddoch chi, bod dŵr yn syrthio o'r awyr. Gall eich synnu oherwydd gall ddigwydd mewn math o drawsgroesiad, cyfnod trawsnewidiol o hwyliau pan fyddwch yn eithaf cadarnhaol ac allwch chi ddim gwneud synnwyr o'r peth am ei fod fel petai bod cymylau yn dod i mewn ond rydych yn teimlo'n dda, ac mae hynny'n rhyfedd iawn. Wel – beth yw ystyr hynny, a gall fod ddau ddiwrnod yn ddiweddarach ac mae wedi mynd yn drymach a thrymach.
Therapi gwrando yw'r therapi siarad gorau mewn gwirionedd, nid yw'n therapi siarad o gwbl. Mae'n ystafell sy'n caniatáu i chi siarad â'ch hun a bydd y rhan fwyaf o'r siarad yn cael ei wneud gan y cleient neu'r claf; ac yna yn achlysurol fel arfer byddwch yn dweud 'dwi'n gwybod ddyliwn i ddim' ac maent yn dweud 'pam na ddylet ti?', wyddoch chi, ac yna byddwch chi'n dweud 'wel ie, rydych chi'n iawn' ac ati.
Yr hyn sy'n cadw rhywun yn fyw yw'r ymdeimlad o ddyfodol ac y bydd yfory'n dod, ac yfory mae angen i mi wneud hyn a'r diwrnod canlynol mae angen i mi wneud y llall. Nid bod diben rhesymegol penodol na rheswm argymhellol i unrhyw un o'r rhain fodoli – ond rywsut maent yn cadw rhywun i fynd. Yng ngeiriau Dorothy Parker, menyw ffraeth ac awdur a bardd 'You might as well live'.