Transcript

Gweithio mewn ffordd sy'n grymuso – mae'n rhy gynnar

ANN
Felly sut wyt ti? Dydw i ddim wedi dy weld di ers sbel.
PAT
O, dwi'n iawn. Diolch. Sut wyt ti?
ANN
Iawn.
PAT
Rwy di bod i ffwwrdd am gwpwl o ddiwrnodau.
ANN
Wyt ti?
PAT
Ie, o’n i adre yn ymlacio. Odd hi’n hyfryd.
ANN
Ie. Ie.
PAT
Ie. Odd hi’n lyfli.
ANN
Fyddi di i mewn y penwythnos hwn?
PAT
Byddaf. Wela i ti'r penwythnos hwn.
ANN
O.
PAT
Rwy'n mynd i godi Tim.
ANN
O'r gorau. Wela i ti hwyrach ymlaen te.
PAT
Wela i di. Bore da.
TIM
Bore da.
PAT
Amser dyhuno nawr.
TIM
Beth yw'r amser?
PAT
Mae’n 8 o'r gloch.
TIM
8 o'r gloch?
PAT
Ydy, mae'n gynnar.
TIM
Mae'n rhy gynnar.
PAT
Nac ydi. Mae dy frecwast yn barod i lawr y grisiau. Mae staff y gegin wedi paratoi popeth.
TIM
Does dim awydd brecwast arna i. Ga i aros yn y gwely?
PAT
Beth am i mi estyn dillad neis i ti? Mae’r crys hwn yn hyfryd.
TIM
Ond gwnes i wisgo hwnna ddoe. Alla i ddim gwisgo trowsus byr?
PAT
Na, mae hwnna’n lân ac yn neis felly wnai rhoi funud i ti ddeffro a fyddai nôl mewn munud, OK?
TIM
Beth wyt ti'n ei feddwl? [OCHNEIDIO]