Transcript

Y Ddeddf Ofal – Hyrwyddo annibyniaeth

Dull sy'n seiliedig ar gryfder

Cymryd dull sy'n seiliedig ar gryfder – gweld yr unigolyn

Mae gan Julie anawsterau iechyd meddwl. Roedd ei merch, Leanne, gofalwr ifanc, am symud allan o'r cartref. Cafodd Julie ei hasesu gan weithiwr cymdeithasol a chafodd gynnig cymorth gan United Response, un o nifer o ddarparwyr cymorth yn Swydd Nottingham. Cyflwynwyd Julie i Cheryl, a gymerodd ddull sy'n seiliedig ar gryfder i weithio gyda hi.

Pan wnaeth Cheryl gyfarfod Julie

roedd ganddi lefel isel o hunanhyder

ni allai wneud ei siopa ei hun

ni allai reoli ei harian

nid oedd yn cael llawer o ymarfer corff

nid oedd yn datblygu ei gwaith celf

roedd yn ynysu ei hun.

[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
CHERYL PLATTS
Cheryl Platts ydw i. Rwy'n gweithio i United Response, ac rwy'n helpu pobl yn eu cartrefi eu hunain i fod mor annibynnol â phosibl. A dechreuais helpu Julie tua dwy flynedd yn ôl. Mae'n fenyw sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n byw yn ei chartref ei hun ac mae wedi magu teulu.
JULIE UNDERWOOD
Julie Underwood ydw i, ac rwyf wedi bod yn cael help gan Cheryl o Assertive Outreach ers y ddwy flynedd ddiwethaf.
LEANNE BETTS
Gadewais fy nghartref ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, pan ddechreuodd Cheryl helpu fy mam.
CHERYL PLATTS
Gwnaethom dreulio amser yn dod i adnabod ein gilydd ac yn gweld beth oedd ei chryfderau a ble y gallem adeiladu'r cryfderau hynny. Roedd angen i Julie wella ei hyder gryn dipyn. Ond roedd ganddi'r cryfderau hynny eisoes. Roedd angen dod o hyd i'r ffordd orau o weithredu'r cryfderau hynny.
JULIE UNDERWOOD
Gan fod Leanne yn symud allan i fyw yn ei chartref ei hun, ac roedd am fyw ei bywyd ei hun, ar ôl bod yn ofalwr ifanc yn gofalu amdanaf ers sawl blwyddyn. Daeth Cheryl i helpu gyda'r siopa. Bu'n fy helpu hefyd gyda'm hyder a'm galluogi i fod yn fwy cymdeithasol.
LEANNE BETTS
Roeddet ti'n arfer cael pyliau o banig, yn doeddet ti?
JULIE UNDERWOOD
Oeddwn.
LEANNE BETTS
Ie, roedd yn cynhyrfu'n lân, ac wyddai hi ddim sut i ymdopi. Felly gwnes i hynny am sawl blwyddyn. Felly roedd angen i rywun arall gamu i mewn i helpu.
CHERYL PLATTS
Mae'n bwysig iawn dod i adnabod y person hwnnw'n iawn. Felly roedd angen i mi ddod i adnabod Julie, beth mae'n ei hoffi, beth sy'n bwysig iddi, a pheidio ag edrych ar y problemau sydd ganddi.
JULIE UNDERWOOD
Dewisais Cheryl gan fy mod wedi cael fy nenu ati, a gwnaethom gysylltiad ar unwaith.
CHERYL PLATTS
Dywedodd wrthyf am ei theulu a'r holl bethau oedd yn golygu llawer iddi, fel roeddem yn gallu sgwrsio amdanynt.
JULIE UNDERWOOD
A byddem yn trafod celf, a phethau y byddwn yn hoffi eu gwneud yn y dyfodol, a phethau y byddwn yn hoffi adeiladu arnynt. Rwy'n credu bod Cheryl wedi sylwi ar rai o'm cryfderau mewnol a'm gwendidau, ac wedi fy helpu gyda'm gwendidau, ac adeiladu'r cryfderau, a'r pethau cadarnhaol oedd gennyf.
CHERYL PLATTS
Mae wedi gwneud i Julie deimlo fel person. Mae'n gwybod fy mod yno i'w helpu hi ac nid i helpu'r broblem sydd ganddi. Felly mae wedi adeiladu ei hyder i allu gwybod y gall fynd i wneud ei siopa.
JULIE UNDERWOOD
Gallaf dalu'r holl filiau. Rwyf wedi colli hanner stôn o bwysau dros yr ychydig wythnosau diwethaf drwy fynd i nofio.
CHERYL PLATTS
Mae'r dull sy'n canolbwyntio ar gryfder rydym yn ei ddefnyddio yn galluogi Julie i sicrhau bod ganddi'r cysylltiadau hynny â'i theulu a'r cymdogion, yn enwedig. Felly, os bydd Julie yn teimlo ei bod yn cael diwrnod gwael, neu os bydd rhywbeth yn digwydd ym mywyd Julie lle y byddai angen iddi gael mwy o help gan bobl, yn hytrach na gorfod ffonio'r gwasanaethau brys neu ffonio rhyw dîm argyfwng, mae ganddi'r cysylltiadau hynny bellach a'r hyder i allu codi'r ffôn, siarad ag aelod o'r teulu, galw draw i weld y cymdogion, a chael yr help hwnnw ganddynt cyn i'r sefyllfa droi'n argyfwng.
JULIE UNDERWOOD
Roeddwn i'n gwybod y byddwn yn gallu ymdopi. Ac roeddwn i'n gwybod y gallwn ddibynnu ar y sefydliad pe byddai rhywbeth yn mynd o'i le.
CHERYL PLATTS
Pan fyddwn yn gweld bod gweithgaredd neu sgil benodol yn gweithio'n dda i'r person, gallaf roi'r gorau i helpu cymaint gyda'r sgil neu'r dasg honno a'i annog i'w wneud drosto'i hun.
Gallai sefydliadau eraill ddefnyddio'r ffordd hon o weithio oherwydd gwelsom ei fod yn gweithio'n dda iawn i ni. Rydym yn ceisio canolbwyntio ar y person. Rydym yn defnyddio nifer o ddulliau sy'n seiliedig ar hynny i wneud iddo weithio.
LEANNE BETTS
Mae a wnelo hyn ag anghenion cymorth, nid anghenion gofalu. Ac er eu bod yn swnio'n debyg, nid ydynt yn debyg mewn gwirionedd. Os ydych yn cyflawni gofal sylfaenol rhywun drwy'r amser, rydych yn gwneud pethau drostynt. Ond, er efallai y bydd pobl yn gweld mai dyna'r peth cywir i'w wneud, nid yw hynny'n wir.
CHERYL PLATTS
Nawr bod Julie wedi gwneud y cysylltiadau hynny, mae'n teimlo'n fwy hyderus ynddi'i hun. Felly, yn y pen draw, byddwn yn ystyried lleihau'r cymorth yn raddol dros amser. Ac yna gallwn ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer pobl eraill y mae angen yr help arnynt.
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]

Oherwydd y dull sy'n seiliedig ar gryfder, mae Julie bellach yn fwy annibynnol. Mae ganddi

ffrindiau a chymdogion y gall eu ffonio mewn argyfwng

mae'n gwneud ei siopa gyda help Cheryl ac mae'n gweithio tuag at wneud hyn ar ei phen ei hun

mae'n rheoli ei harian ei hun

mae'n mynd i nofio

mae'n rhannu ei gwaith celf gyda phobl eraill ac mae'n gweithio ar gynhyrchu ei llyfr ei hun.