5 Ble i ddod o hyd i gymorth

Mae llawer o wasanaethau cymorth ar-lein yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad ar ffyrdd gwahanol o reoli straen, fel Mind. Mae Mind hefyd yn darparu gwasanaeth cyfieithu – llinell iaith – sy'n cynnig help mewn ieithoedd heblaw Saesneg.

Mae cymunedau ar-lein fel Big White Wall ac Elafriends yn ddefnyddiol ac yn rhoi cymorth i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae'r cymunedau ar-lein hyn yn hollol ddienw, sy'n caniatáu i bobl siarad yn agored yn gyfrinachol.

Mae'r wefan hon yn ddefnyddiol ar gyfer gwasanaethau ar-lein yng Nghymru:

http://www.iechydmeddwlcymru.net/y-sector-gwirfoddol/

Mae gan awdurdodau lleol bellach wasanaeth 'byw'n dda' a gwasanaeth lles – ar-lein ac ar ffurf taflenni a gwybodaeth gysylltiedig, grwpiau cyswllt, gweithdai a chyrsiau. Mae rhagor o wybodaeth ar-lein, er enghraifft ar wefan Lles y GIG, neu drwy eich meddyg, eich llyfrgell leol, Canolfan Cyngor ar Bopeth neu swyddfeydd y cyngor lleol. Bydd y llefydd hyn hefyd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am grwpiau cymunedol lleol eraill a chymorth os byddai'n well gennych gael dull all-lein.

Sefydliad yw Amser i Newid sy'n herio stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am straen a lles yn y gweithle i gyflogwyr a chyflogeion.

Clywsoch am y cymorth a gafodd Norman gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Mae sefydliadau eraill fel hyn, fel Care UK, sydd hefyd yn cynnig cymorth ac arweiniad.

Gweithgaredd 8

Dylech neilltuo tua 15 munud

Chwiliwch ar-lein am bum grŵp cymorth lles.

Rhestrwch nhw yma ac ysgrifennwch ddatganiad byr am yr hyn maent yn ei wneud.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Os byddai'n well gennych beidio â mynd ar-lein, ble arall y gallwch gael cymorth?

Ysgrifennwch dri lle y byddech yn mynd i gael cymorth.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Discussion

Mae'n gymharol hawdd chwilio ar-lein am bob math o gymorth – ar gyfer lles cyffredinol ac ar gyfer help gyda chyflyrau penodol. Nid yw mor hawdd dechrau ceisio cymorth heb ddefnyddio'r rhyngrwyd ond byddai eich meddyg yn lle da i ddechrau, ynghyd â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth, swyddfa'r cyngor lleol neu'r llyfrgell gyhoeddus.