3 Ydych chi'n gwrando neu'n aros i siarad?
Mae gwrando yn rhan allweddol o'r broses gyfathrebu ac er mwyn gwneud hyn yn dda, mae angen i chi edrych yn ogystal â gwrando. Ydych chi'n cofio pan wnaethom ni siarad am gyfathrebu gweledol yn yr adran gyntaf?
Fel arfer, gallwn brosesu gwybodaeth yn gyflymach na'i drosglwyddo yn ymateb ar lafar, felly mae perygl y bydd ein meddwl yn dechrau crwydro. Mae a wnelo gwrando gweithredol â mynd ati i ganolbwyntio at ddiben penodol ac mae'n rhan hanfodol o weithgareddau fel cwnsela neu fynd i gyfarfodydd ac adolygiadau am y bobl rydych yn eu helpu. Er mwyn gwrando'n weithredol, mae angen i chi nodi a chadarnhau meddyliau llafar y person arall, yn ogystal ag ystyried ei negeseuon dilafar.
- Am ba hyd y byddwch chi'n gwrando ar y person arall cyn torri ar draws?
- Pa mor gyflym mae eich meddyliau eich hun yn cymryd drosodd a'ch bod yn dechrau meddwl am ba gwestiwn i'w ofyn neu sut i ateb hyd yn oed cyn i'r person arall orffen siarad?
- Ydych chi'n torri ar draws y person er mwyn rhoi eich barn eich hun neu er mwyn gorffen ei frawddegau cyn iddo orffen?
OpenLearn - Gofalu am oedolion
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
