3.1 Nid yw gwrando yr un fath â chlywed

Mae clywed yn cyfeirio at y synau rydych yn eu clywed, ond mae angen i chi ganolbwyntio er mwyn gwrando. Mae angen sylwi ar y geiriau ac ar sut y cânt eu dweud wrth wrando.

  • Pa fath o iaith sy'n cael ei defnyddio?
  • Beth mae tôn y llais yn ei ddweud wrthych?
  • Beth mae iaith corff y person yn ei ddweud wrthych?

Mae angen i chi fod yn ymwybodol o negeseuon llafar a di-lafar, ac mae eich gallu i wrando'n dda yn dibynnu ar ba mor dda rydych yn gweld ac yn deall y negeseuon hyn.

Gweithgaredd 8

Dylech neilltuo tua 15 munud

Gwyliwch y sgwrs TED hon am wrando gweithredol

Gwrando gweithredol

Mae Katie Owens yn dweud wrthym am gofio tri gair allweddol er mwyn gallu gwrando'n weithredol, sef:

  • Bod
  • Yma
  • Nawr.

Beth yw ystyr hyn yn eich barn chi? Ysgrifennwch eich ateb isod.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Discussion

Mae Katie Owens yn dweud y dylem fod yn bresennol i'r person rydym yn gwrando arno. Mae angen i ni rannu'r foment ag ef, peidio â gwneud unrhyw beth arall a sicrhau nad oes unrhyw beth yn tynnu ein sylw, fel ffonau symudol neu gael un llygad ar y teledu. Mae hefyd yn ddefnyddiol i grynhoi beth mae rhywun wedi'i ddweud wrthych, rhoi cyfle iddo sicrhau eich bod wedi gwrando'n gywir ac wedi deall beth oedd ganddo i'w ddweud.