2.4 Dementia

Term mantell yw dementia a ddefnyddir i ddisgrifio amrywiaeth eang o anhwylderau gwybyddol. Gydag anhwylderau gwybyddol, bydd yr unigolyn yn colli ei allu i feddwl a gallai hyd yn oed golli ei gof yn llwyr. Mae amnesia llwyr yn anghyffredin iawn ond y math mwyaf cyffredin a mynych o anhwylder gwybyddol yw dementia. Y math mwyaf cyffredin o ddementia yw clefyd Alzheimer. Ymysg pobl hŷn y'i gwelir yn bennaf, ond gall ddigwydd yn llawer cynharach fel dementia cyn heneiddio. Ymysg y mathau eraill cyffredin o ddementia mae dementia fasgwlaidd, dementia blaenarleisiol a dementia gyda chyrff Lewy.

Ymysg nodweddion dementia mae:

  • colli cof yn raddol
  • anallu i feddwl drwy broblemau mewn bywyd bob dydd
  • syrthni (anweithgarwch)
  • colli'r gallu i gyfathrebu a rhyngweithio'n briodol.

Mae gan Gymdeithas Alzheimer wybodaeth ddefnyddiol am ddementia, fel diagnosis a gofalu am berson â dementia.