Transcript
Croeso a chyflwyniad gan yr awdur
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
JOHN ROWE
Helo, a chroeso i Gofalu am oedolion. Os ydych yn gweithio mewn rôl ofalu, rydym yn gobeithio, drwy astudio'r cwrs hwn, y byddwch yn cymryd eich camau cyntaf tuag at ddyfodol mwy boddhaus o fewn y sector gofal cymdeithasol i oedolion. Os ydych yn gofalu am aelod o'r teulu, neu os oes gennych rôl ofalu wirfoddol di-dâl, rydym hefyd yn gobeithio y gallwch gael budd mawr drwy astudio'r cwrs hwn, o ran ehangu eich gwybodaeth a'ch sgiliau presennol. Gall fod sawl rheswm pam eich bod wedi dewis astudio Gofalu am oedolion. Gall fod er mwyn cefnogi eich datblygiad wrth i chi symud i rôl gofal cymdeithasol neu eich datblygiad proffesiynol fel gofalwr cyflogedig. Mae'r sgiliau a'r wybodaeth y byddwch yn eu datblygu yn berthnasol os ydych yn rhoi gofal uniongyrchol i rieni a phobl eraill sy'n derbyn gofal.
Mae Gofalu am oedolion yn cynnwys pum adran. Mae Adran 1 yn ystyried ffyrdd o gyfathrebu a datblygu eich sgiliau gwrando a'ch sgiliau rhyngbersonol eraill, yn ogystal â chynnig awgrymiadau ar gyfer dulliau da o gofnodi ac adrodd. Mae Adran 2 yn ystyried mathau o broblemau iechyd meddwl, er enghraifft anhwylderau hwyliau fel iselder a gorbryder ac anhwylderau gwybyddol fel dementia, a sut maent yn effeithio ar y person sy'n derbyn gofal a rôl y gofalwr.
Mae Adran 3 yn archwilio sut y caiff gofal ei ddarparu i bobl sy'n cael gofal lliniarol a gofal diwedd oes a beth yw ystyr 'marwolaeth dda'. Mae Adran 4 yn egluro pam ei bod yn bwysig cydbwyso hunanofal â chymryd risgiau cadarnhaol er mwyn hyrwyddo bywyd mwy bodlon i'r person sy'n derbyn gofal. Ac mae Adran 5 yn edrych ar bwysigrwydd sicrhau bod gofalwyr yn gofalu am eu lles corfforol ac emosiynol eu hunain a ffyrdd o reoli straen. Daw'r cwrs yn fyw drwy lawer o bodlediadau a gweithgareddau rhyngweithiol y byddwch yn eu mwynhau gobeithio. Mae gweithgareddau wedi'u llywio hefyd a fydd yn eich helpu i ddysgu a myfyrio ar eich rôl ofalu eich hun.
Mae'r cwrs yn hyblyg, ac nid oes unrhyw gyfyngiadau amser er mwyn ei gwblhau. Gallwch ei gwblhau fesul tipyn, fesul adran efallai, o amgylch eich ymrwymiadau eraill. Gallwch astudio pob un o'r pum adran mewn unrhyw drefn. Ac os byddwch yn cwblhau eich cwisiau asesu byr ar ddiwedd pob adran, byddwch yn cael bathodyn digidol ar gyfer yr adran honno. Mae'r bathodynnau hyn yn ddull o gydnabod beth rydych wedi'i ddysgu. A gallwch eu harddangos ar eich proffiliau cyfryngau cymdeithasol, fel Facebook a LinkedIn.
Os byddwch yn cwblhau'r pum adran, gallwch hefyd lawrlwytho datganiad cyfranogi am ddim. Bydd eich datganiad cyfranogi yn cydnabod y deilliannau dysgu a gyflawnwyd gennych. Bydd hyn yn rhoi rhywbeth i'w ddangos i chi am eich dysgu, efallai i'ch cyflogwr, neu ddarpar gyflogwr.
Ar ddiwedd y cwrs, ceir gwybodaeth ar y camau nesaf i'w cymryd. Yma, rydym yn nodi nifer o ddolenni a chyfeiriadau at adnoddau a chyrsiau eraill a all fod o ddiddordeb i chi, os ydych wedi cael eich ysbrydoli i ddysgu ymhellach.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau Gofalu am oedolion a phob lwc i chi yn eich datblygiad fel gofalwr yn y dyfodol.
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]