Transcript
Pum cam at les meddwl
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
MERCH 1:
Mae pum cam y gall pob un ohonom eu cymryd er mwyn gwella ein lles meddwl: cysylltu, parhau i ddysgu, bod yn weithredol, rhoi i eraill a chymryd sylw. Yma, ceir rhai enghreifftiau o sut mae pobl yn ffitio'r camau hyn i mewn i'w bywydau bob dydd.
MERCH 1:
Cysylltu.
DYN 1:
Mae ymuno â'r tîm pêl-droed lleol wedi fy helpu i gwrdd â phobl ac mae hyn wedi gwneud i mi deimlo'n rhan o'm cymuned.
MERCH 1:
Dal ati i ddysgu.
MERCH 2:
Rwyf newydd ddechrau dysgu sut i chwarae offeryn cerdd ac, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn llawer o hwyl, mae'n werth chweil pan fyddwch yn llwyddo i gael darn newydd yn gywir.
MERCH 1:
Bod yn fywiog.
DYN 2:
Mae gen i ddwy droed chwith ond rwy'n dal i fwynhau dawnsio. Mae'n rhoi egni i mi ac mae'n fy rhoi mewn hwyliau da.
MERCH 1:
Rhoi i eraill.
DYN 3:
Os byddaf yn gwybod bod ffrind yn cael amser caled, byddaf yn gwneud ymdrech i gadw mewn cysylltiad rheolaidd ag ef er mwyn gweld sut mae.
MERCH 1:
Bod yn sylwgar.
MERCH 3:
Mae coginio yn fy helpu i ymlacio, gan fy mod yn canolbwyntio'n llwyr ar yr hyn rwy'n ei wneud. Rwy'n anghofio am straen y dydd ac mae'n fy ngalluogi i fynegi fy ochr greadigol.
MERCH 1:
Mae llawer o weithgareddau'n cyflawni mwy nag un o'r pum cam hyn. Gallwch gael syniadau ac ysbrydoliaeth ynghylch beth y gallwch ei wneud yn www.nhs.uk/fivesteps.