Transcript
Byw â nam ar y golwg: cymorth nyrs
JACKIE
Roedd angen i'r nyrsys fy nghysuro, sy'n swnio fel term rhyfedd i'w ddefnyddio. Roeddwn am gael cydymdeimlad, sydd eto yn derm na fyddech yn ei ddefnyddio'n aml gyda rhywun sydd â nam neu anabledd, ond gan fy mod mor sâl ar y pryd, roedd angen i mi gael rhywun i ofalu amdanaf. Roedd hefyd angen i'r nyrsys gredu ynof oherwydd nid yw'r math hwn o nam yn amlwg i'r person arall – gallaf ond disgrifio ac egluro beth rwyf yn ei weld neu'n ei deimlo neu'n ei glywed ac ati – a phan na fydd gennych ddiagnosis fel y cyfryw, gan nad oeddwn wedi cael un ar y pryd, nid oes gennych unrhyw beth i ddal gafael arno felly roedd angen i mi wybod bod y nyrsys yn credu yn yr hyn roeddwn yn ei ddweud a'm cysuro a'm llonyddu.
Mae annibyniaeth yn arbennig o bwysig i unrhyw un sydd ag unrhyw fath o nam, ond mae'r llwybr at annibyniaeth yn eithaf hir ac anodd. Ar y dechrau, rydych yn fwyaf dibynnol ar bobl ac mae angen i chi gael y cydymdeimlad, y cymorth a'r help hwnnw i oroesi symptomau cychwynnol yr hyn rydych yn ei brofi. Wrth i chi ddysgu sut i fyw gyda'r nam, yna mae angen i chi allu cymryd rheolaeth o'ch bywyd a dyma ble y gall nyrsys chwarae rôl fawr, drwy allu rhoi'r pŵer i'r person sydd â'r nam. Mae'n hawdd iawn bod am wneud pethau dros bobl ond nid yw hynny'n helpu neb yn yr hirdymor; mae angen i chi alluogi'r person hwnnw i wneud pethau drosto'i hun. Rydych yn siarad ag ef, rydych yn gofyn iddo beth y mae am ei wneud, rydych yn gofyn iddo beth y gall ei wneud drosto'i hun yn ei farn ef, ac rydych yn ei wthio ychydig ymhellach bob tro. Ond eto, mae angen i chi fod yn glyfar iawn yma ac mae angen i chi nodi pan fydd angen i'r person hwnnw stopio, pan fydd angen iddo ddal yn ôl rhywfaint a phan fydd angen rhywfaint o gymorth arno. Felly mae'n anodd iawn i nyrs yma gan nad ydych yn gwybod sut fydd person yn ymateb. Nid ydych yn gwybod yn union faint o ddibyniaeth neu annibyniaeth y gall fod ei angen arno ar unrhyw adeg benodol felly mae angen i chi asesu'r person hwnnw bob awr weithiau, yn hytrach na bob dydd, yn enwedig pan fydd pethau penodol yn digwydd, ond hyrwyddo annibyniaeth yw un o'r prif rolau y gall nyrs ei darparu ar gyfer rhywun sydd â nam.