Transcript
Pe byddai gweinyddion yn onest
GWEINYDD 1
Hei bois, fi fydd yn gweini arnoch – rwyf ond yn gwenu am fy mod am i chi roi cymaint o gildwrn â phosibl i mi!
GWEINYDD 1
O, beth ydw i'n ei argymell? Y bwyty drws nesaf – mae'n flasus iawn!
GWEINYDD 2
Helo, rwy'n dioddef ar ôl noson fawr neithiwr – alla i gael dŵr?
GWEINYDD 1
Ha ha, rwy'n chwerthin ar eich jôcs gwirion am fod yn rhaid i mi wneud hynny!
GWEINYDD 2
Ooo, rydych wedi dod â'ch babi i'r bwyty – mae hyn am wneud fy mywyd i'n hunllef!
GWEINYDD 3
Dyma eich bwyd. Gobeithio na fyddwch yn sylwi fy mod wedi dwyn ychydig o sglodion oddi ar eich plât.
GWEINYDD 4
Rwy'n dweud wrthych fy mod am ofyn i'r cogydd, ond rwy'n mynd i'r gegin go iawn, yn cyfrif i 10, yn dod yn ôl ac yn dweud na!
GWEINYDD 1
Helo bois, mae'r plât yn boeth; rwy'n ceisio gweld pa mor hir y gallaf ei ddal!
GWEINYDD 2
Ie, rwyf wedi sylwi eich bod yn syllu ar fy mronnau - na, dydyn nhw ddim ar y fwydlen!
GWEINYDD 2
Yn ogystal â newid papur pum punt, rwyf hefyd yn gallu gwneud iddi fwrw glaw!
GWEINYDD 3
Mae eich pryd cyntaf yn cymryd llawer o amser am fy mod wedi anghofio amdanoch yn llwyr!
GWEINYDD 4
Os byddwch yn gofyn am y bil, byddaf yn dod ag ef! Os byddwch yn gwneud yr ystum hwn yn yr awyr, byddaf yn cymryd fy amser!
GWEINYDD 1
Ydych chi wedi gorffen gyda hwnna, oherwydd byddwn wrth fy modd yn mynd â'r gweddill ohono i'r cefn a'i fwyta oddi ar eich plât!
GWEINYDD 3
Rwy'n dweud wrthych mai ar hyd at dri cherdyn credyd y gallwch rannu'r bil, ond mewn gwirionedd, rwy'n teimlo'n ddiog heddiw!
GWEINYDD 1
Byddwch yn ddymunol wrthyf a byddaf i'n ddymunol gyda'ch bwyd!
CERDDORIAETH: "After Midnight" gan Warner/Chappel Production Music