Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Gofalu am oedolion

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Mae gofalu am oedolion yn gwrs rhagarweiniol i unrhyw un sydd â rôl ofalgar, naill ai'n daladwy neu'n ddi-dāl. Mae'n adeiladu ar yr hyn yr ydych eisoes yn ei wybod i roi gwell dealltwriaeth i chi o'ch rôl fel gofalwr. Mae hefyd yn cefnogi'ch lles eich hun trwy roi syniadau a gwybodaeth i chi am ofalu amdanoch eich hun a delio â straen.

Gofalu am oedolion

Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • disgrifio rôl a chyfrifoldebau gofalwyr
  • nodi rhai o'r cysyniadau sylfaenol a fydd yn sicrhau dull o ofalu sy'n canolbwyntio ar y person
  • nodi gwahanol anghenion person sy'n derbyn gofal, yn ystod camau gwahanol o'i ofal
  • deall yr effaith y gall gofalu ei chael ar ofalwyr, a sut y gellir rheoli hyn
  • esbonio rhai o'r cyfrifoldebau cyfreithiol sy'n rhan o'r rôl ofalu.

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/09/2019

Wedi'i ddiweddaru: 25/06/2020

Hepgor Graddau y Cwrs