Transcript

Cefais fy ngeni yn Stoke-on-Trent, Lloegr. Roedd Mam a Dad yn dod o Gymru ac yn siarad Cymraeg, ond roedd Dad yn gweithio yno, digwydd bod. Dychwelais i Gymru pan oeddwn oddeutu 3 mlwydd oed. Rwyf wedi byw yng ngogledd Cymru ers hynny. Gweithiais yn Llundain am gyfnod byr. Roeddwn yn gweithio gyda'r heddlu yno am oddeutu dwy flynedd. Rwyf wedi cael cryn dipyn o swyddi gwahanol. Gweithiais i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yng ngogledd Cymru am oddeutu pum mlynedd.

Ar ôl i mi gael plant, astudiais mewn coleg yng ngogledd Cymru er mwyn hyfforddi i ddod yn athro. Rwyf wedi bod yn wael ers dros ugain mlynedd bellach. Ond ar ôl dioddef methiant yr arennau, dechreuodd pethau newid. Gweithiais yn rhan-amser am gyfnod. Aeth pethau'n fwy anodd i mi yn yr ysgol. Roedd rhaid i mi leihau fy oriau, ac yn y pen draw, rhoi'r gorau i weithio.

Mae popeth yn newid pan rydych ar ddialysis, gan eich bod wedi eich clymu i'r ysbyty ar ddydd Llun, Mercher a Gwener. Mae'n dipyn o straen a bod yn onest. Mae mynd o fywyd prysur i fywyd sy'n fwy distaw wedi bod yn newid enfawr i mi. Mae'n cymryd amser i ymdopi â'r ffaith eich bod yn rhy wael i weithio. Gwaith oedd popeth. Roedd fy ffrindiau yno, dyna oedd fy ngyrfa.

Fel athro, rydych yn ysu i weld y gwyliau'n cyrraedd. Ond roedd gennyf gymaint o amser a dim syniad beth i'w wneud ag ef. Roeddwn yn ffodus iawn gan fod yr ysbyty wedi fy helpu o'r cychwyn cyntaf. Roedd gennyf beiriant dialysis gartref ar y cychwyn, felly roedd yna lawer o gyswllt. Mae tîm o nyrsys arennol yn gofalu amdanoch chi. Maen nhw'n dod i'r cartref ac yn eich helpu i osod popeth. Ond dim ond am oddeutu pum mlynedd gallais wneud hynny. Yn ystod y cyfnod hwnnw cefais fy ngweithiwr cymdeithasol cyntaf. Roedd hi'n wych gyda'r plant, â'r teulu hefyd. Roedden nhw yn eu harddegau ar y pryd, ac mae ymdopi â phlant yn eu harddegau yn heriol ar y gorau. Roeddwn yn wael, ac roedd yn anodd tu hwnt iddyn nhw. Roeddent yn gallu siarad â hi am fy salwch, nid dim ond fi. Roedd hi'n gefn i ni fel teulu.

Mae siarad â nyrs neu feddyg yn anodd. Mae ganddynt agwedd gwbl wahanol. Roeddwn yn gallu rhannu'r hyn oedd yn fy mhoeni'n arw pan fyddai'n dod i fy ngweld. Roedd hi'n help mawr i mi. Er fy mod wedi dioddef sawl salwch gwahanol, nid oeddwn yn gallu cael bathodyn glas. Nid oeddwn yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl nac unrhyw beth o'r fath. Byddwn wedi bod yn gymwys i'w hawlio tra'r oeddwn yn gweithio'n rhan-amser, ond nid oeddwn yn ymwybodol o hynny. Roeddwn yn rhy wael i feddwl am bethau felly. Yn ariannol, roedd yn straen enfawr. Bu i fy ngweithiwr cymdeithasol weithio ar y pethau hynny i mi, ar fy rhan pan nad oeddwn yn gallu llenwi'r ffurflenni trybeilig fy hun. Roedd yn llawer haws pan fyddai hi'n gweithio arnynt gyda mi.

Rwyf wedi bod yn ffodus o gael gweithiwr cymdeithasol sy'n siaradwr Cymraeg rhugl. Cefais hefyd weithiwr cymdeithasol nad oedd yn gallu siarad Cymraeg, ond yn barod i ddweud "Bore da". Mae'n syml, ond yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran ethos. Mae'n gwneud i chi deimlo'n gyfforddus iawn. Mae rhai o'r staff yn gwisgo bathodynnau sy'n dangos eu bod nhw'n siarad Cymraeg. Mae hynny'n hyfryd gan eich bod yn gallu siarad Cymraeg â nhw'n rhwydd ar ôl gweld y bathodyn. Credaf fod y gwasanaeth iaith Gymraeg yn hanfodol gan ei bod hi'n bwysig defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae'n golygu llawer i mi. Rwy'n siarad Cymraeg gyda fy nheulu a gyda phlant bach. Mae'n naturiol i mi wneud hynny. Os ydych yn cychwyn siarad Saesneg â rhywun, byddwch yn siarad Saesneg â nhw bob amser. Mae'n rhyfedd. Nid oes rheswm pam na all bob un ohonom siarad ychydig o Gymraeg. Wedi'r cyfan, onid ydym yn Gymraeg?