Transcript
Roeddwn i'n arfer gweithio fel ysgrifennydd sgriptiau ar gyfer y teledu. Fel rhan o'm gwaith, ymchwiliais i rôl gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda phlant. Siaradais â gweithwyr cymdeithasol i weld sut roedd plant sy'n cael eu cam-drin yn ymddwyn a pha arwyddion i gadw golwg amdanynt. Roedd yn ddiddorol iawn.
Roedd y swydd ei hun yn swnio'n well nac ysgrifennu amdani. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod gen i gefndir yn y maes. Roedd fy nhad yn anabl, ac roedd fy mrawd yn dioddef o Syndrom Down's. Roeddwn i'n gyfarwydd â gweld gweithwyr cymdeithasol yn y tŷ. Mae goruchwyliaeth yn bwysig i weithwyr cymdeithasol, yn enwedig i weithwyr cymdeithasol newydd, er mwyn gwybod eu bod yn cael eu cefnogi a bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi.
Yn aml mae pobl yn gweithio oriau hir. Maent yn arwyr di-glod yn gweithio allan yn y gymuned. Mae'n bwysig eu bod yn gallu dweud - "Rydw i wedi gwneud hyn a hyn!" a bod rhywun yn cydnabod eu gwaith da. Mae hefyd yn gyfle iddynt siarad am unrhyw beth a all fod wedi codi - pethau sydd wedi peri pryder iddynt, neu efallai hyd yn oed wedi eu gofidio.
Mae'r gwaith rydym yn delio ag ef yn gallu bod yn drist iawn. Mae'n gallu bod yn drasig. Mae'n bwysig eu bod yn trafod eu teimladau fel nad ydynt yn mynd â nhw adref gyda nhw. Mae'r egwyddorion yng nghod ymarfer Cyngor Gofal Cymru yn bwysig. Mae egwyddorion personol hefyd - pa fath o berson rydych. Mae'n rhaid i chi barchu unigolion sydd â phroblemau neu anableddau. Mae'n rhaid i chi barchu'r ffaith bod pobl yn wahanol a pheidio â bod yn rhagfarnllyd. Doeddwn i byth yn meddwl fy mod i'n berson rhagfarnllyd. Ond pan oeddwn yn hyfforddi, gofynnodd y tiwtor, "Pa ragfarnau sydd gennych?" Rwy'n cofio meddwl "Does gen i ddim." Ond mae gan bob un ohonom ein rhagfarnau ein hunain ac mae'n bwysig ein bod yn eu hanwybyddu. Efallai y gallwch siarad amdanynt yn y broses oruchwylio. Dylech gyfaddef eu bod yn bodoli a'u bod yn eich pryderu. Mae'n hollbwysig eich bod yn berson gonest a diffuant a'ch bod yn ceisio gwneud eich gorau dros y person. Does dim ots beth rydych chi ei eisiau. Y person sy'n bwysig.
Er mwyn bod yn weithiwr cymdeithasol da, beth rwy'n chwilio amdano. Roeddwn yn rhan o banel cyfweld unwaith. Gallwch weld personoliaeth person cyn iddo ddechrau ateb y cwestiynau. Rydym yn chwilio am bobl sy'n onest, yn naturiol ac yn gyfforddus gyda phobl; pobl sydd â diddordeb mewn pobl ac sydd am wrando ar eu stori. Mae sgiliau gwrando yn bwysig iawn. Rwyf hefyd yn chwilio am rywun sy'n broffesiynol; rhywun sy'n gyfarwydd â'r gyfraith a pholisïau ac sy'n deall strwythur y cyngor. Pan fyddwn yn gwneud ein gwaith, mae gennym rôl bwysig i'w chwarae o fewn y gyfraith. Rhaid i'r person gymryd cyfrifoldeb am ansawdd ei waith - cymryd cofnodion, sgiliau asesu, asesu risg. Rhaid iddo ddeall ei rôl yn llwyr. Daw proffesiynoldeb pan fydd rhywun yn deall ei rôl.
Mae gweithio yng Nghymru yn wahanol am ei bod yn wlad ddatganoledig. Mae strwythur y ddeddfwriaeth yn wahanol iawn i Loegr a'r Alban. Rydw i'n weithiwr cymdeithasol iechyd meddwl. Mae ein cod ymarfer ar gyfer iechyd meddwl yn wahanol i'r un yn Lloegr. Er mai gwahaniaethau bach ydynt, maent yn bwysig, ac mae'n rhaid i chi fod yn gyfarwydd â nhw. Mae'r ffordd rydych yn cymhwyso'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn wahanol yn Lloegr. Mae'n bwysig cydnabod bod gwahaniaethau. Dydyn ni ddim yr un fath â Lloegr a'r Alban. Mae ganddynt wahaniaethau bach yn eu deddfwriaeth. Hefyd, mae'r traddodiadau sydd gennym yng Nghymru, yr iaith a'r math o wlad sydd gennym, yn effeithio ar y ffordd rydym yn gweithio. Mae gennym ardaloedd sy'n ddinesig a rhai sy'n wledig tu hwnt.
Mae'n bwysig bod defnyddwyr gwasanaethau yn gallu dewis eu hiaith. Mae ganddynt yr hawl i wneud hynny fel unigolion sy'n byw yng Nghymru. Mae'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw yn profi argyfwng personol. Rydych yn teimlo'n agos atynt yn syth. Maent yn ymddiried ynoch yn syth. Mae'n digwydd, mae pobl yn ymlacio'n syth pan fyddant yn sylweddoli eich bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae pobl yn gallu dweud beth sy'n eu poeni. Maent yn gallu mynegi eu hunain yn well yn eu hiaith eu hunain. Os gallant ddweud wrthych beth sydd o'i le, a dweud wrthych beth sydd ei angen arnynt, gallwch gynnal eich asesiad yn well. Rydych yn cael y gwir yn hytrach na thrafferth ymdopi ag iaith nad ydynt yn gyfarwydd â hi.