<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<?sc-transform-do-oumusic-to-unicode?>
<?sc-transform-do-oxy-pi?>
<Item xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" Autonumber="false" id="XISUW1" TextType="CompleteItem" SchemaVersion="2.0" PageStartNumber="0" Template="Generic_A4_Unnumbered" Module="default" DiscussionAlias="Discussion" ExportedEquationLocation="" SessionAlias="" SecondColour="None" ThirdColour="None" FourthColour="None" Logo="colour" ReferenceStyle="OU Harvard" Rendering="OpenLearn" xsi:noNamespaceSchemaLocation="http://www.open.edu/openlearn/ocw/mod/oucontent/schemas/v2_0/OUIntermediateSchema.xsd" xml:lang="cy" x_oucontentversion="2019111900"><meta name="vle:osep" content="false"/><meta name="equations" content="mathjax"/><meta name="aaaf:olink_server" content="http://www.open.edu/openlearn/ocw"/><meta name="dc:source" content="http://www.open.edu/openlearncreate/course/view.php?id=3077 "/><CourseCode>CYM-HSCRes_1</CourseCode><CourseTitle>Storïau unigol: safbwyntiau ar waith cymdeithasol</CourseTitle><ItemID><!--leave blank--></ItemID><ItemTitle>Storïau unigol: safbwyntiau ar waith cymdeithasol</ItemTitle><FrontMatter><Imprint><Standard><GeneralInfo><Paragraph>This content is taken from <AuthorComment>[an Open University module]</AuthorComment>, which
            was originally published as an open educational resource on the OpenLearn website [<a href="http://www.open.edu/openlearn">http://www.open.edu/openlearn/</a>]. This content may include video, images and interactive
            content that may not be optimised for your device. To view the original version of this
            content please go to OpenLearn – [<a href="http://www.open.edu/openlearn">http://www.open.edu/openlearn/</a>].</Paragraph><Paragraph>If reading this text has inspired you to learn more, you may
            be interested in joining the millions of people who discover our free learning
            resources and qualifications by visiting The Open University [<a href="http://www.open.ac.uk/choose/ou/open-content">http://www.open.ac.uk/choose/ou/open-content</a>].</Paragraph></GeneralInfo><Address><AddressLine/><AddressLine/></Address><FirstPublished><Paragraph/></FirstPublished><Copyright><Paragraph>Copyright © 2014 The Open University</Paragraph></Copyright><Rights><Paragraph>Except for third party materials and/or otherwise stated (see terms and conditions [<a href="http://www.open.ac.uk/conditions">http://www.open.ac.uk/conditions</a>]) the content in OpenLearn and OpenLearn Works is released for use under the terms of the Creative Commons Attribution-NonCommercial-Sharealike 2.0 licence [<a href="http://creativecommons.org/licenses/by-nc-sa/2.0/uk/">http://creativecommons.org/licenses/by-nc-sa/2.0/uk/</a>].</Paragraph><Paragraph>In short this allows you to use the content throughout the world without payment
            for non-commercial purposes in accordance with the Creative Commons non commercial
            sharealike licence.  Please read this licence in full along with OpenLearn terms
            and conditions before making use of the content.</Paragraph><Paragraph>When using the content you must attribute us (The Open University) (the OU)
            and any identified author in accordance with the terms of the Creative Commons Licence.</Paragraph><Paragraph>The Acknowledgements section is used to list, amongst other things, third party
            (Proprietary), licensed content which is not subject to Creative Commons licensing.  Proprietary
            content must be used (retained) intact and in context to the content at all times.  The
            Acknowledgements section is also used to bring to your attention any other Special Restrictions
            which may apply to the content.  For example there may be times when the Creative Commons
            Non-Commercial Sharealike licence does not apply to any of the content even if owned by us (the
            OU).  In these stances, unless stated otherwise, the content may be used for personal and non-commercial
            use.  We have also identified as Proprietary other material included in the content which is not subject
            to Creative Commons Licence.  These are: OU logos, trading names and may extend to certain photographic and
            video images and sound recordings and any other material as may be brought to your attention.</Paragraph><Paragraph>Unauthorised use of any of the content may constitute a breach of the terms and conditions
            and/or intellectual property laws.</Paragraph><Paragraph>We reserve the right to alter, amend or bring to an end any terms and conditions provided
            here without notice.</Paragraph><Paragraph>All rights falling outside the terms of the Creative Commons licence are retained or controlled
            by The Open University.</Paragraph><Paragraph>Head of Intellectual Property, The Open University</Paragraph></Rights><Edited><Paragraph/></Edited><Printed><Paragraph/></Printed><ISBN>
          <!--INSERT ISBNS WHEN AVAILABLE-->
        </ISBN><Edition/></Standard></Imprint><!-- e.g. <Covers>
    <Cover template="false"
    src="\\DCTM_FSS\content\Teaching and curriculum\Modules\Shared Resources\OpenLearn\UNIT_1\eBook Cover\_Assets\UNIT_1_cover.jpg"
    type="ebook">
    <Copyright>
    <Paragraph>The Open Univesity</Paragraph>
    </Copyright>
    </Cover>
    </Covers>--></FrontMatter><Unit><UnitID/><UnitTitle>Storïau unigol: safbwyntiau ar waith cymdeithasol</UnitTitle><ByLine/><Session><Title>Cyflwyniad</Title><Paragraph>Yn y gyfres hon o bedwar cyfweliad, byddwch yn gwylio defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr, gweithiwr cymdeithasol a rheolwr gwaith cymdeithasol yn siarad am eu profiadau gwahanol. Bydd y cyfweliadau'n dangos pwysigrwydd gwrando ar storïau pobl, pwysigrwydd cydberthnasau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol a phwysigrwydd cyd-destun yr ymarfer gwaith cymdeithasol. Byddwch yn ystyried cwestiynau am y cyfweliadau ac yn myfyrio ar oblygiadau'r hyn sydd gan yr unigolion i'w ddweud ar gyfer ymarfer.</Paragraph><Paragraph>Er y gallwch ddefnyddio'r cyfweliadau fideo hyn fel adnoddau annibynnol, maent hefyd yn ategu'r cyrsiau ar-lein am ddim <a href="https://www.open.edu/openlearn/health-sports-psychology/social-care-social-work/cyflwyniad-i-waith-cymdeithasol/content-section-0?active-tab=description-tab"><i>Cyflwyniad i waith cymdeithasol</i></a>, lle gallwch ddarllen mwy am weithio gydag unigolion a phwysigrwydd bywgraffiadau, a <a href="https://www.open.edu/openlearn/health-sports-psychology/social-care-social-work/cyflwyniad-i-waith-cymdeithasol-yng-nghymru/content-section-0?active-tab=description-tab"><i>Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru</i></a>, lle byddwch yn dysgu am bwysigrwydd y cyd-destun Cymreig a'i effaith ar waith cymdeithasol yng Nghymru.</Paragraph><Paragraph>Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.</Paragraph></Session><Session><Title>Deilliannau dysgu</Title><Paragraph>Ar ôl astudio'r uned hon, dylech allu gwneud y canlynol:</Paragraph><BulletedList><ListItem><language xml:lang="cy">meddwl am effaith bywgraffiadau ar fywydau personol</language></ListItem><ListItem><language xml:lang="cy">ystyried rôl cydberthnasau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol </language></ListItem><ListItem><language xml:lang="cy">ystyried pwysigrwydd y cyd-destun mewn ymarfer gwaith cymdeithasol.</language></ListItem></BulletedList></Session><Session><Title>Cyfweliadau fideo</Title><Paragraph>Dylech dreulio tua 45 munud ar y dasg honWrth ichi wylio'r fideos, nodwch brofiadau bywyd gwahanol y siaradwyr. Ar ôl gwylio'r fideos, atebwch y cwestiynau [isod]*.</Paragraph><Paragraph><language xml:lang="en">Siân Parry - Defnyddiwr gwasanaeth</language></Paragraph><MediaContent src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1603797/mod_oucontent/oucontent/91241/sian_parry.mp4" type="video" x_manifest="sian_parry_1_server_manifest.xml" x_filefolderhash="49e79459" x_folderhash="49e79459" x_contenthash="6b3f62cd"><Transcript><Paragraph><language xml:lang="cy">Cefais fy ngeni yn Stoke-on-Trent, Lloegr. Roedd Mam a Dad yn dod o Gymru ac yn siarad Cymraeg, ond roedd Dad yn gweithio yno, digwydd bod. Dychwelais i Gymru pan oeddwn oddeutu 3 mlwydd oed. Rwyf wedi byw yng ngogledd Cymru ers hynny. Gweithiais yn Llundain am gyfnod byr. Roeddwn yn gweithio gyda'r heddlu yno am oddeutu dwy flynedd. Rwyf wedi cael cryn dipyn o swyddi gwahanol. Gweithiais i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yng ngogledd Cymru am oddeutu pum mlynedd. </language></Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">Ar ôl i mi gael plant, astudiais mewn coleg yng ngogledd Cymru er mwyn hyfforddi i ddod yn athro. Rwyf wedi bod yn wael ers dros ugain mlynedd bellach. Ond ar ôl dioddef methiant yr arennau, dechreuodd pethau newid. Gweithiais yn rhan-amser am gyfnod. Aeth pethau'n fwy anodd i mi yn yr ysgol. Roedd rhaid i mi leihau fy oriau, ac yn y pen draw, rhoi'r gorau i weithio.</language></Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">Mae popeth yn newid pan rydych ar ddialysis, gan eich bod wedi eich clymu i'r ysbyty ar ddydd Llun, Mercher a Gwener. Mae'n dipyn o straen a bod yn onest. Mae mynd o fywyd prysur i fywyd sy'n fwy distaw wedi bod yn newid enfawr i mi. Mae'n cymryd amser i ymdopi â'r ffaith eich bod yn rhy wael i weithio. Gwaith oedd popeth. Roedd fy ffrindiau yno, dyna oedd fy ngyrfa.</language></Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">Fel athro, rydych yn ysu i weld y gwyliau'n cyrraedd. Ond roedd gennyf gymaint o amser a dim syniad beth i'w wneud ag ef. Roeddwn yn ffodus iawn gan fod yr ysbyty wedi fy helpu o'r cychwyn cyntaf. Roedd gennyf beiriant dialysis gartref ar y cychwyn, felly roedd yna lawer o gyswllt. Mae tîm o nyrsys arennol yn gofalu amdanoch chi. Maen nhw'n dod i'r cartref ac yn eich helpu i osod popeth. Ond dim ond am oddeutu pum mlynedd gallais wneud hynny. Yn ystod y cyfnod hwnnw cefais fy ngweithiwr cymdeithasol cyntaf. Roedd hi'n wych gyda'r plant, â'r teulu hefyd. Roedden nhw yn eu harddegau ar y pryd, ac mae ymdopi â phlant yn eu harddegau yn heriol ar y gorau. Roeddwn yn wael, ac roedd yn anodd tu hwnt iddyn nhw. Roeddent yn gallu siarad â hi am fy salwch, nid dim ond fi. Roedd hi'n gefn i ni fel teulu. </language></Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">Mae siarad â nyrs neu feddyg yn anodd. Mae ganddynt agwedd gwbl wahanol. Roeddwn yn gallu rhannu'r hyn oedd yn fy mhoeni'n arw pan fyddai'n dod i fy ngweld. Roedd hi'n help mawr i mi. Er fy mod wedi dioddef sawl salwch gwahanol, nid oeddwn yn gallu cael bathodyn glas. Nid oeddwn yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl nac unrhyw beth o'r fath. Byddwn wedi bod yn gymwys i'w hawlio tra'r oeddwn yn gweithio'n rhan-amser, ond nid oeddwn yn ymwybodol o hynny. Roeddwn yn rhy wael i feddwl am bethau felly. Yn ariannol, roedd yn straen enfawr. Bu i fy ngweithiwr cymdeithasol weithio ar y pethau hynny i mi, ar fy rhan pan nad oeddwn yn gallu llenwi'r ffurflenni trybeilig fy hun. Roedd yn llawer haws pan fyddai hi'n gweithio arnynt gyda mi. </language></Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">Rwyf wedi bod yn ffodus o gael gweithiwr cymdeithasol sy'n siaradwr Cymraeg rhugl. Cefais hefyd weithiwr cymdeithasol nad oedd yn gallu siarad Cymraeg, ond yn barod i ddweud "Bore da". Mae'n syml, ond yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran ethos. Mae'n gwneud i chi deimlo'n gyfforddus iawn. Mae rhai o'r staff yn gwisgo bathodynnau sy'n dangos eu bod nhw'n siarad Cymraeg. Mae hynny'n hyfryd gan eich bod yn gallu siarad Cymraeg â nhw'n rhwydd ar ôl gweld y bathodyn. Credaf fod y gwasanaeth iaith Gymraeg yn hanfodol gan ei bod hi'n bwysig defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae'n golygu llawer i mi. Rwy'n siarad Cymraeg gyda fy nheulu a gyda phlant bach. Mae'n naturiol i mi wneud hynny. Os ydych yn cychwyn siarad Saesneg â rhywun, byddwch yn siarad Saesneg â nhw bob amser. Mae'n rhyfedd. Nid oes rheswm pam na all bob un ohonom siarad ychydig o Gymraeg. Wedi'r cyfan, onid ydym yn Gymraeg?</language></Paragraph></Transcript></MediaContent><Paragraph><language xml:lang="en">Mr Howell Mudd - Gofalwr</language></Paragraph><MediaContent type="video" src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1603797/mod_oucontent/oucontent/91241/hscres_1_mrmudd.mp4" target="" x_manifest="hscres_1_mrmudd_1_server_manifest.xml" x_filefolderhash="49e79459" x_folderhash="49e79459" x_contenthash="04dba439"><Transcript><Paragraph>Mae fy mywyd wedi bod yn ddiddorol iawn. Cefais fy ngeni yn Neuaddlwyd, ger Aberaeron. Symudais i Fanc y Ffordd, a dyna lle y cefais fy magu. Mis es i Ysgol Cynwyl Elfed ac yna i Ysgol y Grange, Caerfyrddin. Ysgol uwchradd.  Ar ôl gadael yr ysgol, treuliais beth amser yn Torquay, Dyfnaint. Symudais wedyn i fyw ger Llundain. Ar ôl hynny, cefais swydd gyda chwmni yn Birmingham. Roeddwn yno am dipyn. Roedd llawer o streiciau ar y pryd yn y diwydiant ceir am eu bod yn adeiladu rhannau ceir gan ddefnyddio peiriannau. </Paragraph><Paragraph>Mi es i weithio yn Sain Ffagan, ger Caerdydd, yn yr amgueddfa. Yna mi es i'r gwasanaeth gweinidogaethol. Cefais fy ordeinio yng Nghilcennin, ger Aberaeron. [INAUDIBLE] Symudais i Wynfryd yn Rhydaman ac yna i eglwys yng ngogledd Sir Benfro. Ymddeolais yn ôl yma nes i'm gwraig golli ei hiechyd. Aeth Mary i mewn ar 14eg Ebrill. Mae'n hapus iawn yno. Dydy hi ddim efallai'n deall ble y mae. Weithiau, dydy hi ddim yn fy adnabod i. Gwnaethant benderfynu mai'r opsiwn gorau iddi fyddai mynd i mewn i ofal parhaus. Mae'n hapus iawn yno. Y rheswm pam ei bod yn hapus yw am fod canolfan ddydd yn Rhydaman. </Paragraph><Paragraph>Bob dydd, ar ôl i'r gofalwyr fod yn gofalu amdani, mae'n mynd i lawr i'r ganolfan ddydd. Mae wedi dod i adnabod y staff a'r bobl eraill sy'n mynd yno. Yr unig wahaniaeth yw nad yw hi'n cysgu gartref. Mae'n mynd i'r ganolfan ddydd bob dydd o'r cartref gofal. Oherwydd hynny, mae'n hapus yn cymdeithasu â phobl eraill. Mae pethau'n hawdd, ond mae rhai pethau wedi newid hefyd. Mae'n haws oherwydd rwy'n gallu cysgu'r nos, a doeddwn i ddim yn gallu gwneud hynny o'r blaen. Oherwydd ei chyflwr, byddai'n deffro ac yn cerdded o gwmpas. </Paragraph><Paragraph>I ryw raddau mae'n haws, ond maen anodd iawn hefyd oherwydd rwyf ar ben fy hun nawr. Rwy'n eistedd yma weithiau ac yn meddwl ei bod hi yma, ond dydy hi ddim. Rwy'n credu fy mod i'n gallu ei chlywed yn siarad fel yr oedd hi'n arfer ei wneud. Weithiau byddai'n siarad drwy'r nos. Weithiau, alla i ddim cysgu oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n dal yma. Mae'n brofiad rhyfedd. A dweud y gwir, rwy'n ei chael hi'n anodd oherwydd roeddem yn hapus gyda'n gilydd. Fydden ni byth yn mynd allan heb ein gilydd oherwydd dyna natur y weinidogaeth. Roedd yn athrawes ysgol Sul. Roedd hi'n anodd gwneud y penderfyniad, ond cynghorodd y nyrs seiciatrig gymunedol a'r gweithiwr cymdeithasol mai dyna'r opsiwn gorau iddi hi. Dydyn ni ddim yn delio â gweithwyr cymdeithasol yn y weinidogaeth. Rwy'n sylweddoli mai eu diben yw helpu pobl. Maent yn mynd i gartrefi preswyl. Rwy'n meddwl weithiau fod ganddynt ormod o gymwysterau heb ddigon o brofiad ymarferol. </Paragraph><Paragraph>Byddwn yn meddwl y byddai angen cydymdeimlad a doethineb i ddelio â'r henoed. Mae hynny'n bwysicach na darn o bapur sy'n dangos eich bod wedi sefyll yr arholiadau cywir. Oherwydd eu cyflwr, mae'r cleifion eu hunain yn meddwl bod angen cydymdeimlad a doethineb arnoch i allu delio â nhw. Rydw i wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd bellach, ac mae'n gallu bod yn anodd. Gallwch fod yn ddiamynedd weithiau. Ond mae angen i chi fod yn amyneddgar a deall y claf ei hun. Mae angen i chi gael gwasanaethau Cymraeg i'r henoed. Honno yw eu hiaith. Pan oedden nhw'n cael eu magu, doedd dim llawer o Saesneg. Mae gweithwyr cymdeithasol sy'n siarad Cymraeg yn hanfodol. Dydw i ddim wedi cael unrhyw rai fy hun. Pe bawn i wedi aros gartref, efallai y byddwn wedi cael problemau deall Saesneg. Ond gan fy mod wedi bod i ffwrdd, gallwn eu deall yn iawn. Doedd dim byd o'i le ar yr ychydig iawn o wasanaeth Cymraeg a gefais, ond aeth rhywbeth ar goll rhwng meddwl yn Gymraeg a siarad yn Saesneg. </Paragraph></Transcript></MediaContent><Paragraph><language xml:lang="en">Mags Thomas - Gweithiwr cymdeithasol</language></Paragraph><MediaContent src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1603797/mod_oucontent/oucontent/91241/hscres_1_mags.mp4" type="video" x_manifest="hscres_1_mags_1_server_manifest.xml" x_filefolderhash="49e79459" x_folderhash="49e79459" x_contenthash="1ace56a7"><Transcript><Paragraph>Ceisiais ddod o hyd i swydd, ond, wrth gwrs, doedd gen i ddim unrhyw brofiad. Felly, penderfynais wneud rhywfaint o waith gwirfoddol gyda'r Samariaid. Menter Ieuenctid oedd enw'r prosiect, rwy'n credu. Roeddwn yn gweithio gyda'r henoed. Roeddent yn paru pobl hŷn â phobl iau. Mae'r syniad yn bodoli ym maes gwaith cymdeithasol bod gennych rywun arall y tu allan i'r gwaith, ond nonsens yw hynny. </Paragraph><Paragraph>Llwyddais i gael swydd fel cynorthwy-ydd lles yng Ngorllewin Morgannwg. Yn Nhreforys, ger Abertawe. Mi es i ymlaen wedi hynny i fod yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig, ac yna i Rydychen i ennill fy CQSW. Mi ddes i yn ôl i Gaerfyrddin yn 1984. Fel gweithiwr cymdeithasol, gallwch helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau. A bod yn gefn i bobl sy'n pryderu. </Paragraph><Paragraph>Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweithio gyda phobl ag anawsterau dysgu, pobl â phroblemau, pobl sy'n pryderu. Mae'n fraint bod yn gefn i bobl sy'n pryderu a gwneud gwahaniaeth. Mae'n rhaid i chi neilltuo amser i siarad am eich teimladau. Gall y gwaith hwn eich rhoi o dan bwysau, ac rydych yn aml yn mynd ag ef adref gyda chi. Rydych yn pryderu ac yn cael trafferth cysgu. Mae'n bwysig ymdrin â theimladau'r gweithiwr fel rhan o'r broses oruchwylio. </Paragraph><Paragraph>Mae angen amser arnoch i deimlo eich bod yn bwysig a bod eich gwaith yn bwysig. Ni ddylech fyth teimlo cywilydd cyfaddef eich bod yn cael trafferth ymdopi. Pan fydd lefelau straen yn uchel, mae'r llwyth achosion yn ormod. Does dim arian neu mae rhywun wedi bod yn galw arnaf am rywbeth. Mae'n bwysig bod y drws bob amser ar agor. Mae'n rhaid i chi fod yn agored ac mae'n rhaid i chi barchu pobl. Efallai bod dewisiadau ffordd o fyw rhai pobl yn wahanol i'ch rhai chi. Mae'n bwysig derbyn pobl fel y maent a'u parchu heb feddwl am eu lliw, eu credoau na'u tueddiadau rhywiol. Mae'n rhaid i chi fod yn anfeirniadol ac mae angen synnwyr digrifwch arnoch hefyd. Mae'n rhaid i chi allu eich rhoi eich hun yn sefyllfa rhywun arall hyd yn oed os nad ydych erioed wedi cael y profiad hwnnw, er enghraifft petai rhywun yn pryderu y gall ei blant gael eu cymryd i mewn i ofal. Dydw i ddim wedi cael profiad o hynny, ond rwy'n gwybod sut deimlad yw bod yn bryderus. </Paragraph><Paragraph>Rwy'n gwybod sut deimlad yw colli rheolaeth dros amgylchiadau eraill yn fy mywyd. Mae'n rhaid i chi wneud eich gorau i roi eich hun yn eu hesgidiau nhw. Mae'n bwysig defnyddio eich personoliaeth. Cefais brofiad sawl blwyddyn yn ôl, cyn i mi ddechrau gweithio mewn timau. Byddech yn mynd i weld pobl am awr gyda'ch dyddiadur yn eich llaw. Roeddwn yn gweithio yn Llundain, mewn uned llety hanner ffordd. Byddai pobl yn mynd yno ar ôl dod allan o ysbyty seiciatrig cyn mynd allan i'r gymuned. Roedd hwnnw'n brofiad gwahanol iawn, ond yn brofiad da. Cymerodd dipyn o amser i mi sylweddoli bod yn rhaid i chi ddefnyddio eich personoliaeth, am 3 o'r gloch y bore, os ydynt yn cael hunllef, neu 2 o'r gloch y pnawn, pan rydych yn chwarae snwcer. </Paragraph><Paragraph>Roeddwn yn cwnsela ac yn gwneud llawer o waith grŵp. Ond roedd yn bwysig bod yn anffurfiol weithiau a defnyddio eich personoliaeth. Rwy'n credu bod Sir Gaerfyrddin yn un o'r mannau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad fwyaf. Mae'n bwysig i mi fy mod yn gallu defnyddio fy iaith gyntaf. Wnes i ddim dysgu Cymraeg yn yr ysgol, hon yw fy iaith gyntaf. Mae'n bwysig cael y cyfle hwnnw a bod pobl yn gallu dewis. </Paragraph><Paragraph>Rwy'n credu ei bod yn bwysig rhoi dewis i bobl. Does gan lawer o'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw ddim llawer o reolaeth dros eu bywydau eu hunain. Mae hyn yn rhoi opsiwn iddynt. Rwy'n dwli arni beth bynnag, rwy'n teimlo ei bod yn dileu rhwystrau. Cyn gynted ag y byddwch yn cnocio ar ddrws rhywun gallwch ddweud oddi wrth ei acen a yw'n siarad Cymraeg ai peidio. Yn y sir hon, ac yn y gwaith, mae gennym lond llaw o bobl sydd ond yn siarad Cymraeg. Mae hynny'n hyfryd hefyd. Rwy'n credu bod y Gymraeg yn dechrau dod yn fwy poblogaidd ymhlith pobl ifanc a phlant. Mae'n hollbwysig bod gweithwyr cymdeithasol ar gael sy'n siarad Cymraeg, yn enwedig yng Nghymru. </Paragraph></Transcript></MediaContent><Paragraph><language xml:lang="en">Linda Jones - Rheolwr gwaith cymdeithasol</language></Paragraph><MediaContent src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1603797/mod_oucontent/oucontent/91241/hscres_1_linda.mp4" type="video" x_manifest="hscres_1_linda_1_server_manifest.xml" x_filefolderhash="49e79459" x_folderhash="49e79459" x_contenthash="af693cd1"><Transcript><Paragraph>Roeddwn i'n arfer gweithio fel ysgrifennydd sgriptiau ar gyfer y teledu. Fel rhan o'm gwaith, ymchwiliais i rôl gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda phlant. Siaradais â gweithwyr cymdeithasol i weld sut roedd plant sy'n cael eu cam-drin yn ymddwyn a pha arwyddion i gadw golwg amdanynt. Roedd yn ddiddorol iawn. </Paragraph><Paragraph>Roedd y swydd ei hun yn swnio'n well nac ysgrifennu amdani. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod gen i gefndir yn y maes. Roedd fy nhad yn anabl, ac roedd fy mrawd yn dioddef o Syndrom Down's. Roeddwn i'n gyfarwydd â gweld gweithwyr cymdeithasol yn y tŷ. Mae goruchwyliaeth yn bwysig i weithwyr cymdeithasol, yn enwedig i weithwyr cymdeithasol newydd, er mwyn gwybod eu bod yn cael eu cefnogi a bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi. </Paragraph><Paragraph>Yn aml mae pobl yn gweithio oriau hir. Maent yn arwyr di-glod yn gweithio allan yn y gymuned. Mae'n bwysig eu bod yn gallu dweud - "Rydw i wedi gwneud hyn a hyn!" a bod rhywun yn cydnabod eu gwaith da. Mae hefyd yn gyfle iddynt siarad am unrhyw beth a all fod wedi codi - pethau sydd wedi peri pryder iddynt, neu efallai hyd yn oed wedi eu gofidio. </Paragraph><Paragraph>Mae'r gwaith rydym yn delio ag ef yn gallu bod yn drist iawn. Mae'n gallu bod yn drasig. Mae'n bwysig eu bod yn trafod eu teimladau fel nad ydynt yn mynd â nhw adref gyda nhw. Mae'r egwyddorion yng nghod ymarfer Cyngor Gofal Cymru yn bwysig. Mae egwyddorion personol hefyd - pa fath o berson rydych. Mae'n rhaid i chi barchu unigolion sydd â phroblemau neu anableddau. Mae'n rhaid i chi barchu'r ffaith bod pobl yn wahanol a pheidio â bod yn rhagfarnllyd. Doeddwn i byth yn meddwl fy mod i'n berson rhagfarnllyd. Ond pan oeddwn yn hyfforddi, gofynnodd y tiwtor, "Pa ragfarnau sydd gennych?" Rwy'n cofio meddwl "Does gen i ddim." Ond mae gan bob un ohonom ein rhagfarnau ein hunain ac mae'n bwysig ein bod yn eu hanwybyddu. Efallai y gallwch siarad amdanynt yn y broses oruchwylio. Dylech gyfaddef eu bod yn bodoli a'u bod yn eich pryderu. Mae'n hollbwysig eich bod yn berson gonest a diffuant a'ch bod yn ceisio gwneud eich gorau dros y person. Does dim ots beth rydych chi ei eisiau. Y person sy'n bwysig. </Paragraph><Paragraph>Er mwyn bod yn weithiwr cymdeithasol da, beth rwy'n chwilio amdano. Roeddwn yn rhan o banel cyfweld unwaith. Gallwch weld personoliaeth person cyn iddo ddechrau ateb y cwestiynau. Rydym yn chwilio am bobl sy'n onest, yn naturiol ac yn gyfforddus gyda phobl; pobl sydd â diddordeb mewn pobl ac sydd am wrando ar eu stori. Mae sgiliau gwrando yn bwysig iawn. Rwyf hefyd yn chwilio am rywun sy'n broffesiynol; rhywun sy'n gyfarwydd â'r gyfraith a pholisïau ac sy'n deall strwythur y cyngor. Pan fyddwn yn gwneud ein gwaith, mae gennym rôl bwysig i'w chwarae o fewn y gyfraith. Rhaid i'r person gymryd cyfrifoldeb am ansawdd ei waith - cymryd cofnodion, sgiliau asesu, asesu risg. Rhaid iddo ddeall ei rôl yn llwyr. Daw proffesiynoldeb pan fydd rhywun yn deall ei rôl. </Paragraph><Paragraph>Mae gweithio yng Nghymru yn wahanol am ei bod yn wlad ddatganoledig.  Mae strwythur y ddeddfwriaeth yn wahanol iawn i Loegr a'r Alban. Rydw i'n weithiwr cymdeithasol iechyd meddwl. Mae ein cod ymarfer ar gyfer iechyd meddwl yn wahanol i'r un yn Lloegr. Er mai gwahaniaethau bach ydynt, maent yn bwysig, ac mae'n rhaid i chi fod yn gyfarwydd â nhw. Mae'r ffordd rydych yn cymhwyso'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn wahanol yn Lloegr. Mae'n bwysig cydnabod bod gwahaniaethau. Dydyn ni ddim yr un fath â Lloegr a'r Alban. Mae ganddynt wahaniaethau bach yn eu deddfwriaeth. Hefyd, mae'r traddodiadau sydd gennym yng Nghymru, yr iaith a'r math o wlad sydd gennym, yn effeithio ar y ffordd rydym yn gweithio. Mae gennym ardaloedd sy'n ddinesig a rhai sy'n wledig tu hwnt. </Paragraph><Paragraph>Mae'n bwysig bod defnyddwyr gwasanaethau yn gallu dewis eu hiaith. Mae ganddynt yr hawl i wneud hynny fel unigolion sy'n byw yng Nghymru. Mae'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw yn profi argyfwng personol. Rydych yn teimlo'n agos atynt yn syth. Maent yn ymddiried ynoch yn syth. Mae'n digwydd, mae pobl yn ymlacio'n syth pan fyddant yn sylweddoli eich bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae pobl yn gallu dweud beth sy'n eu poeni. Maent yn gallu mynegi eu hunain yn well yn eu hiaith eu hunain. Os gallant ddweud wrthych beth sydd o'i le, a dweud wrthych beth sydd ei angen arnynt, gallwch gynnal eich asesiad yn well. Rydych yn cael y gwir yn hytrach na thrafferth ymdopi ag iaith nad ydynt yn gyfarwydd â hi. </Paragraph></Transcript></MediaContent><Paragraph>Pa ddigwyddiadau neu drobwyntiau a effeithiodd ar fywydau'r unigolion yn y fideos?</Paragraph><Paragraph>Gwnewch rai nodiadau am eich bywyd eich hun a'ch sefyllfa ar hyn o bryd. Pa ddigwyddiadau bywyd neu drobwyntiau sydd wedi effeithio arnoch chi a'r penderfyniadau a'r dewisiadau rydych wedi'u gwneud?</Paragraph><NumberedList class="decimal"><ListItem><language xml:lang="en">Beth rydych chi'n ei ddeall o'r cyfweliadau am bwysigrwydd cydberthnasau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol? (Gwrandewch yn benodol ar y gweithiwr cymdeithasol yn siarad am ddefnyddio ei phersonoliaeth.) Beth mae'r gofalwr yn ei olygu, yn eich barn chi, pan fydd yn dweud bod rhywbeth ar goll rhyngddo ef a'r gweithiwr cymdeithasol di-Gymraeg? </language></ListItem><ListItem><language xml:lang="en">Pa nodweddion y mae'r unigolion yn y fideos yn awgrymu sydd eu hangen ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol da? Beth yw'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng y nodweddion a nodwyd gan yr unigolion gwahanol?</language></ListItem><ListItem><language xml:lang="en">Pa effaith y mae ymyriad gwaith cymdeithasol wedi'i chael ar fywyd y defnyddiwr gwasanaeth? Y gofalwr? Pam ei bod yn bwysig i weithwyr cymdeithasol ddeall y wlad y maent yn gweithio ynddi ac anghenion iaith y bobl y maent yn gweithio gyda nhw?</language></ListItem><ListItem><language xml:lang="en">Beth oedd y peth mwyaf y gwnaethoch ei ddysgu drwy wylio'r cyfweliadau a fyddai'n bwysig ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol, yn eich barn chi?</language></ListItem></NumberedList></Session><Session><Title>Trafodaeth</Title><Paragraph>Mae hwn yn weithgaredd personol ond gwerthfawr iawn. Mae nifer o wahaniaethau diwylliannol a gwahaniaethau eraill ym mhrofiadau bywgraffiadol unigolion sy'n dylanwadu mewn ffyrdd amrywiol ar eu bywydau a'u hagweddau presennol, ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth hwn.</Paragraph><Paragraph>Mae pobl yn dewis gwaith cymdeithasol am bob math o resymau: er mwyn gwneud daioni; er mwyn helpu eraill; oherwydd eu cefndir teuluol eu hunain neu brofiad o golled, salwch neu anabledd; er mwyn wynebu eu problemau eu hunain neu, yn syml, ar hap.</Paragraph><Paragraph>Yn ôl arolwg o fyfyrwyr a oedd yn dilyn hyfforddiant gwaith cymdeithasol yn 2011, gwelwyd bod ffactorau personol a ffactorau o ran gyrfa wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i ddewis astudio gwaith cymdeithasol. Roedd y cymhellion yn gysylltiedig â'r elfennau canlynol:</Paragraph><NumberedList class="decimal"><ListItem><language xml:lang="en">Allgaredd - awydd i wneud gwahaniaeth, helpu eraill a brwydro yn erbyn anghyfiawnder.</language></ListItem><ListItem><language xml:lang="en">Nodweddion personol a phrofiad y myfyriwr - y gallu i gyd-dynnu â phobl, gweithio mewn tîm ac, i rai, roedd yn ddewis gyrfa addas oherwydd eu profiadau bywyd.</language></ListItem><ListItem><language xml:lang="en">Ffactorau gyrfa - fel swydd hyblyg sydd â chyflog da a rhagolygon gyrfa da.</language></ListItem><ListItem><language xml:lang="en">Natur y gwaith o ddydd i ddydd - amrywiaeth, lefel uchel o foddhad swydd a chyfrifoldeb personol.</language></ListItem></NumberedList><Paragraph>(Yn seiliedig ar Stevens et al., 2012)</Paragraph><Paragraph>Fel y mae'r ddau weithiwr cymdeithasol yn y fideos yn dangos, mae llunio'r cysylltiad rhwng profiad personol a'r hyn y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei gynnig i'w hymarfer yn gam cynnar pwysig i ddod yn ymarferydd myfyriol.</Paragraph><Paragraph>Mae ymarfer gwaith cymdeithasol da yn ymwneud yn bennaf â chydberthnasau (Wilson et al., 2011) ac ymgysylltu'n effeithiol â defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac eraill er mwyn eu galluogi i ddweud eu storïau. Meithrin cydberthynas dda yw'r man cychwyn i weithio 'gyda' phobl yn hytrach nag 'arnynt' (Beresford, 2012). Drwy'r gydberthynas broffesiynol hon y mae gweithwyr cymdeithasol yn ymgysylltu ag unigolyn ac yn ymyrryd yng nghymhlethdod ei fydoedd mewnol ac allanol (ibid), a dangosir hyn gan y gweithiwr cymdeithasol yn y fideo wrth iddi sôn am sut y gwnaeth ddefnyddio ei phersonoliaeth (ei 'hun') i feithrin cydberthnasau â phobl ifanc mewn cartref hanner ffordd.</Paragraph><Paragraph>Fodd bynnag, daw'n fwy anodd meithrin cydberthynas dda pan nad yw anghenion defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu diwallu, fel y gwelir yn achos y gofalwr. Cafodd y gofalwr weithiwr cymdeithasol di-Gymraeg a oedd yn golygu ei bod yn fwy anodd iddo ymgysylltu â hi fel yr hoffai, gan fod yn rhaid iddo feddwl yn Gymraeg a siarad yn Saesneg. Er nad yw siarad Saesneg yn broblem iddo fel y cyfryw, byddai'r gydberthynas wedi bod yn haws pe bai wedi cael ei meithrin drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ôl yr egwyddor 'cynnig gweithredol' (CGC, 2014), yn y dyfodol, y gweithiwr proffesiynol fydd yn gyfrifol am nodi anghenion iaith yng Nghymru yn hytrach na'r defnyddiwr gwasanaeth neu'r gofalwr (a all fod mewn sefyllfa o statws isel a diffyg pŵer yn barod, ac felly efallai na fydd yn teimlo ei fod yn gallu arfer ei hawl i ofyn am wasanaeth Cymraeg). </Paragraph><Paragraph>I ffwrdd o'r camera, awgrymodd y gofalwr, er bod rhoi gofal yn feichus o safbwynt corfforol ac emosiynol, y gallai'r gofalwr weld eisiau hynny pan fydd angen cymorth ychwanegol ar y person sy'n cael gofal a'i fod yn symud i ofal preswyl. Gall y bwlch sy'n cael ei adael gan y person hwnnw a diwedd y rôl 'ofalu' fod yn anodd iawn. Felly, mae'n bwysig cydnabod er y gall ymyriadau gwaith cymdeithasol newid rhai agweddau ar fywydau pobl er gwell, gall canlyniadau ymyriadau olygu hefyd y bydd bywyd yn wahanol iawn i bawb dan sylw. </Paragraph></Session><Session><Title>Casgliad</Title><Paragraph>Mae rhinweddau neu nodweddion gweithiwr cymdeithasol da a nodwyd gan y pedwar unigolyn yn weddol debyg. Mae pwysigrwydd gwrando a'r nodweddion eraill a grybwyllwyd yn adlewyrchu'r cynhesrwydd, empathi, dibynadwyedd a pharch y nododd Beresford (2012) y mae defnyddwyr gwasanaethau am eu gweld mewn gweithwyr cymdeithasol - hynny yw, yr un math o nodweddion y byddech yn disgwyl eu gweld mewn ffrind ffyddlon.</Paragraph></Session><Session><Title>Cyfeiriadau</Title><Paragraph>Beresford, P. (2012) ‘What service users want from social workers’, Community Care, dydd Gwener 27 Ebrill 2012 [ar-lein]. Ar gael yn </Paragraph><Paragraph><a href="http://www.communitycare.co.uk/2012/04/27/what-service-users-want-from-social-workers/#.U6naPJRdXAk">http://www.communitycare.co.uk/2012/04/27/what-service-users-want-from-social-workers/#.U6naPJRdXAk</a></Paragraph><Paragraph>Cyngor Gofal Cymru (2014) Y Gweithiwr Cymdeithasol, Caerdydd, CGC http://www.cgcymru.org.uk/canllawiau-ymarfer-i-weithwyr-cymdeithasol/?force=2&amp;bc=4143:4147 (cyrchwyd 24/06/2014)</Paragraph><Paragraph>Stevens, M., Moriarty, J., Manthorpe, J., Hussein, S., Sharpe, E., Orme, J., Mcyntyre, G., Cavanagh, K., Green-Lister, P. a Crisp, B.R. (2012) Helping others or a rewarding career? Investigating student motivations to train as social workers in England,<i>Journal of Social Work</i> cyf. 12, rhif 1, tud. 16–36.</Paragraph><Paragraph>Wilson, K., Ruch G., Lymbery M. a Cooper, A. (gol.) (2011) <i>Social Work: An introduction to contemporary practice</i>, Harlow, Pearson</Paragraph></Session><Session><Title>Cydnabyddiaethau</Title><Paragraph>Mae'r uned hon wedi ei ysgrifennu gan Judith Davies.</Paragraph><Paragraph>Mae'r deunydd a gydnabyddir isod yn Berchnogol ac fe'i defnyddir o dan drwydded, nid yw'n destun Trwydded Creative Commons. (Gweler <b><a href="http://www.open.ac.uk/about/main/strategy-and-policies/policies-and-statements/conditions-use-open-university-websites">telerau ac amodau</a>.</b>) </Paragraph><Paragraph>Cydnabyddiaeth Ddiolchgar yn cael ei wneud at y ffynonellau canlynol am ganiatâd i atgynhyrchu deunydd yn yr uned hon:</Paragraph><Paragraph>Cyngor Sir Caerfyrddin</Paragraph><Paragraph>Mr Howell Mudd</Paragraph><Paragraph>Rhagor o wybodaeth am:</Paragraph><Paragraph><b>Dysgu mwy</b></Paragraph><NumberedList class="decimal"><ListItem><language xml:lang="cy"><b>astudiaethau Cymraeg </b>eraill ar y pwnc hwn </language> <a href="https://www.open.edu/openlearn/society-politics-law/openlearn-cymru/openlearn-cymru-ewch-ach-dysgu-ymhellach">https://www.open.edu/openlearn/society-politics-law/openlearn-cymru/openlearn-cymru-ewch-ach-dysgu-ymhellach</a></ListItem><ListItem><language xml:lang="cy">cynnwys astudio cysylltiedig gan y <b>Brifysgol Agored</b></language> <a href="http://www.open.ac.uk/ choose/ ou/ open-content">http://www.open.ac.uk/ choose/ ou/ open-content</a></ListItem><ListItem><language xml:lang="cy">y pwnc hwn a deunyddiau'r cwrs, sydd am ddim, ar <b>OpenLearn</b></language> <a href="http://www.open.edu/ openlearn/">http://www.open.edu/ openlearn/</a></ListItem><ListItem><language xml:lang="cy"><b>astudio o'r tu allan i'r DU? </b></language><language xml:lang="cy">Mae gennym fyfyrwyr mewn dros gant o wledydd sy'n astudio cymwysterau ar-lein.</language> <a href="http://www.openuniversity.edu/">http://www.openuniversity.edu/</a></ListItem></NumberedList></Session></Unit><settings>
    <numbering>
        <Session autonumber="false"/>
        <Section autonumber="false"/>
        <SubSection autonumber="false"/>
        <SubSubSection autonumber="false"/>
        <Activity autonumber="false"/>
        <Exercise autonumber="false"/>
        <Box autonumber="false"/>
        <CaseStudy autonumber="false"/>
        <Quote autonumber="false"/>
        <Extract autonumber="false"/>
        <Dialogue autonumber="false"/>
        <ITQ autonumber="false"/>
        <Reading autonumber="false"/>
        <StudyNote autonumber="false"/>
        <Example autonumber="false"/>
        <Verse autonumber="false"/>
        <SAQ autonumber="false"/>
        <KeyPoints autonumber="false"/>
        <ComputerDisplay autonumber="false"/>
        <ProgramListing autonumber="false"/>
        <Summary autonumber="false"/>
        <Tables autonumber="false"/>
        <Figures autonumber="false"/>
        <MediaContent autonumber="false"/>
        <Chemistry autonumber="false"/>
    </numbering>
    <discussion_alias>Discussion</discussion_alias>
    <session_prefix/>
<version>2019111900</version></settings></Item>
