3 Pam fod ymarfer corff yn gwella iechyd meddwl?

Hyd yma, rydym wedi gweld llawer iawn o dystiolaeth yn dangos bod ymarfer corff yn gallu cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl, ond pam? Pam fod cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn arwain at well iechyd meddwl? Yn y gweithgaredd nesaf, byddwn yn ceisio ateb y cwestiwn hwn.

Gweithgaredd 4 Pam fod ymarfer corff yn fuddiol i iechyd meddwl?

Dylech ganiatáu tua 35 munud

Gwnewch restr o’r rhesymau a allai egluro pam fod ymarfer corff yn gwella iechyd meddwl.

Nawr, gwrandewch ar Drac 2, ‘Gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl: pam mae’n gweithio?’. Yn y clip hwn, mae Dr Gaynor Parfitt a’r Athro Adrian Taylor yn trafod rhai o’r damcaniaethau arfaethedig ynghylch pam fod ymarfer corff yn gwella iechyd meddwl.

Darparwyd y fersiwn sain Gymraeg gan artistiaid trosleisio. Mae’r ffeil sain wreiddiol ar gael yma.

Gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl: pam mae’n gweithio?

Sut mae eich esboniadau’n cymharu â’r rhai a amlinellwyd yn y darnau rydych wedi’u darllen neu wedi gwrando arnyn nhw? Efallai yr hoffech ddefnyddio’r adran sylwadau isod i rannu eich safbwyntiau am yr esboniadau sydd fwyaf credadwy i chi, a rhoi sylwadau ar bostiadau eraill gan aelodau o’ch grŵp.

Comment

Nid oes un ddamcaniaeth na rhagdybiaeth wedi’i derbyn yn gyffredinol i esbonio’r cysylltiad rhwng ymarfer corff ac iechyd meddwl. Yn hytrach, mae sawl rhagdybiaeth wahanol wedi’u cynnig. Gellir rhannu’r rhain yn ddau gategori: (1) corfforol neu fioffisegol a (2) seicolegol neu seicogymdeithasol.

Ffigur 1 Mae ymarfer corff yn gallu gwneud i ni deimlo’n well ac mae’n gallu gwella ein hwyliau
Inga Spence/Alamy

Mae tystiolaeth bod ymarfer corff yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl, ond yn ymarferol gall fod yn anodd nodi’r union resymau pam. Gallai hyn fod oherwydd bod cyfuniad o ffactorau yn arwain at well iechyd meddwl, yn hytrach nag un ffactor. Hefyd, oherwydd bod pawb yn wahanol, gall yr esboniadau dros well iechyd meddwl amrywio’n ôl y person dan sylw.