1 Ymwybyddiaeth Ofalgar

Efallai bod gennych chi rai syniadau ynglŷn â beth yw ymwybyddiaeth ofalgar yn barod, o gofio ei fod wedi dod yn derm poblogaidd iawn yn y blynyddoedd diwethaf. Cyn ichi fynd dim pellach, gwyliwch y fideo hwn y mae'r Brifysgol Agored wedi’i greu i esbonio beth yw ymwybyddiaeth ofalgar a pham y dylai fod yn bwysig i ni.
Ar ôl gweld y fideo, byddwch wedi dysgu bod ymwybyddiaeth ofalgar yn ymwneud â chanolbwyntio ar y funud bresennol a derbyn eich teimladau, eich meddyliau a theimladau eich corff. Gallwn ymarfer hyn fel rhan o fyfyrio er mwyn gwneud y nodwedd honno’n rhan fwy o’n bywyd bob dydd. Mae’n gallu ein helpu â phrofiadau emosiynol a chorfforol poenus. Mae'r adran nesaf yn dangos i chi sut gallwch chi brofi ymwybyddiaeth ofalgar drosoch eich hun.
OpenLearn - Ymwybyddiaeth ofalgar ym maes iechyd meddwl ac mewn carchardai
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.

