2 Therapi meddylgar
Yn ‘Mindfulness’ allan o Mad or Bad: A Critical Approach to Counselling and Forensic Psychology, roeddech chi wedi darllen am sut mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi helpu yng nghyswllt nifer o anawsterau iechyd meddwl, a buoch yn trin a thrafod rhai o'r ffyrdd y mae ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu gweithio wrth ymarfer cwnsela gyda chleientiaid.
Gwyliwch yr animeiddiad hwn sydd wedi'i greu gan rai o awduron y cwrs yn y Brifysgol Agored i ddysgu ychydig mwy ynghylch pam mae'r syniad o ‘fod yn bresennol’, sy'n rhan o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, mor ddefnyddiol – yn gyffredinol ac yng nghyd-destun therapi yn benodol.
Gweithgaredd 2 Ymwybyddiaeth Ofalgar ym maes cwnsela
Ar ôl darllen y bennod a gwylio'r animeiddiad, gwnewch restr o'r ffyrdd y gallai therapyddion neu gwnselwyr gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar yn eu gwaith gyda chleientiaid.
Rhowch eich ateb...
Discussion
Gall cwnselwyr gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar mewn therapi mewn tair ffordd, sef:
- cwnselwyr yn cynnig arferion a syniadau ymwybyddiaeth ofalgar i'w cleientiaid
- cwnselwyr yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar eu hunain
- meithrin perthynas therapiwtig feddylgar.
Byddwch yn trafod y rhain yn fanylach yn y cam nesaf.
OpenLearn - Ymwybyddiaeth ofalgar ym maes iechyd meddwl ac mewn carchardai
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.

