4 Sylwadau beirniadol am ymwybyddiaeth ofalgar
Tua diwedd y darlleniad ‘Mindfulness’, roeddech chi wedi dysgu bod y ffyrdd y mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi cael ei chymhwyso hyd yma wedi derbyn llawer o feirniadaeth. Yn y rhaglen gan Radio 4 ‘Beyond Belief’ y byddwch chi'n gwrando arni yn y man, byddwch yn clywed tri arbenigwr yn trafod ffyrdd y mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei chymhwyso a’r problemau sydd ynghlwm â'r ffyrdd hynny. Y siaradwyr yw: Christopher Titmuss athro Bwdhaidd o Ganolfan Encilio Fwdhaidd Gaia House, Chris Cullan o Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Rhydychen a Rebecca Crane o Ganolfan Ymchwil Ymwybyddiaeth Ofalgar Bangor. Mae Chris a Rebecca yn ymchwilwyr allweddol yn y maes hwn yn y DU, ac maen nhw wedi bod yn ymwneud â'r adroddiad Mindful Nation UK ac â datblygu therapi gwybyddol ymddygiadol seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar.
Nawr gwrandewch ar BBC Beyond Belief: Mindfulness. Rydym yn argymell eich bod yn gwrando ar ran olaf y rhaglen, o 18 munud a 30 eiliad ymlaen. Ond mae’r bennod gyfan, gyda mwy o drafodaeth am beth ydy ymwybyddiaeth ofalgar a sut mae’n berthnasol i fyfyrio ac i arferion ysbrydol eraill ar gael drwy'r ddolen hon.
Gweithgaredd 4 Ymwybyddiaeth ofalgar foesegol
Ar sail yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn y cwrs hwn a'r bennod Beyond Belief, penderfynwch p’un ai a ydi pob ffurf ar addysg ymwybyddiaeth ofalgar sydd wedi'i rhestru yma yn ‘hyfforddiant talu sylw’ neu’n ‘ymwybyddiaeth ofalgar foesegol’ (sef y gwahaniaeth a nodwyd tua diwedd y rhaglen Beyond Belief ).
- Dysgu sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar yn y lluoedd arfog i helpu milwyr fod yn well am dargedu'r gwrthwynebwr, ac am ymdopi ag unrhyw anhwylder straen wedi trawma maen nhw’n cael profiad ohono.
- Cynnwys holl staff sefydliad mewn trafodaeth barhaus am beth y gellir ei wneud i greu amgylchedd gwaith lle mae pobl yn eu trin eu hunain ac eraill yn ystyriol ac yn drugarog, a gweithio tuag at sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu yn y ffordd fwyaf moesegol bosib.
- Cynnal dosbarth ymwybyddiaeth ofalgar i blant yn yr ysgol unwaith yr wythnos i helpu i wella eu gallu i dalu sylw.
- Rhoi cwrs wyth wythnos o hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar i wleidyddion i'w helpu i ddelio â straen eu galwedigaeth.
- Meddygon teulu yn anfon cleifion sy’n dioddef o iselder ar gwrs ymwybyddiaeth ofalgar byr, o gofio y canfuwyd ei fod yn gallu bod yn effeithiol o ran trin iselder.
- Dod â mudiadau ymwybyddiaeth ofalgar a mudiadau cyfiawnder cymdeithasol at ei gilydd i ystyried o ble y mae dioddefaint dyn yn dod a sut y gellid mynd i’r afael â hyn (e.e. rhyfel, gwahaniaethu, ein heffaith ar yr amgylchedd, sut mae ffoaduriaid yn cael eu trin, mesurau llymder ayyb).
- Gwneud ymwybyddiaeth ofalgar yn rhan o gwricwlwm ysgolion o ran arferion a thrafodaeth barhaus ar bob lefel ynghylch sut mae gwneud diwylliant yr ysgol yn fwy meddylgar ac ystyriol er lles pawb sydd ynddi.
- Gwahodd gwleidyddion i ymgysylltu’n gyson ag ymwybyddiaeth ofalgar a thrugaredd Fwdhaidd er mwyn iddynt ystyried beth yw goblygiadau eu polisïau o ran cynyddu neu leddfu dioddefaint dyn.
- Cynnig gwersi ymwybyddiaeth ofalgar ddewisol i staff mewn sefydliad er mwyn cynyddu cynhyrchiant.
- Annog pobl ar gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar i ddatblygu – drwy ymwybyddiaeth ofalgar – rhyw fath o 'ddealltwriaeth glir’ o ganlyniadau'r hyn maen nhw’n ei wneud ar bobl eraill, a sut mae deinameg grym a braint yn gweithio yn y byd.
OpenLearn - Ymwybyddiaeth ofalgar ym maes iechyd meddwl ac mewn carchardai
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
