Transcript

ADRODDWR
Dim ots pa mor dda yw therapydd -- faint o lyfrau y mae wedi’u darllen neu faint o lythrennau sy’n ymddangos ar ôl ei enw -- mae angen iddo ‘fod yn bresennol’ mewn sesiynau. A nid yn unig bod yn bresennol yn gorfforol, ond hefyd yn emosiynol. Mae therapydd da yn gwybod sut mae bod yn bresennol, sut mae talu sylw’n llawn, dim ots sut un yw'r cleient na pha mor anodd yw'r pwnc dan sylw. Nid yw therapydd da yn gadael i'w feddwl grwydro nac yn gadael i bethau dynnu ei sylw. Nid yw’n gwneud i gleientiaid deimlo mai dim ond rhai agweddau penodol ar eu personoliaeth sy'n iawn.
Mae therapydd da yn gallu eistedd gyda'r cleient heb ymateb i'r hyn mae’n ei ddweud, ni waeth pwy ydyw, na beth mae’n ei rannu. Rydym yn aml yn cael ein dysgu bod rhai teimladau yn dderbyniol ond bod eraill ddim yn dderbyniol. Mae hyn yn llesteirio ein gallu i weithio ein ffordd drwy ein hemosiynau yn gyfforddus. Drwy oddef beth bynnag mae cleient yn ei ddatgelu, mae'r therapydd yn gallu dangos iddo sut mae ymdrin â’i emosiynau mewn ffordd iach.
Gallwch ymarfer bod yn bresennol drwy ymwybyddiaeth ofalgar, sy’n deillio o ddysgeidiaeth Fwdhaidd oedd mewn bod dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Dysgodd y Bwda mai gwraidd dioddefaint dyn oedd dyhead, ceisio dal gafael ar yr hyn y mae arnom ei eisiau a chael gwared ar yr hyn nad oes arnom ei eisiau. Roedd y Bwda yn pwysleisio pwysigrwydd sylwi ar ein profiadau heb geisio eu newid. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ymwneud â bod yn bresennol yn eich profiad yn ei gyfanrwydd, beth bynnag rydych chi'n ei wneud, ei feddwl neu ei deimlo.
Mae’n rhaid i therapyddion fod yn bresennol gyda nhw eu hunain cyn maen nhw’n gallu bod yn bresennol gydag eraill. Mae rhai therapyddion yn dysgu technegau meddylgar i'w cleientiaid, er enghraifft, myfyrio. Mae hyn yn golygu eistedd yn gyfforddus ac anadlu, gan adael i'ch holl deimladau a meddyliau fynd a dod. Peidiwch â cheisio dal gafael ynddyn nhw na chael gwared arnyn nhw, dim ond sylwi sut maen nhw’n codi i’r wyneb ac yn llithro i ffwrdd. Dydi hyn ddim yn hawdd, ac mae pethau’n siŵr o dynnu eich sylw. Pan fydd hyn yn digwydd, sylwch arno ac yna tynnwch eich hun yn ôl i'r funud bresennol, a theimlad eich anadl. Mae’n bwysig bod yn garedig ac yn dyner â chi eich hun.
Gallwch hefyd ymarfer bod yn bresennol wrth wneud tasgau bob dydd fel golchi’r llestri, glanhau eich dannedd neu wrth fynd â'r ci am dro. Y syniad yw eich bod yn raddol yn newid eich arfer o geisio dal gafael ar yr hyn mae arnoch chi ei eisiau, a thaflu'r hyn nad oes arnoch chi ei eisiau i ffwrdd. Wedyn, gallwch fod yn fwy parod i dderbyn eich profiad yn ei gyfanrwydd. Ac mae'r cyfan yn dechrau nawr -- gyda'r funud hon.