2 Therapi meddylgar

Yn ‘Mindfulness’ allan o Mad or Bad: A Critical Approach to Counselling and Forensic Psychology, roeddech chi wedi darllen am sut mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi helpu yng nghyswllt nifer o anawsterau iechyd meddwl, a buoch yn trin a thrafod rhai o'r ffyrdd y mae ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu gweithio wrth ymarfer cwnsela gyda chleientiaid.

Gwyliwch yr animeiddiad hwn sydd wedi'i greu gan rai o awduron y cwrs yn y Brifysgol Agored i ddysgu ychydig mwy ynghylch pam mae'r syniad o ‘fod yn bresennol’, sy'n rhan o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, mor ddefnyddiol – yn gyffredinol ac yng nghyd-destun therapi yn benodol.

Bod yn bresennol mewn therapi – syniadau allweddol mewn therapi

Gweithgaredd 2 Ymwybyddiaeth Ofalgar ym maes cwnsela

Ar ôl darllen y bennod a gwylio'r animeiddiad, gwnewch restr o'r ffyrdd y gallai therapyddion neu gwnselwyr gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar yn eu gwaith gyda chleientiaid.

Rhowch eich ateb...

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Discussion

Gall cwnselwyr gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar mewn therapi mewn tair ffordd, sef:

  1. cwnselwyr yn cynnig arferion a syniadau ymwybyddiaeth ofalgar i'w cleientiaid
  2. cwnselwyr yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar eu hunain
  3. meithrin perthynas therapiwtig feddylgar.

Byddwch yn trafod y rhain yn fanylach yn y cam nesaf.