4 Sylwadau beirniadol am ymwybyddiaeth ofalgar

Tua diwedd y darlleniad ‘Mindfulness’, roeddech chi wedi dysgu bod y ffyrdd y mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi cael ei chymhwyso hyd yma wedi derbyn llawer o feirniadaeth. Yn y rhaglen gan Radio 4 ‘Beyond Belief’ y byddwch chi'n gwrando arni yn y man, byddwch yn clywed tri arbenigwr yn trafod ffyrdd y mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei chymhwyso a’r problemau sydd ynghlwm â'r ffyrdd hynny. Y siaradwyr yw: Christopher Titmuss athro Bwdhaidd o Ganolfan Encilio Fwdhaidd Gaia House, Chris Cullan o Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Rhydychen a Rebecca Crane o Ganolfan Ymchwil Ymwybyddiaeth Ofalgar Bangor. Mae Chris a Rebecca yn ymchwilwyr allweddol yn y maes hwn yn y DU, ac maen nhw wedi bod yn ymwneud â'r adroddiad Mindful Nation UK ac â datblygu therapi gwybyddol ymddygiadol seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar.

Nawr gwrandewch ar BBC Beyond Belief: Mindfulness. Rydym yn argymell eich bod yn gwrando ar ran olaf y rhaglen, o 18 munud a 30 eiliad ymlaen. Ond mae’r bennod gyfan, gyda mwy o drafodaeth am beth ydy ymwybyddiaeth ofalgar a sut mae’n berthnasol i fyfyrio ac i arferion ysbrydol eraill ar gael drwy'r ddolen hon.

Gweithgaredd 4 Ymwybyddiaeth ofalgar foesegol

Ar sail yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn y cwrs hwn a'r bennod Beyond Belief, penderfynwch p’un ai a ydi pob ffurf ar addysg ymwybyddiaeth ofalgar sydd wedi'i rhestru yma yn ‘hyfforddiant talu sylw’ neu’n ‘ymwybyddiaeth ofalgar foesegol’ (sef y gwahaniaeth a nodwyd tua diwedd y rhaglen Beyond Belief ).

  1. Dysgu sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar yn y lluoedd arfog i helpu milwyr fod yn well am dargedu'r gwrthwynebwr, ac am ymdopi ag unrhyw anhwylder straen wedi trawma maen nhw’n cael profiad ohono.
 
  1. Cynnwys holl staff sefydliad mewn trafodaeth barhaus am beth y gellir ei wneud i greu amgylchedd gwaith lle mae pobl yn eu trin eu hunain ac eraill yn ystyriol ac yn drugarog, a gweithio tuag at sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu yn y ffordd fwyaf moesegol bosib.
 
  1. Cynnal dosbarth ymwybyddiaeth ofalgar i blant yn yr ysgol unwaith yr wythnos i helpu i wella eu gallu i dalu sylw.
 
  1. Rhoi cwrs wyth wythnos o hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar i wleidyddion i'w helpu i ddelio â straen eu galwedigaeth.
 
  1. Meddygon teulu yn anfon cleifion sy’n dioddef o iselder ar gwrs ymwybyddiaeth ofalgar byr, o gofio y canfuwyd ei fod yn gallu bod yn effeithiol o ran trin iselder.
 
  1. Dod â mudiadau ymwybyddiaeth ofalgar a mudiadau cyfiawnder cymdeithasol at ei gilydd i ystyried o ble y mae dioddefaint dyn yn dod a sut y gellid mynd i’r afael â hyn (e.e. rhyfel, gwahaniaethu, ein heffaith ar yr amgylchedd, sut mae ffoaduriaid yn cael eu trin, mesurau llymder ayyb).
 
  1. Gwneud ymwybyddiaeth ofalgar yn rhan o gwricwlwm ysgolion o ran arferion a thrafodaeth barhaus ar bob lefel ynghylch sut mae gwneud diwylliant yr ysgol yn fwy meddylgar ac ystyriol er lles pawb sydd ynddi.
 
  1. Gwahodd gwleidyddion i ymgysylltu’n gyson ag ymwybyddiaeth ofalgar a thrugaredd Fwdhaidd er mwyn iddynt ystyried beth yw goblygiadau eu polisïau o ran cynyddu neu leddfu dioddefaint dyn.
 
  1. Cynnig gwersi ymwybyddiaeth ofalgar ddewisol i staff mewn sefydliad er mwyn cynyddu cynhyrchiant.
 
  1. Annog pobl ar gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar i ddatblygu – drwy ymwybyddiaeth ofalgar – rhyw fath o 'ddealltwriaeth glir’ o ganlyniadau'r hyn maen nhw’n ei wneud ar bobl eraill, a sut mae deinameg grym a braint yn gweithio yn y byd.