Transcript
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
ADRODDWR
Pum rheswm pam dylai ymwybyddiaeth ofalgar fod yn bwysig i chi. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ymwneud â chanolbwyntio ar y funud bresennol a derbyn eich teimladau, eich meddyliau a theimladau eich corff ar yr un pryd. Pam fod ymwybyddiaeth ofalgar yn bwysig?
Un: Mae pobl wedi bod yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ers canrifoedd. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn seiliedig ar egwyddorion sy’n deillio o arferion Bwdhaidd, ymysg pethau eraill, a gellir ei hymarfer drwy ioga, myfyrdod a thechnegau anadlu. Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei chydnabod erbyn hyn fel rhywbeth sy’n gallu bod o fudd i chi p’un ai a oes gennych chi gredoau ysbrydol neu grefyddol ai peidio. Un ffordd y gallwn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yw trwy neilltuo amser i eistedd yn dawel a thalu sylw i’n hanadlu.
Dau: Gall ymwybyddiaeth ofalgar eich helpu i reoli poen. Mae’r cyflwr dynol yn cynnwys poen. Ond nid oes rhaid i’r meddwl a’r corff ymateb yn reddfol i brofiadau poenus. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn sgÍl sy’n ein galluogi ni i fod yn fwy ymatebol, o leiaf yn reddfol felly, i beth sy’n digwydd yn y presennol er mwyn lleihau ein poen gyffredinol a gwella ein hymdeimlad o lesiant.
Tri: Gall y mwyafrif ohonom ni syrthio i mewn i’r trap o wneud pethau heb feddwl. Fel arfer, rydyn ni’n cael ein denu at batrymau meddwl di-fudd ac mae hyn yn gallu arwain atom ni’n gweithredu heb feddwl. Dyma yw bod yn anfeddylgar. Er enghraifft, yn ystod amser bwyd, mae’r mwyafrif ohonom ni’n bwyta’n rhy gyflym i feddwl am beth rydyn ni’n ei fwyta ac i feddwl am y profiad o fwyta. Efallai y dylem ystyried diffodd y teledu neu’r cyfrifiadur yn ystod amser bwyd a gwerthfawrogi blas y bwyd rydyn ni’n ei fwyta a mwynhau’r profiad.
Pedwar: Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu llawer o bobl yn y Deyrnas Unedig a thramor yn barod. Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn ystyried ymwybyddiaeth ofalgar yn rhywbeth buddiol iawn. Mae mwy a mwy o gyfeirio at ymwybyddiaeth ofalgar yn y gwaith ymchwil.
Yn 1970, roedd tua 24 erthygl ynghylch ymwybyddiaeth ofalgar wedi’i chyhoeddi. Erbyn 2016, roedd bron i 200,000 o erthyglau ar gael. Fel gydag unrhyw ymarfer, mae’n bosib na fydd yn gweithio i bawb, ond mae mwy a mwy o ddiddordeb yn ei effeithiau llesol.
Pump: Gallwn ni gyd gymryd amser i ‘stopio a mwynhau’r eiliad bresennol’. Mae’n hawdd iawn bod yn anfeddylgar yn anfwriadol, sy’n golygu ein bod yn anghofio am y pethau pwysig yn ein bywydau. Dyma pam bod angen i ni gyd atgoffa ni’n hunain beth yw gwerth ymwybyddiaeth ofalgar. Felly’r tro nesaf y byddwch yn mynd am dro yn yr awyr agored, sylwch sut mae’r planhigion a’r coed yn newid gyda’r tymhorau, sylwch ar yr arogleuon, neu sut mae’r tymheredd yn teimlo ar eich croen. A gwerthfawrogi bod yn rhan o'r eiliad honno.