Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ymwybyddiaeth ofalgar ym maes iechyd meddwl ac mewn carchardai
Ymwybyddiaeth ofalgar ym maes iechyd meddwl ac mewn carchardai

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Cael profiad o ymwybyddiaeth ofalgar

Er mwyn deall yn iawn beth yw ymwybyddiaeth ofalgar, mae’n bwysig eich bod chi eich hun yn cael rhywfaint o brofiad o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Allwch chi ddim cael blas go iawn arni ddim ond drwy ddarllen amdani. Yma, byddwch yn dysgu am ffurf sylfaenol o fyfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar y gallwch chi roi cynnig arno. Ond mae llawer o bobl yn ei chael yn haws – yn enwedig ar y dechrau – i gael rhywun yn dweud wrthyn nhw sut mae gwneud yr ymarfer wrth iddynt ei wneud.

Gweithgaredd 1 Rhoi cynnig ar fyfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar

Rhowch gynnig ar fyfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar mewn ap neu ar wefan. Mae nifer fawr o apiau sy’n cynnwys ymarferion myfyrio sain ar gael i chi eu llwytho i lawr i'ch dyfais.

Dyma rai o'r rhai mwyaf poblogaidd adeg ysgrifennu'r erthygl hon:

  • Headspace
  • Stop, Breathe, Think
  • The Mindfulness App.

Os nad oes arnoch chi eisiau defnyddio ap, dyma rai gwefannau sy'n cael eu rhedeg gan rai o’r ymarferwyr ac ymchwilwyr ymwybyddiaeth ofalgar mwyaf yn y DU ac UDA. Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys nifer o fyfyrdodau sain y gallwch chi eu chwarae:

Dewiswch un ymarfer sain o un o'r apiau neu'r gwefannau hyn, a rhowch gynnig ar fyfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar.

Ar ôl gorffen, meddyliwch am dri gair neu ymadrodd byr sy'n disgrifio sut brofiad oedd o i chi a’u nodi yn y blwch testun isod. Nid oes dim atebion cywir nac atebion anghywir; nodwch sut brofiad oedd o i chi.

Rhowch eich ateb...

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Pan oedd Nugent, Barnes a Wilks (2011), sy’n ymchwilwyr ymwybyddiaeth ofalgar, wedi annog grŵp o weithwyr iechyd proffesiynol i wneud gweithgaredd tebyg i'r un rydych chi newydd ei wneud, dyma'r mathau o bethau oedd ganddyn nhw i ddweud: roedd ymwybyddiaeth ofalgar yn rhoi amser i rywun oedi am funud yn eu bywyd; roedd yn dwysáu eu perthynas â nhw eu hunain (drwy fod yn ymwybodol o sut roedden nhw’n teimlo er enghraifft); roedd yn eu galluogi i weld pethau na fydden nhw fel arall wedi sylwi arnyn nhw (er enghraifft, eu bod ar bigau'r drain), gan greu'r posibilrwydd o newid y pethau hyn; a’i fod yn ffordd o dalu sylw i unrhyw brofiad (nid dim ond myfyrdodau penodol tebyg i'r un roeddech chi wedi'i wneud).

Roedd y rhai oedd yn cymryd rhan yn yr astudiaeth hefyd wedi dweud bod yn feddylgar yn aml yn dod ag ansicrwydd ac anesmwythdra yn ei sgil: doedd o ddim yn hawdd. Mae'r mwyafrif o adroddiadau gan bobl am eu cynigion cyntaf ar fyfyrdod meddylgar yn cynnwys geiriau fel ‘diflastod’, ‘poen’, ‘rhwystredigaeth’ a ‘dicter’ yn amlach na geiriau fel ‘llonyddwch’, ‘heddwch’ a ‘doethineb’, sef y geiriau rydym yn aml yn eu cysylltu ag arferion o'r fath. Nid yw talu sylw’n dawel i ni ein hunain bob amser yn dod â heddwch i ni. Mae’n aml yn dod â ni wyneb yn wyneb â phethau y byddai'n well gennym eu hosgoi. Mae’n werth cadw hyn mewn cof pan fyddwn yn penderfynu ymgymryd ag ymwybyddiaeth ofalgar. Dylem fod yn ymwybodol o'r disgwyliadau sydd gan bobl, a'r realiti y mae'r mwyafrif o bobl yn ei brofi.

Efallai y byddwch yn gofyn i chi eich hun, os ydi'r profiad y mae pobl yn ei gael o ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu bod yn eithaf negyddol, pam ymgymryd ag ymwybyddiaeth ofalgar o gwbl? Cewch rai atebion i'r cwestiwn hwn yn ystod y cwrs hwn, ond am y tro mai’n werth deall bod ymwybyddiaeth ofalgar yn ymwneud â gallu wynebu a derbyn yr holl feddyliau a theimladau sydd gennych chi yn well, boed y rheiny’n rhai hawdd neu'n rhai anodd, yn hytrach na cheisio cael gwared ar y rhai ‘negyddol’ a dal gafael ar y rhai ‘cadarnhaol’. Yn ôl ymwybyddiaeth ofalgar, y rheswm am hyn yw bod ein gallu i dderbyn ein holl deimladau yn gallu ein helpu i ymdopi â nhw os ydyn nhw’n rhai anodd. Mae ceisio sicrhau nad ydym ond yn cael teimladau cadarnhaol, yn aml, yn baradocsaidd, yn gwneud inni ddioddef mwy.

Rydym yn eich gwahodd i ddarllen pennod allan o Mad or Bad: A Critical Approach to Counselling and Forensic Psychology (2017). Mae Pennod 16, ‘Mindfulness’, wedi’i hysgrifennu gan awduron y cwrs, sef Meg-John Barker a Troy Cooper ar gyfer cwrs y Brifysgol Agored DD310 Cwnsela a seicoleg fforensig : ymchwilio i drosedd a therapi. Cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen y bennod hon cyn mynd ymlaen i'r adran nesaf.

‘Mindfulness’