2.1 Gwneud ymwybyddiaeth ofalgar yn rhan o therapi
Byddwn nawr yn trin a thrafod y tair ffordd y gall cwnselwyr gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar mewn therapi.
1 Cwnselwyr yn cynnig arferion a syniadau ymwybyddiaeth ofalgar i'w cleientiaid
Gall cwnselwyr gynnig arferion a syniadau ymwybyddiaeth ofalgar i'w cleientiaid mewn sesiynau unigol, neu mewn grwpiau.
Mewn therapi un i un, gallai cwnselwyr gynnig ymwybyddiaeth ofalgar fel a ganlyn:
- ffordd i'r cleient baratoi ar gyfer y therapi cyn iddo ddechrau
- math o 'waith cartref’ i'w wneud y tu allan i therapi, er mwyn arsylwi arnyn nhw eu hunain, eu meddyliau a’u teimladau
- rhywbeth i'w wneud yn ystod awr y therapi; er enghraifft, ar ddechrau'r sesiwn er mwyn iddynt fod yn gwbl ymwybodol o'r funud bresennol a chanolbwyntio arni, neu er mwyn 'wynebu a derbyn’ sut mae teimlad anodd yn gwneud iddynt deimlo yn hytrach nag ymladd yn ei erbyn
- ymarferion maen nhw’n gallu eu gwneud i barhau â gwaith therapi ar ôl i'r therapi ddod i ben, er mwyn parhau i neilltuo amser yn eu bywydau ar gyfer hunanofal a hunan-fyfyrio.
2 Cwnselwyr eu hunain yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar
Yn ‘Mindfulness’ allan o Mad or Bad: A Critical Approach to Counselling and Forensic Psychology, roeddech chi wedi dysgu mor bwysig, o safbwynt ymwybyddiaeth ofalgar, yw peidio â chreu ymdeimlad o ‘nhw a ni’ rhwng therapyddion a chleientiaid, oherwydd mae pob un ohonom yn cael pethau'n anodd mewn ffyrdd tebyg.
Mae ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar hefyd yn gallu helpu cwnselwyr i ddatblygu priodoleddau therapiwtig pwysig (Barker, 2013) sy'n cynnwys y canlynol:
- Talu sylw: Mae angen i gwnselwyr allu hoelio eu sylw ar y cleient. Mae angen iddynt hefyd gael ymwybyddiaeth eang o bopeth sy'n mynd ymlaen yn yr ystafell therapi, er enghraifft, iaith corff y cleient, y dynamig rhyngddyn nhw a’r cleient, ac unrhyw feddyliau a theimladau sy’n codi ynddyn nhw wrth i'r cleient siarad. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ffordd dda o ymarfer hoelio sylw ac ymwybyddiaeth eang.
- Empathi a chydymdeimlad: Dyma'r rhinweddau sydd â'r gydberthynas gryfaf â chanlyniadau cadarnhaol i therapi (Cooper, 2008). Mae myfyrdodau cydymdeimlad a charedigrwydd ar gael sy'n meithrin yn uniongyrchol ein gallu i deimlo empathi a bod yn drugarog wrthym ni ein hunain a thuag at bobl eraill. A ninnau’n byw mewn diwylliant sy'n ein hannog i fod yn feirniadol ac i gymharu ein hunain â phobl eraill, mae angen inni ymarfer ffordd wahanol o fod, yn hytrach na’i fod yn rhywbeth sy'n dod yn hawdd inni.
- Gallu wynebu a derbyn teimladau anodd: Mae angen i gwnselwyr allu wynebu a derbyn unrhyw deimladau anodd sy’n codi i'r cleient yn hytrach na bod ar frys i wneud iddo deimlo'n well, neu gyfleu'r neges iddyn nhw nad yw’r teimladau hynny’n rhai iawn i'w cael. Mae Joan Halifax (2011) yn dweud bod ymarfer myfyrdod yn gallu helpu cwnselwyr i ddysgu sut mae aros yn gadarn fel mynydd, gan groesawu pob emosiwn fel y tywydd.
- Hunanymwybyddiaeth: Mae’n bwysig fod cwnselwyr yn hunanymwybodol er mwyn iddynt allu bod yno ar gyfer y cleient, yn hytrach na dod â’u rhagfarnau, eu tybiaethau a’u harferion eu hunain i mewn i'r ystafell. Mae eistedd yn dawel gyda nhw eu hunain yn rheolaidd yn gallu helpu cwnselwyr i ddeall pa dybiaethau maen nhw’n eu gwneud, a sut maen nhw’n tueddu i ymateb.
3 Meithrin perthynas therapiwtig feddylgar
Fel y gwelsoch chi yn gynharach yn y fideo ‘Bod yn bresennol mewn therapi – syniadau allweddol mewn therapi’, mae ymwybyddiaeth ofalgar hefyd yn ffordd o edrych ar y berthynas therapiwtig. Mae bod yn bresennol gyda'r cleient, dangos cydymdeimlad tuag atynt a dangos iddyn nhw sut mae aros gyda theimladau anodd sy’n codi yn fuddiol ynddo’i hun.
Dyma rai ffyrdd ymarferol y gall cwnselydd feithrin perthynas therapiwtig feddylgar:
- myfyrio neu gadw dyddlyfr cyn sesiynau er mwyn bod yn ymwybodol o ble maen nhw wedi’i gyrraedd, ac ymarfer bod yn drugarog tuag ato’i hun
- gwneud ymarferion byr yn union cyn cyfarfod y cleient, er mwyn bod yn barod i fod yn bresennol gydag ef neu hi
- defnyddio ymwybyddiaeth feddylgar yn ystod y sesiwn, drwy annog y cleient i roi sylw i'w holl brofiad ac i roi amser i hynny; sylwi ar ei ymatebion ei hun ac arafu er mwyn ystyried beth i'w ddweud a’i wneud nesaf er mwyn gwasanaethu'r cleient yn y ffordd orau bosib.
Yn yr adran nesaf byddwch yn trin a thrafod rhai o'r ffyrdd y gellir defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar mewn carchardai.