Mynd i'r prif gynnwys

‘Bread of Heaven’ – Canu o’r un llyfr emynau?

Diweddarwyd Dydd Mercher, 14 Medi 2022

Hanes cymhleth yr emyn Cymreig enwog hwn.

Dysgwch fwy am gyrsiau cerddoriaeth Y Brifysgol Agored. 

Mae nifer fechan o emynau mor gyfarwydd i bobl yng Nghymru nes bron y gellid dweud, er enghraifft, fod pawb yn gwybod ‘Bread of Heaven’. Serch hynny, mae astudiaeth o hanes cyd-destunol a cherddorol llawer o emynau mwyaf cyfarwydd Cymru’n aml yn datgelu straeon cymhleth sy’n anodd eu datrys. Mae’r erthygl hon yn ystyried ‘Bread of Heaven’ (y cyfeirir ato’n aml dan enw’r dôn, ‘Cwm Rhondda’, neu’r llinell gyntaf ‘Guide me, O thou great Jehovah’) er mwyn tanlinellu rhai o’r heriau hanesyddol yma.

Yn un o hoff emynau cefnogwyr rygbi, cyfieithiad Saesneg o’r emyn ‘Arglwydd, arwain trwy’r anialwch’ gan William Williams, Pantycelyn (1717-91), emynydd enwocaf Cymru yw ‘Guide me, O thou great Jehovah’. Cyhoeddwyd y testun Cymraeg gwreiddiol yn 1762. Cyhoeddwyd y cyfieithiad Saesneg cyntaf gan Peter Williams yn 1771. John Hughes (1873-1932), a fu’n gweithio fel glöwr cyn cael swydd fel clerc ar y rheilffyrdd, gyfansoddodd alaw enwog ‘Cwm Rhondda’, gyda’i huchafbwynt cynhyrfus. Mae dyddiad yr alaw yn anhysbys; cafodd ei defnyddio am y tro cyntaf yn 1907 yn Hopkinstown, ger Pontypridd. 


Ffoto o Gapel Rhondda yn NhrehopcynCapel Rhondda, Trehopcyn, lle perfformiodd John Hughes ei alaw ‘Cwm Rhondda’ am y tro cyntaf yn 1907. Llun gan y National Churches Trust. 

Daw dwy ffactor bwysig a chymhleth i’r golwg yma: rôl y cyfieithiad a’r bwlch o ganrif a mwy rhwng ysgrifennu’r geiriau a chyfansoddi’r alaw sydd bellach yn rhan annatod o’r emyn. Roedd emynau William Williams yn ganolog i addoliad Gristnogol iaith Gymraeg drwy gydol y cyfnod hwn, a chafodd cyfieithiad Peter Williams o’r emyn hwn ei gynnwys mewn sawl llyfr emynau Saesneg yng Nghymru a thu hwnt. Cafodd amrywiol alawon eu cysylltu ag ‘Arglwydd, arwain trwy’r anialwch’ ymysg cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith; dadleua Alan Luff fod cyweiredd lleddf nifer ohonynt yn ymateb i wreiddiau’r testun mewn cyfnod o gryn helbul o fewn Methodistiaeth Cymru. Yn yr un modd, cafodd amrywiol alawon, y mwyafrif ohonynt yn angof bellach, eu defnyddio ar gyfer y cyfieithiad Saesneg.

Daw dwy ffactor bwysig a chymhleth i’r golwg yma: rôl y cyfieithiad a’r bwlch o ganrif a mwy rhwng ysgrifennu’r geiriau a chyfansoddi’r alaw sydd bellach yn rhan annatod o’r emyn.

Cysylltwyd alaw Hughes â’r testun Saesneg am y tro cyntaf yn ôl bob tebyg mewn rhifyn o’r Musical Salvationist (un o gyhoeddiadau Byddin yr Iachawdwriaeth) yn 1920. Ymddangosodd y cyfuniad hwn yn fuan mewn llyfrau emynau enwadol, megis The Methodist Hymn Book (1933). Er hynny, ni chafodd testun Cymraeg gwreiddiol William Williams ei gysylltu yn yr un modd mor agos â’r alaw. Yn hytrach, testun emyn ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’, gan Ann Griffiths (1776-1805), emynydd enwog arall o Gymru, fyddai’n cael ei argraffu gyda’r alaw hon yn aml.

Mae cymhlethdod pellach o safbwynt hanes yr emyn yn ymwneud â phatrwm melodaidd cymal olaf ond un alaw Hughes (a osodwyd i’r geiriau ‘feed me now and evermore’ ym mhennill cyntaf y cyfieithiad Saesneg). Yn ystod llawer o’r ugeinfed ganrif, cyhoeddwyd dwy fersiwn yn eang iawn mewn llyfrau emynau: un â’r alaw yn aros ar y nodyn uchel drwyddi draw uwchben llinell ddisgynnol y tenor cyn neidio’n ôl i fyny i’r nodyn uchel, tra bod y llall yn gwrthdroi’r rhannau yma, gyda’r tenoriaid yn cynnal y nodyn uchel wrth i’r alaw ddisgyn. Mae’r emynydd Joseph Herl wedi olrhain cyhoeddiad hysbys cyntaf yr alaw, a oedd yn defnyddio’r fersiwn gyntaf; cadarnhawyd geirwiredd y fersiwn hon gan sgôr o’r alaw mewn nodiant tonic sol-ffa a lofnodwyd gan y cyfansoddwr, a atgynhyrchwyd yn A History of Welsh Music.

Tuedd diddorol a mwy diweddar oedd gosod geiriau Cymraeg a Saesneg i ‘Cwm Rhondda’ yn yr un perfformiad, fel y clywir ar We’ll Keep A Welcome: The Welsh Album (1999) gan Bryn Terfel. Yma, gosodir penillion Cymraeg o waith Ann Griffiths a William Williams rhwng dau bennill o’r cyfieithiad Saesneg cyfarwydd. Er na fyddai hyn yn gwneud fawr o synnwyr yng nghyd-destun gwasanaeth crefyddol, lle mae llif naratif y testun yn bwysig, serch hynny mae’n brawf o boblogrwydd ‘Cwm Rhondda’ a’r modd y daethpwyd i’w hystyried yn enghraifft hanfodol o’r emyn-dôn Gymraeg. 



Diolch i raddau helaeth i’r ffaith iddo gael ei ganu’n frwd gan genedlaethau o gefnogwyr rygbi Cymru, ‘Bread of Heaven’ yw’r enghraifft gyntaf sy’n dod i feddwl llawer o bobl wrth feddwl am emynau Cymreig traddodiadol. Serch hynny, ychydig dros ganrif sydd ers i’r geiriau a’r gerddoriaeth gael eu cyfuno, tra bod hanes cerddorol tra gwahanol i’r emyn Cymraeg. Mae’r berthynas rhwng testun ac alaw yn aml yn gymhleth o safbwynt hanes emynau, ac mae hynny’n fwy gwir o ychwanegu cyfieithiad o’r testun i’r pair. Efallai fod rôl arferion wrth ymchwilio i hanes emynau’n bwysicach fyth. Er bod cyhoeddi hanes geiriau a cherddoriaeth yn bwysig, traddodiad llafar cryf sydd i ganu emynau hefyd, sy’n golygu nad yw’n rhyfedd bod fersiynau ychydig yn wahanol o alawon a thestunau’n bodoli ar y cyd. Er hynny, y cyfuniad yma o eiriau a cherddoriaeth yn y weithred dorfol o ganu, boed i gadarnhau ffydd grefyddol neu i ddathlu sgorio cais, sydd yn y pen draw’n rhoi’r fath statws i emynau.


Dysgwch fwy ar OpenLearn

 
 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?